Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/400

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r ARGLWYDD arno ef y baich hwn.

º26 Diau, meddai yr ARGLWYDD, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

º27 Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a yrnlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno.

º28 A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.

º29 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg’i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda.

º30 A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr.

º31 A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch "i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr?

º32 Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef.

º33 Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a’i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a’i mathrodd hi.

º34 A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a. chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi.

º35 A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo.

º36 Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y own gnawd Jesebel:

º37 A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.

PENNOD 10 º1 AC i Ahab yr oedd deng mab a thrigain Ax yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd,

º2 Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau:

º3 Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dy eich arglwydd.

º4 A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o’i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?

º5 Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan ‘ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r byn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg.

º6 Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd xxxx a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.

º7 A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel.

º8 A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywed¬odd yntau, Gos-