Hosanna, Haleliwia (MR)

Oddi ar Wicidestun
'D oes gyffelyb iddo Ef Hosanna, Haleliwia (MR)

gan Morgan Rhys

Ein Harglwydd ni clodforwch
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

35[1] Mawl i'r Ceidwad
77. 87. D.

.
1 HOSANNA, Haleliwia
I'r Oen fu ar Galfaria;
Gorffennwyd iechydwriaeth dyn,
Efe ei Hun yw'r noddfa:
Tragwyddol ddiolch iddo
Am faddau a thosturio;
Anfeidrol fraint i lwch y llawr
Fod croeso'n awr ddod ato.

2 Mae'n achub hyd yr eitha'
Y pechaduriaid mwya';
Fe drefnwyd ffordd i gadw dyn
Gan Dri yn Un Jehofa;
Anturiwn ninnau arno,
Mae'r Iesu'n achub eto,
A chroeso i bechaduriaid mawr
Bob munud awr ddod ato.

3 Mae'r ddyled wedi'i thalu,
Ac uffern wedi'i maeddu,
 Gobeithiol garcharorion sy
Yn dod yn llu i fyny:
Mae'r pyrth yn llawn agored,
Doed Israel o'r caethiwed;
Pob llesg a gwan, fyth ger ei fron,
Ei wedd yn llon cânt weled.

Morgan Rhys

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 35, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930