Tudalen:Orgraff yr Iaith Gymraeg (adroddiad 1928).djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddiannu am na seinid dwy (meddent), ac ar yr un pryd yn rhoi dwy yn annoeth; beirniadent gyfundrefn wreiddeiriol Pughe yn llym, a derbynient ei chynhyrchion hacraf, fel anmharch a dyben, yn erbyn eu hegwyddor seiniol eu hunain. Eraill, i arbed trafferth, ni fynnent ddyblu dim yn unman. Ac nid oedd yr un blaid yn gytûn ar bob pwnc, eithr fe ffynnai pob cymysgedd. Ar fyr, nid heb reswm y dywedid bod gan bob ysgrifennydd a phob argraffwr Cymraeg ei orgraff ei hun.

Yr oedd y teimlad yn gryf fod "y diffyg hwn yn taflu cryn ddirmyg ar ein hiaith"[1]; ac fe wnaed llawer ymgais i "sefydlu'r orgraff". Yn 1840, drwy bleidlais llenorion. ac argraffwyr a gymerwyd gan Gymdeithas Gymreigyddol y Fenni, fe ddewiswyd pwyllgor o bump i'w "sefydlu", sef Tegid, Caerfallwch, Caledfryn, Aneurin Owen a Samuel Evans; ond wedi gohebu ychydig â'i gilydd, gwelsant na allent gytuno, ac ni chyfarfuant.[2] Yn Eisteddfod Tremadog yn 1851 bu'r beirdd a'r llenorion yn ystyried y mater, ond gohiriwyd y drafodaeth hyd Eisteddfod oedd i fod yn Nolgellau, ac na fu.[3] Yn Eisteddfod Llangollen, 1858, fe'i hystyriwyd ganddynt drachefn; penodwyd R. I. Prys a T. Stephens i baratoi cynllun, ac i gael llais llenorion Cymru arno. Hynny a fu; atebodd trigain, ac yr oedd. mwyafrif mawr o blaid y cynllun; cyhoeddwyd ef, gyda geirfa a chrynodeb o'r ohebiaeth, yn llyfryn dan y teitl Orgraph yr Iaith Gymraeg, gan R. I. Prys a Thomas Stephens, Dinbych 1859; a dilynwyd y trefniant yn swyddfa Mr. Gee. Dulliau'r blaid ganol a gymeradwyid; ond safodd Silvan Evans o'r naill du, a chyhoeddodd lyfr ei hun ar y pwnc, Llythyraeth yr Iaith Gymraeg, Caerfyrddin 1861, yn gwahaniaethu mewn llawer o fanylion oddi wrth y llall. Ac nid oedd yr orgraff ronyn nes i'w sefydlu.

  1. Mendus Jones, eto td. 33.
  2. Y Gomerydd, td. 1-2.
  3. Eto td. 3; Y Dysgedydd 1851, td. 349.