4 Ef garaf bellach tra fwyf byw,
Uwch creaduriaid o bob rhyw ;
Er gwaethaf daer ac uffern drist,
F'Anwylyd i fydd Iesu Grist.
William Williams, Pantycelyn
132[1] Hyder yn yr Eiriolwr.
M. H.
1 PECHADUR wyf, da gŵyr fy Nuw,
Llawn o archollion o bob rhyw,
Yn byw mewn eisiau o waed y groes
Bob munud awr o'r dydd a'r nos.
2 Yng nghanol cyfyngderau lu,
A myrddiwn o ofidiau du,
Gad imi roddi pwys fy mhen
I orffwys ar dy fynwes wen.
3 O! cofia fi gerbron y Tad,
A dangos iddo werth dy waed ;
O! dadlau'n awr yng nghanol ne'
It roi dy fywyd yn fy lle.
4 Gad imi dreulio 'nyddiau i gyd
I edrych ar dy ŵyneb-pryd ;
Difyrru f'oes o awr i awr
I garu fy Eiriolwr mawr.
William Williams, Pantycelyn
133[2] Y Ffordd Newydd.
M. H.
1 FFORDD newydd wnaed gan Iesu Grist
I basio heibio i uffern drist,
Wedi ei phalmantu ganddo Ef,
O ganol byd i ganol nef.
2 Agorodd Ef yn lled y pen
Holl euraid byrth y nefoedd wen;
Mae rhyddid i'w gariadau Ef
I mewn i holl drigfannau'r nef.