Neidio i'r cynnwys

Adgofion Andronicus/Adgofion am y Bala

Oddi ar Wicidestun
Ned Ffowc y Blaenor Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Oriau gyda John Bright

ADGOFION AM Y BALA.

I. RHAGYMADRODD.


IE, "Y" Bala; nid Bala, ond "Y" Bala. Mae yn rhaid cael y llythyren "Y" i ddangos pwysigrwydd yr hen dref sydd yn gorwedd yn dawel yn




nghesail y bryniau ac ar lan Llyn Tegid. Ni ddywedir "Y" Corwen,"Y" Dolgellau, nag "Y" Llanuwchllyn. Nid ydyw Llundain, Rhydychain, nag hyd yn oed Bangor fawr ei breintiau, yn ddigon enwog i gael Omega y wyddor Gymreig i ddangos ei phwysigrwydd. Dyna oedd ein syniad ni blant y Bala ddeugain mlynedd yn ol, pan yn chwareu ar y Green gysegredig, y Domen Rufeinig, ac ar lan Môr Canoldir Meirion(Llyn Tegid). Ac yn wir dyna yw ein syniad ni heddyw, pan y mae y pren almon wedi dechreu blodeuo a cheiliog y rhedyn yn faich. Y mae son fod pobl Llundain yn bwriadu boddi y Bala gyda dwfr yr Aran a'r Arennig a'r Berwyn, er mwyn tori eu syched, ac felly wirio prophwydoliaeth Robin Ddu y cyntaf, ganrifoedd yn ol,—

"Bala aeth, a Bala aiff,
 A Llanfor aiff yn llyn."

Y mae yn anhawdd genyf gredu y cymer y drychineb hon le; ond os boddir tref y Bala, ni ddileir ei henw hyd oni ddywedir,—

"Yr Aran a'r Wyddfa gyrhaeddfawr
 A neidiant yn awr hyd y Ne'."

Rhag ofn y digwydd i ddiluw Penllyn gymeryd lle o fewn y ganrif hon, yr wyf am gymeryd tipyn o le i roddi ar gof a chadw ychydig hanes hen lanerch sydd. mor anwyl gan filoedd o Gymry yn mhob cwr o'r byd. Y mae cymaint o adgofion yn ymgymell i fy meddwl, nas gwn yn iawn pa le i ddechreu. Efallai nas gallaf ddechreu mewn lle gwell nag yn

II. HEN GAPEL Y BALA,

Capel Bethel, neu y capel mawr fel ei gelwid gan bobl y wlad. Hen gapel hanesyddol ydoedd, capel Thomas Charles, Simon Llwyd, John ac Enoc Evans, a Dafydd Cadwalad. Cof genyf fy mod yn dechreu myned i'r capel yn ieuanc iawn.

Yr oedd ein set ar ymyl y gallery, y cloc ar y llaw dde. Eisteddai yn y set agosaf, ar y llaw chwith, fachgen bychan tua'r un oed a minau, orŵyr i Dafydd Cadwalad, sef y Parchedig Dad Jones, yn awr offeiriad Pabaidd yn Nghaernarfon, boneddwr a berchir yn fawr yn y dref gan wreng a bonedd. Capel mawr ysgwar, hen ffasiwn, oedd capel y Bala, capel llawer haws gwrando a phregethu ynddo, medd y rhai sydd yn gwybod, na'r capel newydd. Safai y pwlpud rhwng y ddau ddrws—pwlpud mawr, digon o le ynddo i gynwys tri o bregethwyr mwyaf corphorol y Corph. Yr oedd y set fawr (yr allor) yn fawr mewn gwirionedd cyn iddi gael ei hail wneyd i gyfarfod ag oes mwy ffasiynol. Yr oedd digon o le ynddi i gynal dwsin o flaenoriaid, ond pedwar o wŷr da eu gair oedd wedi bod o dan y corn olew yr adeg yr ydwyf yn ysgrifenu yn ei gylch; sef William Edward, yr emynwr; Hugh Hughes, Tan'rhol, tad y gŵr anwyl Doctor Roger Hughes; Jacob Jones, tad y boneddwr o'r un enw o'r Rhyl; a Griffith Jones, cyfrwywr, wedi hyny arianydd. Ychydig gof sydd genyf am Hugh Hughes; a'r unig gof sydd genyf am William Edward yw fy mod wedi dysgu ei hen benill anwyl ar ei lin,—

"Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonog fy oes,"

Ar law chwith y pregethwr eisteddai Lewis Edwards (Dr. Edwards), ac yn y gornel ar y llaw dde eisteddai Benjamin Griffiths, factotum y capel,—gwneuthurwr menyg lledr o ran galwedigaeth. Ond treuliai fwy o'i amser yn y capel ac yn stabal y capel i ofalu am geffylau y cenhadon hedd a ddelent ar eu tro i'r Bala, nag a wnai gyda'r edau a nodwydd a chroen myn gafr. Hen wr tal, boneddigaidd yr olwg arno oedd Benjamin, nid anhebyg i'r Parch. Henry Rees. Un o oruchwylion ereill Benjamin fyddai gofalu am oleuo y capel. Goleuid y capel â chanhwyllau. Yr oedd yno dair seren (chandelier),—un fawr ar ganol y capel, ac un lai bob ochr i'r gallery. Cynorthwyid ef gan Evan Owen,—tad gweinidog poblogaidd Tanygrisiau, Ffestiniog, hen wr doniol, duwiol, a diddan, un a gerid ac a berchid gan bawb. Un o'n hoff bleserau ni y plant yn misoedd Ebrill a Medi, pan y byddid yn goleuo y canhwyllau ar ol dechreu yr oedfa, fyddai edrych ar Benjamin Griffiths ac Evan Owen yn goleu y canhwyllau, a chael gwel'd pwy a'i drwy ei waith gyntaf. Benjamin a ystyriai ei hunan yn fwyaf teilwng i oleu canhwyllau y pwlpud a'r "seren fawr," tra y byddai Evan Owen yn goleu y cyntedd nesaf allan a'r grisiau, a dyddorol oedd i ni y plant sylwi pa un o'r ddau gyrhaeddai "ser" y gallery gyntaf. Daw un tro rhyfedd i'm cof. Yr oedd Richard Humphreys y Dyffryn yn pregethu, a phan oedd y capel yn cael ei oleuo cyn dechreu y bregeth, rhoddodd yr hen benill hwnw allan i ganu,—

"Diolch i ti, yr Hollalluog Dduw,
Am yr efengyl sanctaidd .
Pan oeddym ni mewn carchar tywyll du
Rho'ist i'n oleuni nefol."

