Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

<poem>

Oddicartref. AR OL CYFEILLES. Anadnabyddus i mi.* R diffodd o'i bywyd cyn imi erioed A'm llygad o gnawd ei gweled, A thewi ohoni cyn imi erioed A'm clust o gnawd ei chlywed; 'R wyf wedi ei gweled, ac ar fy nghlyw Ei llais mwyn a dwys fu'n disgyn Ym myd fy nychymyg mae eto'n fyw, Ac eto'n ddi-boen, megis plentyn. 93 Mae'r son am ei rhinwedd, a'i thymer gu, Am burdeb serchog ei dwyfron, Am dlysni ei gwenau, a'i dau lygad du, Wasgarent ar bopeth eu swynion, A'i thyner ieuenctid, a thegwch ei gwedd, A'i phrudd-der, a grym ei thrallodion, A chwerwder y dagrau gysegrant ei bedd; Wedi ennyn holl serch fy nghalon. Nid unwaith na dwywaith y bum uwchben Y llannerch amdoa'i gweddillion, Nid unwaith na dwywaith y wylais uwchben Tir angof y fath ragorion; Uwch angeu morgynnar, uwch aberth morgu, Uwch siomiant y fath obeithion, Uwch meddwl, er caru ohonof fi, Na bum i ymhlith ei chyfeillion.

  • Merch i ffrind i mi yn y dref hon (Birmingham). Bu farw

yn niwedd 1875, cyn i mi ddyfod yma; ond yr wyf wedi clywed cymaint am ei rhagoriaethau, a'i thrallodion carwriaethol, ag i deimlo dyddordeb anghyffredin yn ei hanes, fel yr awgryma yr ychydig benillion hyn.