Ac O mor deg dyheu am oes i'w charu,
I'w pharchu, i'w hamddiffyn, i'w boddhau.
Y Nef a ŵyr mor werthfawr i fy llygaid
Oedd dim ond deigryn yn ei llygad du,
A minnau wn mor gyfyng ar fy enaid
Oedd gweld nad oedd ei chalon man y bu.
Bu im rieni, anwyl iawn a thyner,
Fuasent barchus unwaith yn y byd,
Er nad yn esmwyth, nac à mwyniant lawer,
Eto heb ddarostyngiad yn eu pryd.
Ond adfyd ddaeth, ac angeu, a phruddhad,
Hyder a gobaith ymaith wedi cilio;
Cydnabod yn troi draw, a nerth fy nhad
Cyn hanner cant mewn tristwch yn diffygio.
Fy nghalon innau wasgwyd hyd ei llethu
Gan bwys y ddyrnod, a chan rym eu gwae,
A'm mynwes ysid gan ymawydd gallu
Ysgafnu'r baich oedd beunydd yn trymhau.
Gobeithiais lawer, a dymunais fwy,
A phenderfynais, os fy llwyddai Duw,
Y mynnwn yn y man eu gweled hwy
Uwch angen a bys anfri eto'n byw.
Uwch angen a bys anfri aethant mwy,
Ond nid trwy'm cymorth i. Y Gelyn Olat
Wnaeth y gymwynas bennaf iddynt hwy;
A chyda'u llwch yr huna'm hawydd hoffaf.
Ac erbyn heddyw wele wedi trengu
Fy ngobaith cyntaf pan yn blentyn iach,
A'm gobaith olaf yma, fyth ond hynny-
Ofer gobeithio byw ond ennyd bach.
Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/114
Gwirwyd y dudalen hon