Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond y lleuad sydd heb ddim awyr. Dene pam na chlywn ni mo'r cerryg mawr yma'n disgyn ar y lleuad. Pe na bae awyr yn eich byd chi—y ddaear—ni chlywech byth nac aderyn bach yn canu, na bwrlwm dŵr, na siffrwd y coed, na tharan, na gwenynen yn murmur hedeg, na llais eich mam, na bref oen bach, ac ni chlywe Moses byth mo'r eneth honno'n canu 'O! tyred yn ol.'"