Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/401

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

odwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore.

º9 A’r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a’i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?

º10 Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr ARGLWYDD i’r ddaear, yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD am dy Ahab: canys gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was.

º11 Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, ‘fel na adawyd un yng ngweddill.

º12 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria. Ac fel yr oedd efe wrth dy cneifio y bugeiliaid ar y ffordd,

º13 Jehu a gyfarfu a brodyr Ahaseia brenin Jwda, ac a ddywedodd, Pwy ydych chwi? Dywedasant hwythau, Brodyr Ahaseia ydym ni; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin, ac i feibion y frenhines.

º14 Ac efe a ddywedodd, Deliwch hwynt yn fyw. A hwy a’u daliasant hwy yn fyw, ac a’u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, sef dau ŵr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr ohonynt.

º15 A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu a Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, xxx ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd.

º16 Ac efe a ddywedodd. Tyred gyda mi, a gwêl fy sel i tuag at yr ARGLWYDD. Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef.

º17 A phan ddaeth efe i Samaria, efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias.

º18 A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig, ond Jehu a’i gwasanaetha ef lawer.

º19 Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a’i holl offeir¬iaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal.

º20 A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a’i cyhoeddasant.

º21 A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd.

º22 Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.

º23 A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr ARGLWYDD, ond addolwyr Baal yn unig.

º24 A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osod? odd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.

º25 A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allari; Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf: a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.

º26 A hwy a ddygasant allan ddelwau. tŷ Baal, ac a’u llosgasant hwy.

º27 A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dy Baal, ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.

º28 Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.

º29 Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a’r rhai oedd yn Dan.

º30 A’r ARGLWYDD a ddywedodd with Jehu, Oherwydd i ti wneuthur