Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MRS. ISAAC: "Am bwy gwrdd o chi'n wilia-nos Iau nesa, Mrs. James?

MRS. JAMES: Oh, ia'n wir on i just wedi anghofio'n necas i gyd-wedi i foddi yn y tê melys ma (yn gwenu). Wel, ma cwrdd nos Iau, ar ol y Gyfeillach, i wilia bothdi càl Tê a Choncert i gàl mwy o arian i roi i Mr. Williams y Gweinitog. 'Dyw a ddim wedi càl cwnad er pan ddechriws y rhyfal ofnadw ma."

MRS. JOHN : 'Wel, yn wir, mae'n hen bryd gneud rhyw beth. Mae'r Gweinidog yn treulio scidie a dillad, ac yn gorfod talu rhagor am ei fwyd fel pawb arall, er y gallech chi gredu wrth glywed rhai dynion-a rhai yn ennill cyflog fawr iawn-" MRS. JAMES:"Oh, nhw yw'r gwitha'n amal." MRS. JOHN:Rhai o'r dynion hyn sy'n bwyta―" MRS. JAMES: Mrs. John, i chi'n fwy polite na fi, stwffo' fyswn i'n weyd, wàth w i wedi'i gweld nhw a'm lliced 'm hunan."

MRS. JOHN: "Yn bwyta ac yn yfed a gwisgo—llawer gwell wedi'r rhyfel ddechre na eriod o'r blaen-yn siarad fel pe bae'r Gweinidog yn gallu troi'r chwech yn swllt, a hanner sofren yn sofren."

MRS. JAMES (yn gwenu): "Na, dim ond grocers sy'n gallu gneyd gwyrthia."

MRS. JOHN: "A dynion sy'n berchen llonge!" MRS. JAMES: "O ma rhai o nhw just mor glevar â Moses i neud gwyrthia."

MRS. JOHN "Ie, ond nid drwy yr un ysbryd, Mrs. James."

MRS. JAMES (yn chwerthin): "Da iawn, wir, Mrs. John, ŵ chi'n diall napod."

MRS. JOHN : Wel, nawr, dewch, beth am y cwrdd nos Iau ?

MRS. JAMES: "Wel, fel y dwetas i, ma'r coliars a'r clerks, meiswnied,-pawb wedi càl cwnad ond y pregethwr, a ma'n bryd neud rhwpath i helpu Mr. Williams."