'D oes gyffelyb iddo Ef

Oddi ar Wicidestun
Am brydferthwch daear lawr 'D oes gyffelyb iddo Ef

gan William Williams, Pantycelyn

Hosanna, Haleliwia (MR)
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
William Williams, Pantycelyn

34[1] Mawl i'r Iesu
77. 77. 77.

1 'D OES gyffelyb iddo Ef
Ar y ddaear, yn y nef;
Trech ei allu, trech ei ras
Na dyfnderau calon gas;
A'i ffyddlondeb sydd yn fwy
Nag angheuol ddwyfol glwy'.

2 Caned cenedlaethau'r byd
Am ei enw mawr ynghyd;
Aed i gyrrau pella'r ne',
Aed i'r dwyrain, aed i'r de:
Bloeddied moroedd gyda thir
Ddyfnder iechydwriaeth bur.


3 Na foed undyn is y rhod
Heb ddatseinio i maes ei glod;
Na foed neb is awyr las
Heb gael praw o'i nefol ras;
Doed y ddaear fawr yn gron,
Yfent ddŵr y ffynnon hon.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 34, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930