Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw
Gwedd
← Clodforaf fi fy Arglwydd Iôn 2 | Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw gan William Williams, Pantycelyn |
Clodforaf enw Brenin nef → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
16[1] Clodforedd i Dduw.
M. S.
1 CLODFORWCH bawb ein Harglwydd Dduw,
Doed dynol-ryw i'w;
Ei hedd, fel afon fawr ddi-drai,
A gaiff ddyfrhau ei bobol.
2 Ei air a'i amod cadw wna;
Byth y parha'i ffyddlondeb,
Nes dwyn ei braidd o'u poen a'u pla,
I hyfryd dragwyddoldeb.
3 Ef ni newidia, er gweld bai
O fewn i'w rai anwyla';
Byth cofia waed Tywysog nen,
A'i boen ar ben Calfaria.
4 Pan ballo ffafor pawb a'u hedd,
Duw, o'i drugaredd odiaeth,
Yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind a fydd
Ar gyfyng ddydd marwolaeth.
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 16, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930