Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd, mae'r rhyfel wedi rhoi ergyd caled iawn iddi hi, sy'n byw ar y plwy'. Mae eisieu rhagor o bobpeth ar bawb yn y dyddiau ofnadwy hyn."

Mrs. JOHN: Wel, Mrs. Francis, dyna beth o ni'n siarad am dano pan oech chi'n cnoco wrth y drws. Siarad o'n ni am y cwrdd nos Iau nesa i godi cyflog Mr. Williams. Ma Mrs. James a finne o'r un feddwl nad yw Mr. Williams yn cael digon, ond mae Mrs. Isaac yn credu'n wahanol. Ond eisteddwch i lawr am funud, Mrs. Francis, eisteddwch i lawr/'

(Mrs. Francis yn eistedd i lawr).

Mrs. Isaac : Fel hyn, Mrs. Francis, càl 'i dalu wrth y dynnell mà John ni, dim llanw drams, dim arian. Payment by results, mà John yn 'i alw fa."

Mrs. Francis : O, yn wir, payment by results. Hm! (yn aros eiliad, yn edrych yn fyfyrgar, ac yn taro'r bwrdd ai bysedd), na dw i ddim yn cydfynd a Mrs. Isaac

Mrs. Isaac : Wel, pam, Mrs. Francis, oti chi'n cretu y dyla gweinitog gàl i dalu yn ots na choliar ? Dyw coliar ddim yn càl i dalu am wilia am lanw drams, ond am lanw drams. Dw i ddim yn cretu y dyla gweinitog gàl lot fawr o arian, os nag yw yn gneud lot o waith — llanw'r capal, càl aelota newydd bob) Sul — payment by results."

Mrs. Francis : Payment by results. Na, Mrs. Isaac, dw i ddim yn credu yn hollol yn y dull yna o dalu gweinidogion. Elent yn rhy gyfoethog " (yn edrych i lygaid Mrs. Isaac).

Mrs. ISAAC : "Ha ! ífa ! Ha ! (Mrs. John a Mrs, James yn gwenu ychydig). Wel, yn wir, Mrs. Francis, do'n i ddim yn cretu y galla chi graco cystal jokes."

Mrs. Francis : Mrs. Isaac, fum i 'rioed yn berson humorous iawn, er, cofiwch, mod i'n hoff o chwerthiniad iachus a joke dda yn 'i lle — ond fum i 'rioed yn fwy difrifol. Payment by results ! Dywediad un arall yw hwn, yr elai gweinidogion yn rhy gyfoethog pe baent yn cael eu talu fel y dwedsoch chi, by results. Ond rwy i 'or un farn yn llwyr. Mrs. Isaac, rwy'n siwr nad ŷch chi ddim wedi anghofio i John, eich gwr, fod yn wael iawn am