Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

130[1] Yr Iesu yn ei roddi ei Hun.
M. H.

1 O'R holl fendithion gadd y byd,
Wel dyma'r fwyaf un i gyd;
I'm Iesu ei Hun
Dros aflan ddyn roi'i fywyd pur.

2 Wel, f'enaid, bellach dos ymlaen,
Nac ofna ddŵr, nac ofna dân;
Aeth dan y groes,
Ac angau loes, ei Hun o'm blaen.

3 Boed iddo mwy ganiadau clod,
Tra fyddo daer a nef mewn bod;
Ac na foed sôn
Ond am yr Oen a'i farwol glwyf.

4 O! dweded pawb am rin y gwaed,
Maddeuant llawn, maddeuant rhad;
Dim achwyn mwy,
Ond canu am glwy' Calfaria fryn.

William Williams, Pantycelyn


131[2] Cariad at Grist..
M. H.

1 WRTH droi fy ngolwg yma i lawr
I gyrrau'r holl greadigaeth fawr,
Gwrthrych ni wêl fy enaid gwan
Ond Iesu i bwyso arno'n rhan.

2 Dewisais Ef, ac Ef o hyd
Ddewisaf mwy tra fwy'n y byd ;
Can' gwynfyd ddaeth i'm henaid tlawd-
Cael Brenin nefoedd imi'n Frawd.

3 Fy nghysur oll oddi wrtho dardd;
Mae'n Dad, mae'n Frawd, mae'n Briod hardd ;
F'Arweinydd llariaidd tua thref,
F'Eiriolwr cyfiawn yn y nef.


  1. Emyn rhif 130 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 131 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930