Dyblwyd a threblwyd yr hen benill nes bu bron iddi fyn'd yn orfoledd. Yr oedd Benjamin erbyn hyn wedi dechreu goleu "seren y llofft," ond wedi myn'd i'r hwyl wrth ganu

"Rho'ist i'n oleuni,"

ac yn cadw amser gyda'r taper wêr oedd ganddo yn ei law. Eisteddai hen wr ffraeth o dan y "seren," a chododd i fyny yn sydyn a throdd at Benjamin, gan ddweyd: "Yma chi, Benjamin Griffiths, yr ydech chi yn colli gwêr am fy mhen i." Bu agos i mi anghofio dweyd mai yn y set fawr hefyd, y gornel agosaf i'r llawr, ar ochr dde y pwlpud, yr eisteddai y pencantwr Rolant Hugh Pritchard. Yr oedd yn gerddor rhagorol, a gwelir rhai tonau o'i eiddo yn "Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt;" ond yr oedd yn un touchy ddychrynllyd, fel y mae y rhan fwyaf o arweinyddion y gân—maddeuant i mi am ddweyd y gwir.

Jacob Jones oedd y pen blaenor, ac iddo ef y disgynai y swydd bwysig o gyhoeddi yr odfaon, swydd neillduol o bwysig y dyddiau hyny. Cyfarfod gweddi nos yforu am saith, seiat nos Fercher am saith, a'r seiat bach am chwech nos Wener." Ar ol myn'd trwy y rhan arweiniol pesychai yr hen flaenor duwiol, a dyma bawb yn estyn eu gyddfau ac yn rhoddi eu dwylaw wrth eu clustiau. Yrwan am y secret sydd wedi bod yn y dyddiadur er's blwyddyn, mwy neu lai (dim dyddiadur deuddeng mlynedd y pryd hyny, buasai hyny yn gabledd). "I bregethu bore Sul nesa' am ddeg Robet Tomos, Llidiarde; ysgol am ddau, a Robet Tomos am chwech." Dim "parch" na na "mistar; fyddai neb yn cael "mistar" gan Jacob Jones ond Mr. Edwards a Mr. Parry. Arferiad Jacob Jones fyddai cyhoeddi ar ol i'r pregethwr ddarfod pregethu a gweddio; a phan roddai y pregethwr benill allan ar y diwedd, dechreuai y bobl yn enwedig pobl Cefndwygraig a Phantglas—gychwyn allan yn ddiseremoni, er mawr ofid i'r pencantwr ac aflonyddwch i'r rhai fyddai yn dewis aros i ganu. Traethodd Griffith Jones lawer ar hyn, a thraethwr doniol oedd. Ceisiodd ddysgu manners i bobl y wlad—un mannerly oedd ef a thwt gyda pob peth. Siaradodd Dr. Edwards a Dr. Parry hefyd lawer yn yr un cyfeiriad; ond nid oedd dim yn tycio—myn'd allan wnelai y bobl ar ol y cyhoeddi. Ond ryw nos Sabboth yr oedd Dr. Edwards yn pregethu, a daeth drychfeddwl i feddwl awdwr "Athrawiaeth yr Iawn." Ar ol gweddio ar ddiwedd yr oedfa, dywedodd: "Yr wyf am roddi penill allan i ganu yn awr—hen benill anwyl y byddai eich tadau chwi yn myn'd i orfoleddu wrth ei ganu. Gadewch i ni ei gydganu, a chydweddio wrth ei ganu; wedi hyny eisteddwch i lawr yn ddistaw tra y bydd y brawd Jacob Jones yn cyhoeddi." Wyddoch chwi beth, aeth dim un gopa walltog allan. Eisteddodd pawb i lawr ar ol canu tra y bu Jacob Jones yn dweyd" pwy sy Sul nesa." Aeth y peth allan trwy holl Benllyn ac Edeyrnion, a chymerodd yr holl gynulleidfaoedd esiampl oddiwrth bobl y Bala yn hyn o beth, a dysgodd y bobl wylied ar eu traed wrth fyn'd i dŷ Dduw. Rai blynyddoedd ar ol hyn digwyddais deithio gyda Dr. Edwards rhwng Rhiwabon a Chaerlleon, a gofynais iddo a oedd yn cofio yr amgylchiad. "Ydwyf yn dda," a sylwai yn chwareus, a than chwerthin fel y medrai ef chwerthin, pa un ai fy araeth i tybed ai ynte eisieu clywed y cyhoeddi a darodd yr hoel ar ei phen, ac a ddysgodd fanners i'r bobl?

