Engyl nef o gylch yr orsedd

Oddi ar Wicidestun
Ein Harglwydd ni clodforwch Engyl nef o gylch yr orsedd

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

Molwch Arglwydd nef y nefoedd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

37[1] Ti, Dduw, a Folant
84. 84. 8884

1 ENGYL nef o gylch yr orsedd
A'th folant Di.
Rhônt y parch, y clod a'r mawredd
Byth, byth i Ti.
Twysogaethau, awdurdodau,
Fil o filoedd, myrdd myrddiynau,
Seiniant fawl trwy'r uchelderau
Byth, byth i Ti.

2 Patriarchiaid o un galon
A'th folant Di;
Sanctaidd gôr yr Apostolion
A'th folant Di;
Clodus nifer y proffwydi
Ac ardderchog lu'r merthyri,
Ar delynau gwlad goleuni,
A'th folant Di.


3. Mawl a'th erys Di yn Seion.
O oes i oes,
Yng nghynlleidfa'r gwaredigion,
O oes i oes:
Mawl i Ti, Dduw Dad tragywydd,
I'r Un Mab, y Sanct Waredydd,
I'r Glân Ysbryd, y Diddanydd,
O oes i oes.

William Rees (Gwilym Hiraethog).

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 37, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930