Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn
Gwedd
← Molwch Arglwydd nef y nefoedd | Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn gan John James (J.J.) Williams |
Glân geriwbiaid a seraffiaid → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
39[1] Hyder a Gorfoledd yn Nuw.
87. 87. 77.
1. YNOT, Arglwydd, gorfoleddwn,
Yn dy gariad llawenhawn,
Cariad erys fyth heb ballu,
A'i ffynhonnau fyth yn llawn;
Frenin nef a daear lawr,
Molwn byth dy enw mawr.
2. Er i Ti reoli bydoedd,
Ym mhob storom lem a ddaw
Cedwi'r weddw dan dy gysgod
A'r amddifad yn dy law:
Frenin nef a daear lawr,
Molwn byth dy enw mawr.
3. Os yw’r bryniau yn dy glorian,
Os dy ddeddf sydd ar y môr,
Ti wrandewi’n nydd y daran
Lef pechadur wrth dy ddôr:
Frenin nef a daear lawr,
molwn byth dy enw mawr.
John James (J.J.) Williams
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 39, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930