Meinciau oedd ar lawr y capel oddigerth rhyw dair rhes o seti oddiamgylch y muriau, ac ychydig o seddau y dosbarth blaenaf y naill ochr i'r set fawr. Mynych gyrchai prif enwogion y Corph i bregethu yn y Bala, ac nid oedd brin wythnos yn myned heibio heb i ryw "wr diarth o'r Deheudir" fod yn pregethu ganol yr wythnos. Tyrai y bobl o'r ardaloedd cylchynol nes byddai yr hen gapel "dan ei sang." Ambell dro gwelais droi y Sabboth yn rhyw fath o Sasiwn bach, yn enwedig pan y byddai Henry Rees neu John Jones Talysarn yn pregethu. Byddai y capel yn llawer rhy fychan i gynal y bobl, ac felly yr oedd yn rhaid agor y ffenestr oedd yn ymyl y pwlpud, ac i'r pregethwr sefyll ar waelod y ffenestr. Byddai canoedd o bobl ar y lawnt fawr o flaen y capel, ac yr oedd llais mawr John Jones yn cyraedd i gyrau pellaf y dorf. Pan y byddai tipyn o awel, byddai dalenau yr hen Feibl yn chwifio fel gwyntyll. Fe ddywedir, wn i ddim am wirionedd y chwedl, mai ar un o'r troion hyn y cymerodd tro lled ysmala le. Dywedir fod gwr enwog o'r Deheudir yn pregethu yn y ffenestr, gyda thipyn o hwyl a thipyn o "awel" gyda'r hwyl, a bod ei nodion ysgrifenedig oedd rhwng dalenau y Beibl wedi myn'd ar goll. Yr oedd y pregethwr wedi gorphen traethu ar y pen cyntaf a'r ail, aeth i chwilio am ei "nodion;" ac meddai yn drydedd," ac wedi hyny, pysychu—" ac yn drydedd" wed'yn—pysychu eto, ac edrychai yn lled gynhyrfus. Ar hyn gwaeddai hen wr ffraeth o Lwyneinion—" Mae'ch 'yn drydedd' chi wedi myn'd efo'r gwynt." Bu agos ir pregethwr hefyd fyn'd "gyda'r gwynt." Ond daeth "awel" wedi hyny a "chodwyd yr hwyl," a gobeithiwn fod aml un oedd yn yr odfa wedi cael "awel o Galfaria fryn."

Swydd bwysig hefyd yn nghapel y Bala oedd casglu," a bu yr un rhai wrthi am flynyddau. Y rhai cyntaf ydwyf fi yn gofio oedd Robert Michael Roberts, mab i Michael Roberts, Pwllheli—gŵr hynod o ffyddlon yn y moddion cyhoeddus, ac athraw cyson yn yr Ysgol Sul. Er ei bod wedi myn'd yn mhell arno cyn d'od yn aelod eglwysig, yr oedd yn esiampl i lawer o aelodau mewn moesoldeb. Ei gyd—gasglydd ar lawr y capel oedd David Evans, y postfeistr, gŵr y bydd genyf ychwaneg i ddweyd am dano mewn cysylltiad â'r "Seiat Bach." Cymerid un ochr o'r gallery gan Robert Roberts, dilledydd, hen wr cloff o'i glun, ond un uniawn yn ei ysbryd crefyddol. Gofelid am yr ochr arall gan Evan Owen, argraffydd,—wedi hyny llyfrgellydd y coleg,—gwr bychan o gorpholaeth, ond mawr ei sel a'i ffyddlondeb gyda phethau allanol gwaith yr Arglwydd. Yr oedd ef yn un o brentisiaid cyntat Robert Saunderson, argraphydd Geiriadur a Hyfforddwr Charles. Dyna y pedwar cyntaf ydwyf yn eu cofio yn gwneyd y gwaith pwysig. Yr oedd yn "bwysig," fe rheol, am y byddai mwy o geiniogau cochion chwechau gwynion yn cael eu bwrw i'r dollfa. Ond byddai un swllt gwyn ddwywaith yn y flwyddyn i'w cael yn mhlith y pres—sef amser y sesiwn (assizes), a Morgan Llwyd fyddai yn rhoddi y darnau gwynion. Cynhelid yr Ysgol Sabbothol i'r rhai mewn oed yn y capel, ac i'r plant yn yr ystafell o dan yr hen goleg, lle y cynhelid hefyd yr ysgol ddyddiol gan Evan Peters. Ysgol lewyrchus oedd Ysgol Sabbothol y Bala. Nid ydwyf yn cofio a newidid yr arolygwr yn flynyddol—mae genyf ryw led adgof mai Griffith Jones a fu yn dal y swydd am flynyddau. Byddai yr holi ar y diwedd yn sefydliad a berchid. Adroddid hefyd y Sul cyntaf bob mis y Deg Gorchymyn—hen arferiad rhagorol, gobeithio nad ydyw wedi darfod o'r tir. Arweinydd yr ateb a'r adrodd oedd Edward Llwyd coedwigwr ar stâd y Rhiwlas, ac wedi hyny masnachydd glo. Yr oedd gan Edward Llwyd lais fel udgorn, a llanwodd y swydd gyda medrusrwydd a blas am flynyddoedd. Arferai yr hen Gristion gadw y ddyledswydd deuluaidd nos a boreu, yr un mor danbaid a chyda'r un hwyl a phan y cymerai ran yn y cyfarfod gweddi yn y capel. Codai ei lais nes y clywid ef bellder o ffordd; mynych y gwelais dyrfa o bobl yr heel wedi ymgasglu yn nghyd i glywed yr hen frawd. Nid oedd yr hen archesgob, fel y byddem ni y plant yn arfer ei alw, am "oleu canwyll a'i dodi dan lestr,' ac fel Daniel yn Babilon, nid oedd arno ofn na chywilydd i neb ei glywed yn gweddio ar ei Dduw.

