Tudalen:Orgraff yr Iaith Gymraeg (adroddiad 1928).djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

DEFNYDD iaith yw seiniau llafar, a defnydd ysgrifen yw arwyddion gweledig i gyfleu'r seiniau. Felly y mae dwy gainc i broblem yr Orgraff: (1) penderfynu pa seiniau sydd i'w cyfrif yn safonol; (2) dethol yr arwyddion gorau i'w cyfleu. Yr oedd beirdd yr oesoedd canol yng Nghymru wedi setlo'r cwestiwn cyntaf, neu'n hytrach, efallai, yr oedd y cwestiwn wedi ei setlo iddynt gan hen draddodiad eu crefft. Nid oes wahaniaethau tafodieithol yn eu gwaith; yr un yw iaith Gwalchmai yng Ngwynedd, Cynddelw ym Mhowys, a Gwynfardd Brycheiniog yn Neheubarth. Yr oedd gan Gymru eisoes iaith lenyddol, gyffredin i bob rhanbarth, a chyson â hi ei hun. Ond ni chyrhaeddodd yr ysgrifenyddion ddim tebyg i'r unffurfiaeth a'r cysondeb hwn yn eu gwaith hwy. Hyd yn oed yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, er enghraifft, fe arferid d am y seiniau d ac δ; ac i gyfleu'r sain v fe ddodid f ar ddiwedd gair, ond u neu v ar ei ddechrau, ac u, v, fu, fv neu f yn ei ganol.

Yn y ganrif honno y cychwyn cyfnod yr iaith lenyddol ddiweddar. Yr oedd y gynghanedd gaeth wedi cyrraedd ystad uchel o berffeithrwydd, a'i rheolau'n gofyn cywirdeb manwl yng nghyfatebiaeth seiniau; trwy hynny fe sefydlwyd ffurfiau'r iaith awdurol yng ngweithiau beirdd y ganrif; fe aeth eu hesiampl yn safon na oddefid gwyro oddi wrthi, ac fe gadwyd y traddodiad llenyddol yn hynod ddi-lwgr mewn barddoniaeth hyd yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ystod hynny yr oedd yr arwyddion yn mynd yn fwy diamwys; fe ddaeth dd, er enghraifft, o fod yn arwydd eithriadol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn arwydd rheolaidd am y sain δ yn y bymthegfed. Yn yr unfed ar bymtheg bu gramadegwyr fel G.R. (1567) a