Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/714

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

meraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a’ch dygaf chwi i Seion:

3:15 Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a’ch porthant chwi a gwybodaeth, ac a deall.

3:16 Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni ddywed¬ant mwy. Arch cyfamod yr ARGLWYDD; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.

3:17 Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr ARGLWYDD; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr ARGLWYDD, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.

3:18 Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi.

3:19 Ond mi a ddywedais. Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.

3:20 Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr ARGLWYDD .

3:21 Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israeli: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr ARGLWYDD eu Duw.

3:22 Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr ARGLWYDD ein Duw.

3:23 Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr ARGLWYDD ein Duw ni.

3:24 Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid; eu defaid a’u gwartheg, eu meibion a’u merched.

3:25 Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.


PENNOD 4

4:1 Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir.

4:2 A thi a dyngi, Byw yw yr ARGLWYDD, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.

4:3 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD wrth wŷr Jwda, ac wrth Jerw¬salem: Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain.

4:4 Ymenwaedwch i’r ARGLWYDD, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion.

4:5 Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i’r dinasoedd caerog.

4:6 Codwch faner tua Seion; ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd, a dinistr mawr.

4:7 Y llew a ddaeth i fyny o’i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o’i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.

4:8 Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr ARGLWYDD ni throes oddi wrthym ni.

4:9 Ac yn y dydd hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a’r proffwydi a ryfeddant.

4:10 Yno y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.

4:11 Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerwsalem, Gwynt sych yr uchel-leoedd yn y