Nis gallaf ddarfod gydag Ysgol Sul y Bala, heb son gair am un o'm hen athrawon ffyddlawn, Robert Jones y go', ewyrth y Parch. E. Penllyn Jones, M.A., Aberystwyth. Hen frawd doniol oedd Robert Jones,— hen Galfin o'r Calfiniaid; chawsai yr un Armin fyn'd i fewn i'r nefoedd byth pe Robert fuasai yn cadw y drws. Ond fe ddichon fod yr hen frawd anwyl wedi newid tipyn cyn croesi yr afon. Yr oedd yn athraw llafurus a dygyn. Ei drefn oedd cael gan bob un o'r dosbarth ofyn cwestiwn ar bob adnod ddeuai gerbron. Byddai yn galed iawn yn aml ar yr hwn a ddigwyddai fod yn mhen pellaf y set, a phawb wedi cael "cnoc" ar yr adnod. Un tro, yr oedd pawb wedi gofyn cwestiwn ond John a'r adnod oedd, "Ac yn y man y canodd y ceiliog." "Rwan, John, dy dyrn di ydi hi," meddai'r athraw, "oes gen ti gwestiwn?" Cwestiwn yn wir," meddai John, "ond ydi yr adnod wedi cael ei blingo yn fyw—yden nhw ddim wedi gadael yr un bluen ar yr hen geiliog chwaith." "Yma ti, John, chyma i ddim lol gen't ti, tyr'd a chwestiwn y mynud yma, ne dd'oi di byth i'r class yma eto." Wel," meddai John druan, "os rhaid i chi gael cwestiwn, Robert Jones—beth ydi ystyr y gair ac yn nechreu y frawddeg?" Wrth lwc fe ganodd y gloch y funud yna, a thorwyd yr ysgol. Y mae'r Bala wedi bod yn gartref am dymhor fyfyrwyr Cymru wrth y cannoedd, yn amser haddysg. Y mae genyf adgofion melus am rai ohonynt sydd wedi gwneyd gwaith mawr, ac am rai sydd eisoes. wedi huno. Yr oedd ymysg trigolion y Bala, hefyd, laweroedd o gymeriadau dyddorol iawn,—rhai duwiol, rhai hynod, rhai digrif. Nid ydyw hyn i ryfeddu ato, oherwydd cafodd y Bala freintiau mawr, a bu dan ddylanwadau rhyfedd.

III. MAER Y BALA.

Y mae cyfnewidiadau a gwelliantau mawr wedi cymeryd lle yn hen dref y Bala y deugain mlynedd. diweddaf. Byddai ffosydd a thomenydd aflan i'w gweled ar hyd ochrau'r heolydd, ond erbyn hyn y mae y Bwrdd Lleol wedi dyfod â dwfr o'r Arenig fel afon a'i ffrydiau i lanhau yr hen ddinas. Yn amser Siarl y cyntaf, os nad wyf yn methu, rhoddwyd siarter i'r Bala, yn rhoddi hawl i ethol Maer a Chorphoraeth; ond bu ar goll am lawer o flynyddoedd. Daeth Dafydd Williams, Castell Deudraeth, o hyd iddi wrth chwilio am ryw hen weithredoedd yn Llundain, a pherswadiodd bobl y Bala i gymeryd meddiant o'u hawl. Tua'r flwyddyn 1858, awd drwy y seremoni o ethol maer y Bala, a'r maer oedd George Lloyd, Plas yn dre, mab Simon Llwyd, awdwr yr Amseryddiaeth. Yr oedd hyn yn y flwyddyn ar ol yr etholiad fythgofiadwy pan y daeth Dafydd Williams allan yn erbyn Wynne o Beniarth. Yr oedd yn naturiol felly yr edrychid ar rywbeth a wnai Williams gyda chryn amheuaeth gan wŷr mawr y fro. Yr oedd yr hen foneddwr Price y Rhiwlas, taid i'r gwr sydd yn perchen y stâd yn awr, yn greulawn yn erbyn cael maer i'r Bala, ac yr oedd yn benderfynol o wrthwynebu y symudiad. Ond gwr penderfynol hefyd oedd yswain y Castell Deudraeth ; ac etholwyd maer a chorphoraeth yn y Bala, a dathlwyd yr amgylchiad gyda chryn rwysg. Yn lled anesmwyth yr oedd y faeroliaeth yn gorphwys ar ysgwyddau gwr Plas yn dre. Yr oedd yr "Hen Breis". wedi cael allan nad oedd etholiad y maer yn rheolaidd a chyfreithlawn, felly mewn enw yn unig y bu yn dal y swydd am flwyddyn, a gwrthododd yn bendant gymeryd ei ail-ethol. Ond os oedd ar George Lloyd ofn Price y Rhiwlas, 'doedd ar Simon Jones ddim, ac efe a aeth drwy y seremoni yr ail flwyddyn, ond ni weithredodd yn swyddogol erioed am a glywais i. Er na weithredodd



y maer a'r gorphoraeth, fe weithredodd y Bwrdd Lleol yn gampus, a'r un rhai oedd yn cyfansoddi y ddau fwrdd. Rhoddodd yr hen adeiladau gwael to gwellt le i adeiladau da, ac erbyn hyn y mae tref y Bala mor lân a hardd ag unrhyw dref yn Nghymru.

IV. PRIF ADEILADAU.

Prif adeiladau y Bala ydynt y Capel Mawr, capel yr Annibynwyr, capel y Bedyddwyr, yr Eglwys, neuadd y dref, y Victoria Hall, Banc Gogledd a Deheudir Cymru, a'r Coleg, yn nghyda thair ysgol,—yr Ysgol Ramadegol, Ysgol y Bwrdd, ac Ysgol Eglwys Loegr. Mae capel y Bedyddwyr yn mhen uchaf y dref, a'r agosaf i'r llyn, y mae hyny yn ddigon naturiol. Hen gapel y Wesleyaid ydyw. Mae Wesleyaeth wedi marw yn y Bala er's llawer dydd. (Gwel "Y Wesle Ola.")

Saif capel newydd yr Annibynwyr ar gyfer y llanerch lle safai yr hen gapel, a choleg Michael Jones y cyntaf. Bu y capel hwn o dan ofal y gwr anwyl Ioan Pedr, ac wedi hyny bu Ap Vychan yn bugeilio ei braidd.

