Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

<poem> Mewn hiraeth, i weled man fechan ei bedd, A'i eneinio 'n hiraethlawn â'm dagrau. 'R oedd glaswellt yn tyfu yn siriol ei bryd, A blodau yn taenu dyhuddiant, Uwch y gwely o bridd lle gorweddai ynghyd Fy nghariad, fy ngobaith, fy mwyniant; Ond nis gallai 'r bedd lyncu 'r meddwl am Gwen, A'i hadgof gorberaidd fydd bellach Nag unrhyw hyfrydwch na phleser is nen I'm calon yn llawer anwylach. 1875. Un arall sydd yma, yn dweyd ei deimlad wedi colli Gwen. Bum yn crio mwy wrth ysgrif. enu hon nag wrth gyfansoddi bron ddim a wnes erioed. Yr oedd meddwl am M. wedi marw yn fy llethu.