Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/769

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º26 Ac ni chymerant ohonot faen congi, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr ARGLWYDD.

º27 Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amied â’r lindys. blewog.

º28 Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a’i thywysogion, a’i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef.

º29 Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr AR¬GLWYDD yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi.

º30 Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a’i barrau a dorrwyd.

º31 Rhedegwr a red i gyfarfod ârhedegwr, a chennad i gyfarfod âchennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr,

º32 Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr.

º33 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Mcrch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrdcr y daw amser cynhaeaf iddi.

º34 Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd, ac a’m hysigodd i; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag; efe a’m llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei t’ol o’m dant-eithion; efe a’m bwriodd i allan.

º35 Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a’m gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem.

º36 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadi di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac’ a sychaf ei ffynhonnau hi. ... "

º37 A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn cHwib-aniad, heb breswylyd’d. "

º38 Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod. ‘

º39 Yn eu gwres hwynt y gosodaf wieddoedd iddynt, a mi a’u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont. hun dragwyddol, ac na ddenront, medd yr ARGLWYDD.

º40 Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa, fel hyrddod a bychod.

º41 Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd!

º42 Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef.

º43 Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyf¬annedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi.

º44 A mi a ymwelaf a Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth.

º45 Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr ARGLWYDD,

º46 A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.

º47 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf a delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol.

º48 Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr ARGLWYDD.

º49 Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear.

º50 Y rhai a ddian&hasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr ARGLWYDD o bell, a deued Jerwsalem yn "ich cof chwi.

º51 Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein bwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr ARGLWYDD.