Wrth gwrs, capel y Methodistiaid ydyw teml y Bala, fel y gweddai i brifddinas y Corph,—capel gwych a godidog, a phinacl iddo,―rhaid cael pinacl ar deml wrth gwrs. Ryw ddwy flynedd ar ol adeiladu y capel gwelwyd fod y pinacl yn pengamu. Dywedai un hen flaenor ffraeth o Gefnddwysarn fod yn llawn bryd iddo gamu ei ben o gywilydd am geisio efelychu dull yr Eglwys Wladol o adeiladu. Sylwai wag yn perthyn i Eglwys Loegr fod y pengamu yn ddigon awgrymiadol o Fethodist. Pa fodd bynag, pan osodwyd cofgolofn Thomas Charles o flaen y capel, fe gododd y pinacl ei ben, fel pe yn dyweyd,—"'Does arna i ddim cywilydd o fod yn rhan o adeilad yn perthyn i'r enwad gafodd y gwr mawr acw yn un o'i sylfaenwyr."

V. YSGOLION Y BALA.

Bu y Bala am lawer o flynyddoedd heb ryw lawer o drefn ar ei hysgolion dyddiol. Rhoddai Michael Jones addysg i ryw ychydig o blant yn un o ystafelloedd ei goleg. Ond pan y bu ef farw cauwyd yr ysgol. Cedwid ysgol gan y Parch. John Williams, gwr o Ben Llwyn, cartref Dr. Lewis Edwards. Ar ol i Mr. Williams symud i Landrillo cariwyd hi yn mlaen gan y Parch. Evan Peters hyd oni agorwyd yr Ysgol Frytanaidd gan Mr. John Price—yn awr o Goleg Normalaidd Bangor. Ysgol nodedig oedd ysgol John Williams. Cedwid hi mewn ystafell o dan yr hen goleg, a llawer gwaith mewn blynyddoedd wed'yn y buom yn synu sut y gallodd y myfyrwyr uwchben fyn'd y'mlaen gyda'u gwers yn sŵn a dwndwr y plant oedd odditanynt. Un o'r pethau cyntaf i wneyd yn y boreu, ar ol cadw dyledswydd ysgolyddol, oedd galw enwau y bechgyn oedd i fod yn monitors am y diwrnod,—nid oedd pupil teachers y pryd hyny. Yr wyf yn cofio yn dda y boreu cyntaf yr aethum i'r ysgol. Rhoddwyd fi i eistedd ar fainc mewn cornel dywyll gyda phedwar o fabanod ereill; waeth i mi heb eu henwi, ond y mae tri ohonynt yn fyw heddyw, ac yn weinidogion poblogaidd yn Nghymru. Ein monitor ni am y diwrnod oedd bachgen bychan pengoch, a'i lygad fel fflam dân, nid oedd ond ychydig o flynyddau yn hyn na'r rhai oedd yn eistedd ar y fainc fach, ond gwyddai yn iawn sut i ddysgu yr "ABC" i ni. Ar yr un fainc bach y dysgodd yntau hefyd yr "A B C." Thomas Charles Edwards oedd ei enw, ac efe heddyw ydyw Prifathraw Coleg Duwinyddol y Bala. Iechyd a hir oes iddo i lanw y swydd bwysig. Cedwid ysgol i blant hefyd yn Nhy tan Domen, yr ochr ddwyreinioli Domen y Bala, mewn hen adeilad isel. Yr oedd yr ysgol hon o dan nawdd Coleg yr Iesu, Rhydychain, a rhoddid ysgol a dillad yn rhad i ddeg ar hugain o blant. Yr athraw ydoedd un Mr. Morris, dyn bychan o gorpholaeth, ond gyda phen mawr a breichiau hirion; a gwarchod pawb fel y medrai weinyddu disgyblaeth. Bu llawer bachgen yn methu eistedd yn esmwyth am ddiwrnodau ar ol mynd o dan yr oruchwyliaeth. Y mae Mr. Morris yn ei fedd er's llawer dydd, ac y mae yr hen adeilad wedi ei dynu i lawr er's llawer o flynyddoedd, i wneyd lle i adeilad gwell, ac y mae yr ysgol o dan lywyddiaeth athraw dysgedig. Cynhelid hefyd ysgol yn Llanfor gan un Joseph Jones, athraw da, a throdd allan lawer iawn o fechgyn galluog, rhai ohonynt yn llanw swyddi pwysig yn Nghymru.

VI. Y COLEGAU.

Wrth gwrs, prif enwogrwydd y Bala oedd ei cholegau. Yr wyf yn cofio yr hybarch Fichael Jones, tad Michael Jones presenol. Bu llaweroedd o dan ei addysg, o'r Gogledd a'r De. Yr oeddwn yn adnabod rhai o'r myfyrwyr yn dda, yn enwedig Rhys Gwesyn Jones, David Lloyd Jones (wedi hyny o Batagonia), a Dewi Mon, Prifathraw Coleg Aberhonddu. Hen athraw cywir oedd Michael Jones,—dyn talgryf a chorphorol, golwg difrifol a braidd yn ffyrnig arno, ond yn Gristion disglaer, yn foneddwr bob modfedd, a chalon gynes yn ei fynwes. Bu farw wrth ei bost yn y Bala, ac fe'i hebryngwyd i'w feddrod yn Llanuwchllyn gan un o'r torfeydd mwyaf a welwyd erioed yn y Bala.

