Molwch Arglwydd nef y nefoedd

Oddi ar Wicidestun
Engyl nef o gylch yr orsedd Molwch Arglwydd nef y nefoedd

gan Morris Williams (Nicander)

Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

38[1] Molwch Enw'r Iôn.
87. 87. 47

1. MOLWCH Arglwydd nef y nefoedd,
Holl genhedloedd daear las,
Holl dylwythau'r byd a'r bobloedd
Cenwch glod ei ryfedd ras:
Haleliwia,
Molwch, molwch enw'r Iôn.

2. Mawr yw serch ei gariad atom,
Mawr ei ryfedd ras di-lyth,
Ei gyfamod a'i wirionedd
Sydd heb ball yn para byth :
Haleliwia,
Molwch, molwch enw'r Iôn.

Morris Williams (Nicander)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 38Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930