Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth basio yn ei ruthr, rhoddodd gic i Ddic a'i deffroes. Edrychodd Dic a'r dyn arno'n syn. Gwelent ar ei wefusau, rhyngddynt a genau'r ogof, mai'r hyn y ceisiai ei ddywedyd oedd,—

"Lle mae hi? Lle mae hi?"

Aeth Dic ato, rhoddodd ei law'n dyner ar ei ysgwydd, a chafodd ganddo eistedd. Daeth gwên hiraethus ar ruddiau Dic wrth weld yr hen ddaear, o enau'r ogof, yn goleuo dagrau Moses, a fuasai'n anweledig onibai am hynny, a chofio mai goleuni'r hen gartref ydoedd. Canys, erbyn hyn, edrychent ar y ddaear oll, o'r pellter hwn, fel eu cartref, fel yr edrych Cymro pan fo ymhell o dir ei wlad ar Gymru oll fel cartref iddo, er na welodd ef erioed mo'i hanner.

"Lle rydwi? Lle rydwi?" ebe Moses yn wyllt.

"Yn y lleuad, Moses bach, tawela, machgen i," ebe Dic.

Rhoddodd Moses ei ddwylo ar ei wyneb, a'i benelinoedd ar ei bennaugliniau, ac wylodd yn hidl. Disgynnai ei ddagrau'n un pistyll, a rhewent fel y disgynnent, nes eu bod wedi rhewi'n llinyn gan gydio'r llawr a llygaid Moses wrth ei gilydd, fel na allai symud. A gwelodd Moses, beth bynnag oedd ei ofid, mai callach oedd peidio ag wylo yno. Nid yw'n talu i wylo ymhob man. Ac nid oes eisiau wylo, mwy na rhywbeth arall, oni byddo'n talu. Dyna gyngor dyn y lleuad iddo.