Yr oedd Coleg y Methodistiaid dan yr unto â'r capel, a ffenestri yn y mur rhwng y ddau adeilad. Ambell dro, pan y byddai y capel yn orlawn, elai rhai o'r gwrandawyr i rai o ystafelloedd y coleg, ac yr oedd yn hawdd clywed y pregethwr. Un noson, Cyfarfod Misol neu Sasiwn, yr oeddwn yn y coleg yn gwrandaw ar y ddau frawd Henry a William Rees yn pregethu. Henry a bregethodd gyntaf, a phan oedd yn gofyn ar ddiwedd ei bregeth am "arddeliad i'w anwyl frawd," yr oedd yn anhawdd peidio gwenu. Nid ydyw fy nghof yn myn'd a fi yn mhellach na'r flwyddyn 1848, ac nid oes genyf gof am lawer o'r myfyrwyr y pryd hyny. Yr wyf yn cofio pedwar yn dda,—sef Robert Roberts, Prion; Ioan Llewelyn Evans, John Lewis, Birmingham; a John Hughes, sir Fon. Y mae y pedwar wedi myned i feddianu eu teyrnas. Yn fuan wedi hyn daeth i'r coleg Dr. Griffith Parry, Dr. Hugh Jones (nid yn Ddoctoriaid y pryd hyny, wrth gwrs), Daniel Rowlands, John Pritchard, a David Roberts, sir Fon. Yr oedd amryw o leygwyr hefyd yn y coleg y pryd hyn, sef John Price, Bangor; y diweddar R. J. Davies, Cwrt Mawr; a John Mathews, Aberystwyth; yr hwn sydd er's llawer o flynyddoedd yn arolygydd y National Provincial Bank yn Amlwch, y ddau yn fechgyn ieuainc iawn, a bu'm yn cyd—chwareu â hwynt ar lanau Llyn Tegid.

Yn ystod y deng mlynedd dilynol, fe ddaeth llaweroedd o fyfyrwyr i'r ac o'r Bala. Blwyddyn nodedig yn hanes myfyrwyry Bala oedd y flwyddyn 1859, blwyddyn y Diwygiad Crefyddol, pan y trwythwyd myfyrwyr y ddau goleg, ac y mae ol y trwythiad i'w weled ar aml un ohonynt hyd y dydd heddyw.

Y mae llawer o wahaniaeth yn myd myfyrwyr y dyddiau hyn i'r hyn ydoedd bymtheng mlynedd ar hugain yn ol. Y mae dyfodiad y ffordd haiarn i Green y Bala, a sŵn y march tân yn chwibanu ar lan Llyn Tegid, wedi rhoddi tro ar fyd y students. Gallant yn awr fyn'd haner can' milldir, mwy neu lai, i'w taith Sabbothol heb wneyd cam â'u hastudiaeth. Os byddai eisieu myn'd dros y Garneddwen i Ddolgellau, dros Figneint i Ffestiniog, dros y Berwyn i Faldwyn, neu Fwlch y Groes i Fawddwy, yr oedd rhaid cerdded y daith neu farchogaeth ar un o hunters y Bala. Fe ganodd Glan Alun yn ddoniol a phrydferth ar ddull y myfyrwyr yn myned i'w taith, ac nis gallaf wneyd yn well na rhoddi'r gân yn y fan hon,—

Ar ol llafurio yn ddifreg
Drwy'r wythnos am wybodaeth deg,
Mor hyfryd ar y Sadwrn fydd
I'r bechgyn gael eu traed yn rhydd;
A'u gwel'd yn cychwyn yma a thraw
Gan ymwasgaru ar bob llaw,
A neges fawr pob un fydd dwyn
Hen eiriau yr Efengyl fwyn
I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad;
Bydd weithiau ddau neu dri, neu fwy,
A cherbyd clyd i'w cario hwy ;
Un arall geir yn d'od yn mlaen
Gan farchog ar gefn ceffyl plaen,
Ac ambell waith fe gwympa'r march
Gan lwyr ddarostwng gŵr o barch;
(Mae'n anhawdd i'r myfyrwyr mwyn
Astudio pregeth a cal ffrwyn),
Un arall mwy diogel ddaw
A ffon brofedig yn ei law,
A'i ddull yn apostolaidd iawn
Yn troedio'n gynar y prydnawn
Mor wych eu gweled ar ddydd Llun
A bochau cochion gan bob un
Yn d'od yn ol yn llawn o rym
Am wythnos eto o lafur llym.

Busnes pwysig yn y Bala y blynyddoedd hyny oedd busnes y llogi ceffylau. Yr oedd un Rice Edwards a'i frawd yn cadw tua dwsin o feirch at wasanaeth y myfyrwyr, ac fe gludodd ceffylau Rice fwy o "genhadon hedd" ar hyd a lled y wlad nag a wnaeth ceffylau yr un dyn arall yn Nghymru. Yr oedd gan Rice Edwards un ceffyl,—neu gaseg, nid wyf yn cofio pa un,—oedd yn hoff farch gan y students, a'i henw "Tymplen," Tymplen Rice. Fe gariodd Tymplen druan lawer o Efengyl ar hyd siroedd Meirion, Dinbych, a Threfaldwyn. Fe_gariodd lawer ar yr hybarch Ddoctor Edwards a Doctor Parry. Hen geffyl saff ac un i ymddiried iddo oedd, fydde fo byth yn jibio, nac yn myn'd ar ei liniau,—y marchogwr fyddai yn gwneyd hyny; fydde fo chwaith byth yn rhedeg i ffwrdd, byddai y llwyth yn rhy drwm bob amser, nid o gnawd ond o ddrychfeddyliau y pregethwr. Ond bu farw Tymplen, a hi gasglwyd at ei thadau. Cefais lythyr ar y pryd oddiwrth un o'r myfyrwyr yn gofyn i mi am bwt o englyn fel beddargraph i Tymplen; ond gan nad wyf yn un o olynwyr Dafydd ab Edmwnt, nac yn deall y mesurau caethion, gofynais i fy nghyfaill Gwyneddon wneyd y gymwynas. A dyma nhw,

Gorwedd mae'n awr mewn gweryd,—hen geffyl
Gwffiodd am ei fywyd;
O swn y boen sy'n y byd,"—o grafangau
Du angau mae wedi diengyd.

Tymplen Reis, un neis iawn oedd,—i deithiwr
Deithio trwy'r cymoedd;
Mewn bri bu'n gweini ar g'oedd
I sereiff pena'n siroedd.

