Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i lawr pan gyraeddasant yno, bu ddeuddydd neu dri o hyd dyddiau'r ddaear cyn cilio o'r golwg yn llwyr. Pan ddaeth y tywyllwch teimlent yn swrth iawn, ac er pob ymdrech i gadw'n effro, syrthiasant i gysgu. Cymerodd dyn y lleuad hwy bob yn un yn ei freichiau, a chludodd hwy i ogof fawr dan fynydd uchel, rhag i un o'r cerryg mawr ddisgyn o'r gwagle uwchben a'u lladd yn eu cwsg. Buont yn cysgu'n hir, a'r dyn yn eu gwylio. Weithiau gwenent yn eu cwsg, ac weithiau gwelid dagrau'n disgyn i lawr eu gruddiau o'u llygaid caead, ac yn rhewi o un i un nes ymddangos fel rhes o berlau yn hongian oddiwrth flew eu llygaid. Dyna Foses yn y man yn neidio'n wyllt ar ei draed, ac yn rhoddi sgrech annaearol, neu, o leiaf, yn rhoddi ffurf sgrech. Ond er i'w wyneb fynd i bob ffurf, a'i enau agor fel popty, ni chlywid dim.

A welsoch chwi, rywdro, geiliog wedi colli'i lais yn canu? Naid i ben y domen, ysgwyd ei adenydd, estyn ei wddf, egyr ei enau, ac ymddengys fel pe'n gwthio darn o asgwrn o'i wddf,—a dyna'r cwbl. Ni chlywir na chân na griddfan ganddo. Cân ddiddorol yw cân ceiliog mud. Felly Moses. Edrychodd yn wyllt o'i amgylch yn y tywyllwch, heb oleu yn unman, ond rhyw adlewych gwan o oleu'r ddaear a dywynnai ar y lleuad o'r tuallan i'r ogof, ar y dagrau ar ruddiau'r ddau. Yr oedd ут hen ddaear garedig yn glynu yn eu dagrau hwy o hyd. Rhuthrodd Moses ymlaen, ac