I'r Arglwydd cenwch lafar glod

Oddi ar Wicidestun
Clodforaf enw Brenin nef I’r Arglwydd cenwch lafar glod

gan Edmwnd Prys

Henffych i enw Iesu gwiw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

18 SALM C[1]
M. H.

1 I'R Arglwydd cenwch lafar glod,
A gwnewch ufudd-dod llawen fryd ;
Dowch o flaen Duw â pheraidd dôn,
Trigolion daear fawr i gyd.

2 Gwybyddwch bawb mai'r Iôr sy Dduw,
A'n gwnaeth ni'n fyw fel hyn i fod;
Nid ni ein hun; ei bobl ŷm ni,
A defaid rhi' ei borfa a'i nod.

3 O! ewch i'w byrth â diolch brau,
Yn ei gynteddau molwch Ef;
Bendithiwch enw Duw is rhod,
Rhowch iddo glod trwy lafar lef.

4 Cans da yw'r Arglwydd, Awdur hedd,
Da ei drugaredd a di—lyth;
A'i lân wirionedd in a roes,
O oes i oes a bery byth.


—Edmwnd Prys 1544—1623

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 18, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930