Fel y dywed Glan Alun yn ei gân byddai pedwar o'r myfyrwyr ambell brydnawn Sadwrn yn myned i'r un cyfeiriad ac yn uno am gerbyd. Digwyddodd, un tro, amgylchiad gwerth ei gofnodi. Fe gofia yr actors yn y ddrama y tro yn eithaf da. Y mae y pedwar eto yn fyw; mae dau ohonynt wedi myned trwy gadair y Sasiwn yn y Gogledd, mae un arall yn lled agos ati, ac nid ydyw yn anmhosibl i'r pedwerydd fyned trwy'r un anrhydedd. Cychwynodd y pedwar un prydnawn Sadwrn yn nghyfeiriad Cerigydruidion, Llangwm, a Rhydlydan. Nid Tymplen oedd y ceffyl y tro hwn, nac ychwaith un o geffylau ereill Rice, ond rhyw "farch plaen," heb fawr o ol "stabl y capel" na cheirch yr achos arno. Fodd bynag, cyn cyrhaedd pen y daith fe gwympodd yr hen geffyl, ac fe fu farw yn y fan, gan "lwyr ddarostwng y gwyr o barch." Yr oedd golwg mwy tebyg arnynt i'r

Boneddwr mawr o'r Bala Ryw ddiwrnod aeth i hela

nag i rai wedi bod yn cyhoeddi Efengyl y tangnefedd. Ond, i dori y stori yn fyr, chwiliwyd am gigydd i flingo y trancedig, a phrydnawn ddydd Llun dyma'r gwŷr o barch yn ol i'r Bala gyda cheffyl benthyg, a chroen yr ymadawedig gyda hwy yn y cerbyd. Ni welwyd angladd mwy difrifol erioed yn dyfod trwy dyrpec isaf y Bala. Fel hyn y canodd bardd anadnabyddus i'r amgylchiad,—

O dref y Bala un prydnawn
Aeth pedwar bachgen doniol iawn,
Ar daith dros ddarn o fynydd mawr,
I draethu am olud uwch na'r llawr.

Canmolent hwy y ceffyl gwiw
Tra'n tynu'r llwyth i fyny'r rhiw,
Er tremio o'i esgyrn arnynt hwy,
Yn hen o ddyddiau, 'n llawn o glwy',

Beth wyddai'r hogiau difarf hyn
Am gaseg nac am geffyl gwyn?
Dim, dim—pregethu oedd eu gwaith,
A gwaeddi am gyrhaedd pen y daith.

Ond Och i chwi! Cyn myn'd yn mhell
Fe gawsant wybod pethau gwell,
Rhoes siampl ddai'r bechgyn blin
Trwy blygu i'r llwch ar ben ei lin.


Fel gweddai i bechaduriaid mawr
Disgynent hwythau oll i'r llawr,
Just mewn pryd i wel'd y march
Yn barod i'w roddi yn ei arch.

Ar ochr y ffordd fe drengodd, do,
Ac uwch ei ben bu gwaeddi,"Oh!"
Er dychryn mawr, a dirfawr boen,
Ni ddaeth yn ol i'r dref ond croen.

Chwychwi bregethwyr hoenus sydd
Yn gallu llamu fel yr hydd,
Na flinwch hen geffylau'r byd
Am gael eich cario byth o hyd.

Bu cyfnod y ceffylau yn gyfnod llwyddianus a phroffidiol i'r perchenogion, yn fwy o lawer felly nag i'r marchogion. Lawer gwaith byddai mwy o elw yn myn'd i boced y perchenog nag i boced y pregethwr druan. Nid oedd y gydnabyddiaeth lawer tro fawr fwy nag a delid am fenthyg y ceffyl; ac ambell dro, yn sicr, byddai y daith Sabbothol yn dead loss mewn ystyr arianol. Gobeithio nad oedd felly mewn ystyr ysbrydol. Os oedd un pechadur wedi edifarhau, yr oedd llawenydd yn y nefoedd, a gwobr fawr yn aros. Mae pethau wedi newid yn sir Feirionydd a'r siroedd ereill erbyn hyn ; y mae y blaenoriaid wedi dyfod i ddeall na fedr y pregethwyr ddim byw ar y gwynt mwy na rhyw fodau ereill. Ond peidiwn a rhoddi gormod o fai ar y blaenoriaid; os na bydd aelodau yr eglwysi yn cyfranu megis y llwyddo Duw hwynt, nis gallant hwythau dalu i'r pregethwyr. Nid ydyw yr arian yn nghoffr y capel fel y blawd yn y celwrn, nac fel yr olew yn yr ysten, fel y buasai yn dda gan lawer i hen gybyddion crintachlyd iddynt fod.

Nid oedd y ffaith fod myfyrwyr y Bala yn astudio duwinyddiaeth ac ieithoedd meirwon yn un rheswm fod raid iddynt arwain bywyd mynachaidd, gwisgo mewn sach lian a lludw, ac ymprydio dair gwaith yn yr wythnos; er fod llawer ohonynt, fel y mae yn ofidus ac yn gywilydd dweyd, yn gorfod byw yn lled fain. Prin yr oedd y gydnabyddiaeth yn ddigon i'w cadw. O na, nid mynachod gwyneb—drist oedd hen fyfyrwyr y Bala; yr oedd y mwyafrif ohonynt yn jolly fellows, rhai a fedrent fwynhau eu hunain a bod "yn llawen yn wastadol." Gallent ymbleseru mewn game of draughts neu dominoes, ond ni welais erioed gardiau ar y bwrdd, nac ychwaith yr un ddimeu goch yn cael ei henill na'i cholli. Ychydig a welais o'r bêl droed, ond byddai coetio gyda cherig neu hen bedolau yn cael ei arfer ambell dro.

