Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MRS. JOHN: Odi'n wir, Mrs. James. Meddylwch, nawr, dim ond dwy bunt yr wythnos mae yn gael, a ma Henry ni a Robert chi, Mrs. James, yn ennill o bedwar i bum' punt yr wythnos. Beth y'ch chi'n feddwl, Mrs. Isaac ? "

MRS. ISAAC: Wel, yn wir, Mrs. John, dwy i ddim yn gweld fod isha llawer o arian arno fa, dim ond dou 'n nhw nawr, ar ol i Jenkin―y ffwl bach na-i rytag off."

MRS. JAMES: Ond y'n i wedi cwnni arian Mrs. Roberts sy'n glanhau'r capal, achos bod brwshis a sebon, a phetha erill wedi cwnni yn 'i prish, a ma llifre wedi cwnni fel popath arall."

MRS. ISAAC: Llifra Pwy isha llifra newydd sy byth a hefyd? Mà dicon o lifra gita fa, gwnaiff yr hen lifra'r tro. Dishglwch ma, isha diwiciad sy arno ni. (Mrs. John a Mrs. James yn gwenu).

MRS. ISAAC: Be chi'n werthyn, Mrs. John."

MRS. JOHN: "Oh, dim byd, Mrs. Isaac, cerwch ym mlaen."

MRS. ISAAC: "A beth sy gyta'r hen lifra i neud â di- wiciad? Nid càl 'i dalu am y tools ma John ni, ond am y drams mà f'an lanw. Payment by results ma John yn yn 'i alw fa. A fyswn i'n folon rhoi tair cinog y mish yn rhacor at y Weinidocath am bob aelod newydd. (Cnoc arall wrth y drws).

MRS. JOHN: Dewch i fewn." (Mrs. Francis yn agor y drws).

(Benyw ychydig yn eithriadol ydyw Mrs. Francis. Canol oed, ac wedi gwisgo yn ddestlus; un o'r gwragedd sydd yn addurn i'r Eglwys).

MRS. FRANCIS: Galw am funud wrth fynd heibio wy i, Mrs. John."

MRS. JOHN (yn codi ar ci thraed, ac yn croesi at Mrs. Francis): Dewch i fewn, Mrs. Francis, dewch i fewn.' " MRS. FRANCIS: Prynawn da i chi gyd. Na, eistedda i ddim, diolch, Mrs. John; ar y ffordd wy i i weld Mari Christopher. Mae'r hen wraig, fel y gwyddoch, yn afiach iawn ers tair wythnos nawr, ac yn teimlo'n unig iawn,