Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oddicartref. Ond trenged. er mor gu, obeithion bywyd, A gwaeded gan ei briw fy nghalon wan, Ac aed fy nghorff i orwedd man yr huna 'R anwylaf oll, dan ddwys briddellau'r llan. Mae gobaith eto sydd mor ddwfn ei wraidd A gwraidd fy hanfod i, a'i gangen ir, A'i ddeilen werdd, uwch awyr byd a draidd Tuhwnt i'r ser, i awyr bywyd pur. Mae eto fyd yn ol a lwyr gyflawna Ein poenus ddiffyg yma, man y cawn Fyth yfed per ddedwyddwch o gostrelau Oedd yma fyth o chwerwder yn llawn. Mesur ein diffyg yma a fydd yno Fesur ein llawnder mwy. Ac O fwynhad,- Cael Mary Ann dros byth i'm caru eto, 97 A gweld mewn gwynfyd mwy fy mam a'm tad.