Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A phan y digwydd i'r neb a'i cyferfydd,
Wrth weld ei hunigrwydd a byrder ei cham,
Ofyn ei siwrnai, ei hateb fyddai,—
Rwy'n mynd i Baradwys i fyw at fy mam."

Ben bore wedyn cafwyd y plentyn
Megis mewn cynt-hun tawel a thlws,
Wedi rhynu ar risiau lleiandy,
A'i phen bach yn gorwedd ar riniog y drws;
I fewn ar fynwes tyner fynaches
Aethpwyd a'r fechan i stafell glyd,
Diosgwyd am dani, gwnaed popeth i'w chynhesu,
A'i hadfyw; ond ofer fu'r cwbl i gyd.

Eto, am eiliad agorodd ei llygad,
Gwasgodd eto ei gwefusau ynghyd,
Fel i ddweyd "Ffarwel" wrth ofid ac oerfel;
Yna rhoddodd ei henaid lam,
Nid i ddiddymdra, nid i dywyllfa,
OND I BARADWYS,
Yno i orffwys yn mynwes ei mam.