Ein Harglwydd ni clodforwch

Oddi ar Wicidestun
Hosanna, Haleliwia (MR) Ein Harglwydd ni clodforwch

gan Hugh Jones (Huw Myfyr)

Engyl nef o gylch yr orsedd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

36[1] Salm CV. 1-8.
77. 87. D.

1 EIN Harglwydd ni clodforwch,
Ac ar ei enw gelwch;
Ei wyrthiau Ef â llawen floedd
Ymysg y bobloedd traethwch;
O! dewch a chenwch iddo,
A gorfoleddwch ynddo;
Ymlawenyched pob rhyw ddyn
O galon sy'n ei geisio.

2 Am Dduw a'i nerth gofynnwch,
A gwedd ei ŵyneb ceisiwch,
Y rhyfeddodau i ni a wnaeth,
A'i farnedigaeth cofiwch;
Trwy'r ddaear aeth yn ddiau,
Sôn am ei uniawn farnau,
A cheidw o'i gyfamod go'
I fil o genedlaethau.

Hugh Jones (Huw Myfyr)


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 36, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930