Henffych i enw Iesu gwiw

Oddi ar Wicidestun
I'r Arglwydd cenwch lafar glod Henffych i enw Iesu gwiw

gan Edward Perronet


wedi'i gyfieithu gan William Griffiths, Glan Dŵr
Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr

19 Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.[1]
M. H.

1 HENFFYCH i enw Iesu gwiw,
Syrthied o'i flaen angylion Duw;
Rhowch iddo'r parch, holl dyrfa'r nef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.


2 Chwychwi a brynwyd trwy ei waed,
Plygwch yn isel wrth ei draed;
Fe'ch tynnodd â thrugaredd gref :
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.

3 Boed i bob llwyth a phob rhyw iaith
Trwy holl derfynau'r ddaear faith,
Gydganu'n llafar iawn eu llef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.

4 Er bod eu beiau'n amal iawn,
Mae ganddo iechydwriaeth lawn ;
Eu cannu'n wyn wna Brenin nef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.


Edward Perronet (1721–1792)
Cyf penillion 1-3 Parch William Griffiths, Glan Dŵr (1777-1825)
Cyf pennill 4 Titus Lewis (1773-1811)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 19, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930