Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr
Jump to navigation
Jump to search
Mae Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr yn emyn gan Hugh Evans (Gwyllt y Mynydd) (1831-1909). Fel arfer mae'r emyn yn cael ei chanu i dôn Yr Hen Ganfed
- Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr,
- mewn parch a chariad yma nawr;
- y Tri yn Un a’r Un yn Dri
- yw’r Arglwydd a addolwn ni.
- Mae ganddo i’n gwasanaeth hawl,
- a gweddus inni ganu mawl;
- down ger ei fron a llafar gân,
- rhown iddo glod o galon lân.
- Ei orsedd sydd yn nef y nef,
- sanctaidd a chyfiawn ydyw ef;
- i ddig y mae’n hwyrfrydig iawn,
- fe rydd o’i ras drugaredd lawn.
- Y mae’i weithredoedd ef bob un
- yn ei glodfori yn gytûn;
- ei fawr gadernid draethant hwy,
- a’i enw a folwn ninnau mwy.
- Mawr yw a chanmoladwy iawn,
- cyduno i’w ddyrchafu wnawn;
- bendithiwn byth ei enw ef,
- a chaiff y mawl holl ddyddiau’r nef.