Tudalen:Orgraff yr Iaith Gymraeg (adroddiad 1928).djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

J.D.R. (1592) yn dyfeisio cyfundrefnau cyson o lythrennu, ag arwyddion newydd, fel gan y naill a dh gan y llall am δ ond y gyfundrefn a ddefnyddiwyd gan Dr. Morgan. ym Meibl 1588 a orfu, a hi yw'r egwyddor Gymraeg gyffredin heddiw. Nid oedd yn hon ddim ond arwyddion arferedig; yr unig ymadawiad â'r traddodiad ynddi oedd neilltuo un arwydd i un sain (oddieithr ph ac ff[1]), ac un sain i un arwydd (oddieithr dwy i y). Ym Meibl 1620 ni newidiodd ei olygydd, Dr. Davies, ddim ar gyfundrefn lythrennau Dr. Morgan, ond fe ddiwygiodd ei iaith drwy roi ffurfiau llenyddol yn lle rhai tafodieithol; ac er iddo newid ambell beth er gwaeth (§ 45 (1)), eto ar y cyfan y mae ei Gymraeg yn dilyn y traddodiad llenyddol yn ffyddlonach. Y Beibl hwn, gyda geirlyfr Dr. Davies, 1632, a gydnabuwyd yn safon yr orgraff hyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Yna dechreuodd geiriadur mawr W. Owen (wedi hynny y Dr. W. Owen Pughe) ymddangos yn rhannau, a chwplawyd ef yn 1803. Yn hwn newidiwyd llythreniad cannoedd o eiriau, am fod yr awdur yn tybio'i fod ef wedi darganfod cynllun anffaeledig i lythrennu'n gywir. Dyma sylwedd y cynllun yn ei eiriau ef ei hun:

Harddwch yr iaith yw bod ei geiriau yn dangaws ei defnydd cysefin yn amlwg; a chan hyny iawn yw ysgrifenu pob gair yn null ei ddefnydd, heb na mwy na llai o lythyrenau nog à fyddo yn ei rànau cysefin ar wahan, rhag cuddiaw ei ddechreuad neu ei darddiad.[2]

Yr oedd y "defnydd" yn "amlwg" am y gellid dadelfennu pob gair ar drawiad i "rànau cysefin" o ffurf ab, ba, eb, be, ib, bi, etc. Gwyddom yn awr nad yw'r elfennau hyn, a'r ystyron a roid iddynt, ond dychmygion gwacsaw; felly dyma orgraff wedi ei sylfaenu, nid ar ffeithiau hanes, ond

  1. Ac weithiau'r hen c, heblaw g, am g derfynol, § 100 (5).
  2. Cadwedigaeth yr Iaith Gymraeg, Bala 1808, td. 12.