Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/713

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni.

2:28 Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda.

2:29 Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn, medd yr ARGLWYDD.

2:30 Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.

2:31 O genhedlaeth, gwelwch air yr ARGLWYDD: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?

2:32 A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif.

2:33 Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus.

2:34 Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll.

2:35 Eto ti a ddywedi. Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais.

2:36 Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria.

2:37 Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a’th ddwylo ar dy ben: oblegid yr AR¬GLWYDD a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.


PENNOD 3

3:1 Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

3:2 Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir a’th buteindra, ac a’th ddrygioni.

3:3 Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.

3:4 Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid?

3:5 A ddeil efe ei ddig byth? a’i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.

3:6 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.

3:7 A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny.

3:8 A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd.

3:9 A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi.

3:10 Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr ARGLWYDD.

3:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.

3:12 Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr AR¬GLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.

3:13 Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr AR¬GLWYDD.

3:14 Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr ARGLWYDD; canys myfi a’ch priodais chwi: a mi a’ch cym