Clodforaf enw Brenin nef

Oddi ar Wicidestun
Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw Clodforaf enw Brenin nef

gan Anhysbys

I'r Arglwydd cenwch lafar glod
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

17[1] Digon yn Nuw.
M. S.

1 CLODFORAF enw Brenin nef,
Mae ynddo Ef bob digon—
Digon o nerth i'm henaid gwan,
Pan fyddwyf dan drallodion.

2 Mae digon o drugaredd hael
I'r truan gwael ei gyflwr;
Digon i lenwi iawnder Duw,
A chadw'n fyw droseddwr;


3 Digon o rinwedd yn parhau
I'm llwyr iacháu'n dragywydd ;
A digon o raslonrwydd maith
I'm gwneud yn berffaith ddedwydd.

4 Am hyn yn Nuw hyderu wnaf,
Gorffwysaf ar ei eiriau;
Am bethau sydd, am bethau ddaw,
Tu yma a thraw i angau.


—Anhysbys

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 17, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930