Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI

DECHREU ESBONIO

O'R diwedd machludodd y ddaear a diflannodd ei goleuni, ond arhosodd y goleuni yn hir wedyn yn llygaid y bechgyn, gan ddangos o flaen eu llygaid luniau o'r hen gartref. Eithr cilio a wnaeth o'u llygaid hwythau hefyd, canys ni all goleuni'r ddaear aros yn hir iawn heb y ddaear ei hun. Er crwydro ohono oddiwrthi dros dro, rhaid yw iddo fynd adre'n ôl os mynn fyw, er yr erys mewn llygaid yn hwy nag mewn dim arall. Dyna paham y gwelwch hen olygfeydd sy'n annwyl i chwi ymhell ar ôl mynd o olwg yr hen wlad. Ond rhaid mynd i olwg yr hen wlad yn awr ac eilwaith os yw ei goleuni i barhau yn eich llygaid.

Wedi i'r pelydryn olaf o oleuni'r ddaear ddiflannu o lygaid Dic a Moses, dechreuodd hyd yn oed Dic, yntau, fynd yn drist a'i wefusau'n rhyw gychwyn crynu, a'i lygaid lenwi braidd.

Wedi aros yn hir yn fud,—

"Meddwl 'roeddwn i," eb ef wrth Foses, cyn ddewred ag y medrai, "am yr eneth honno a'm helpiodd i i ddeyd f'adnod y nos Sul cyn y dwaetha, hwyrach ei bod hi mewn rhyw gornel rwan yn dysgu un newydd." Ac edrychodd i fyw llygaid Moses, a Moses i fyw ei lygaid yntau, a'r