Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/768

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º1 FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i;

º2 A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a’i nithiant hi, ac a wacant ei thir hi, pherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o. amgylch ar ddydd blinder.

º3 Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi.

º4 Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi.

º5 Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei DDUW, gan ARGLWYDD y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel.

º6 Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei him: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r ARGLWYDD; efe a dal y pwyth iddi hi.

º7 Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr ARGLWYDD, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant.

º8 Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagi i’w dolur hi, i edrych a iachâ hi.

º9 Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i’w wlad: canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau.

º10 Yr ARGLWYDD a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr ARGLWYDD ein Duw.

º11 Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr ARGLWYDD a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i’w dinistrio hi; canys dial yr ARG&WYDD yw hyn, dial ei deml ef.,: .,_

º12 Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr ARGLWYDD a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon.

º13 Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd-dod.

º14 ARGLWYDD y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y’th lanwaf a dynion megis a lindys; a hwy a ganant floddest i’th erbyn.

º15 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall.

º16 Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwioedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau.

º17 Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt.

º18 Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt.

º19 Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw ef.

º20 Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys a thi y drylliaf y cenhedloedd, ac a thi y dinistriaf deyrnasoedd;:

º21 A thi hefyd y gwasgaraf y march a.’r marchwr; ac a thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog;

º22 A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac a thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac a thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn;

º23 A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen; ac a thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid.

º24 A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr ARGLWYDD.

º25 Wele A i’th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr ARGLWYDD; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th wnaf di yn fynydd llosg.