Tudalen:Orgraff yr Iaith Gymraeg (adroddiad 1928).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar dybiau di-sail. Yr oedd gwŷr o farn a gwybodaeth yn canfod hyn trwy reddf, ac yn sefyll yn gadarn dros orgraff draddodiadol Dr. Davies; yr "hen ysgol" neu'r "Dafisiaid" y gelwid y rhain, mewn cyferbyniad i'r "ysgol newydd" neu'r "Puwiaid".[1] Yn ffortunus, fe lwyddodd yr hen ysgol i rwystro i'r newydd gael ei ffordd ym mater llythreniad y Beibl,[2] er na ddihangodd hwnnw heb amharu peth arno. Ni allai Gwallter Mechain gyd-fyned â'r un o'r ddwyblaid "i eithafoedd eu daliadau ".[3] Ni fynnai mo anmharch, bywán, dyben y Puwiaid yn lle ammharch, bywhau, diben y Dafisiaid; ond fe gytunai â'r calonau newydd yn lle'r hen galonnau. Dilynwyr iddo ef oedd plaid y llwybr canol yng nghanol y ganrif; yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn unfarn ag ef ar y prif bwyntiau, er bod rhai o'u harweinwyr, fel R. I. Prys, Silvan Evans a T. Rowland, yn gyndyn ar y cyntaf i wrthod camffurfiau fel dyben.[4] Erbyn hynny ychydig oedd nifer y rhai a lynai'n gyfan wrth yr hen orgraff; ond yr oedd llawer, fel Huw Tegai[5] a Samuel Evans,[6] yn cefnogi'r newydd yn ei holl wrthuni. Yr oedd hefyd bleidiau newyddach na'r newydd rhai, fel Caledfryn[7] a Mendus Jones,[8] yn dal, yn erbyn hen a newydd a chanol, mai un n oedd i fod yn

  1. D. Silvan Evans, Llythyraeth yr Iaith Gymraeg, 1861, td. 3.
  2. Reasons for rejecting the Welsh Orthography that is proposed, etc., by the Rev. John Roberts [Tremeirchion], Carmarthen 1825; A Defence of the Reformed System of Welsh Orthography, being a Reply to the Rev. John Roberts's Reasons... by the Rev. John Jones [Tegid], Oxford 1829; Remarks on the Welsh Language, in which the Orthography of the Received Text is vindicated ... by the Rev. W. B. Knight, Cardiff 1830; A Reply to the Rev. W. B. Knight's Remarks... by the Rev. John Jones, London 1831; A Critical Review of the Rev. Jolen Jones's Reply... by the Rev. W. B. Knight, Cardiff 1831; gweler penderfyniadau'r S.P.C.K. a'r B.F.B.S. a nodiad ar ymddygiad Tegid, yn yr olaf, td. 128-9.
  3. Y Gwyliedydd, 1829, td. 65, Gwaith... Gwallter Mechain, ii 236.
  4. Daeth y tri o'r diwedd i dderbyn y ffurf gywir diben, Silvan yn olaf oll yn ei eiriadur, 1896, gweler dan di—.
  5. Gramadeg... [1844], ail arg. 1850.
  6. Y Gomerydd, 1854—
  7. Drych Barddonol... 1839, td. xiii; Gramadeg... 1851, td. 70
  8. Gramadeg... 1847, td. 34—