Gwelais droion fyfyrwyr newydd yn d'od i'r coleg yn lled debyg i Verdant Green, dipyn yn ryw ddiniwed. Byddai raid i'r brawd hwnw fyned trwy dipyn o oruchwyliaeth y plagio. Yr oedd yn rhaid cael allan o ba fetal yr oedd y brawd newydd wedi ei wneyd. Ambell dro byddai cŵyn yn cael ei ddwyn yn erbyn myfyriwr newydd, ei fod yn ddiarwybod wedi troseddu, trwy dori un o ddeddfau anysgrifenedig y coleg. Byddai yn rhaid cael prawf arno yn ebrwydd. Cymerai y barnwr ei le ar y fainc, a chadach poced gwyn am ei ben fel wig. Yr oedd yno fargyfreithwyr ffraeth a siaradus, a deuddeg o reithwyr, tystion lawer, a chwnstabl i gadw heddwch, a'r carcharor druan yn ofni ac yn crynu. Byddai У rheithwyr bob amser yn dyfod a rheithfarn "Euog,' a dedfryd y barnwr yn fynych oedd i'r carcharor fyned i'r Ystadros am bymthegnos i bori mwsogl.

Digwyddodd, un tymor, dd'od i'r coleg fachgen yn meddu dawn neillduol gyda'i bwyntyl, ac yn fynych iawn gelwid am ei wasanaeth i dynu darluniau ar bared gwyngalchog un o oruwch—ystafelloedd y coleg. Dyma lle yr oedd oriel y darluniau. Pan y byddai un o'r bechgyn wedi troseddu, byddai yn rhaid cael ei lun yn yr oriel. Yr oedd un o'r bechgyn rhyw dro wedi cael basgedaid o wyau oddiwrth ei hen fam yn sir——— Cafwyd allan ei fod wedi bwyta chwech o'r wyau i'w frecwast y boreu canlynol. Cyn nos yr oedd llun y brawd yn yr oriel, yn eistedd wrth fwrdd, a chwech o wyau yn ei ymyl. Yr oedd y darlun mor fyw ohono fel nad oedd yn bosibl peidio ei adnabod. Yna cafwyd prawf arno ar y cyhuddiad o fwyta i ormodedd. Nid wyf yn gwybod a yrwyd ef i'r Ystadros ai peidio. Yr wyf yn meddwl ei fod wedi cael dyfod yn rhydd trwy iddo lwgrwobrwyo y rheithwyr trwy roddi wy bob un iddynt. Un nos Sabboth, pregethwyd yn hen gapel y Bala gan un o'r myfyrwyr ieuainc—un sydd erbyn heddyw yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ein gwlad. Wrth sylwi ar ddyledswyddau dywedodd,—" Y mae yn ddyledswydd arnom ni rieni plant." Cyn haner dydd y diwrnod canlynol, yr oedd llun y bachgen bregethwr yn yr oriel yn eistedd wrth y tân a phlentyn ar bob glin, a thri neu bedwar o rai ereill oddiamgylch ei gader. Erbyn heddyw y mae ganddo berffaith hawl i ddweyd "ni."[1]

Dyn poblogaidd yn mhlith y frawdoliaeth oedd dynwaredwr da. Un o'r rhai goreu felly ydoedd y diweddar bregethwr hyawdl a galluog John Ogwen Jones. Gelwid am ei wasanaeth yn aml iawn yn nhai ei frodyr colegawl, ac hefyd mewn ambell dy capel, ond nid erioed yn gyhoeddus, byddai ganddo ormod o barch i'r rhai a ddynwaredai. Gallai ddynwared Henry Rees, John Phillips, John Jones, Edward Morgan, a llawer ereill. Ni chlywais ond dau fedrai ddynwared Dr. Edwards; sef y diweddar Owen Jones, o'r Plasgwyn, ger Pwllheli, a "Rhys Lewis" yr ail, gweinidog presenol Salem, ger Caernarfon. Dynwaredwr da dros ben hefyd, tra yn y coleg, oedd Thomas Roberts, o'r Ysbyty, yn awr yn America. Daeth i'r coleg yn ieuanc iawn a chanlynodd lawer ar Dafydd Rolant," Caplan Dafydd Rolant" y byddem yn ei alw. Ei brif garictors ef oedd Cadwaladr Owen, Dr. Parry, Richard Humphreys, John Hughes, Gwyddelwern; Dr. John Hughes, Caernarfon; ac yn neillduol Dafydd Rolant.

VII. Y SASIWN.

Ni fyddai adgofion am y Bala yn gyflawn heb ddweyd rhyw ychydig am yr hen sefydliad bendigedig. Hyd o fewn tua deugain mlynedd, cynhelid y sasiwn yn y Bala bob blwyddyn—sasiwn y Bala fyddai sasiwn fawr y Gogledd, a sasiwn Llangeitho oedd sasiwn fawr y Deheudir. Fe ddywedir na ddisgynodd cawod o wlaw wythnos y sasiwn am ddeugain mlynedd yn olynol. Gan mai yn nghanol Mehefin y cynhelid yr ŵyl, yr oedd tuag adeg dechreu ar y cynhauaf gwair. Digwyddodd un flwyddyn fod yn wanwyn a dechreu haf hynod o wlyb, fel ag yr oedd y gwair, yn enwedig yn ngweirgloddiau toreithiog y Rhiwlas, yn hen barod i'r bladur, ond yr oedd ar y pen gwas ofn dechreu wrth wel'd y tywydd mor wlyb. Aeth at ei feistr, yr "hen Breis, a dywedodd ei gŵyn,—"Mae hi yn amser dechre ar y gwair, mistar; ond mae arna i ofn mai difetha wneiff o wedi ei dori ar dywydd fel hwn." "Cerwch at Lewis Edwards," meddai yr hen foneddwr,"a gofynwch iddo fo pryd mae sasiwn Methodus yn dechre." Atebai John,—" Mae'r sasiwn yn dechre yr wythnos nesa, syr." Very well, techrwch chithe ar gwair John, gweles i rioed moni glawio sasiwn Methodus.' Yr oedd gan yr hen Breis feddwl mawr o Lewis Edwards, a sasiwn Methodus, a byddai yn ddiwrnod gŵyl bob amser y diwrnod hwnw.

Fel hyn yr ysgrifena un o blant y Bala i gylchgrawn tri misol,—"Tua deugain mlynedd yn ol yr oedd y sasiwn flynyddol wedi myn'd yn dreth drom ar drigolion y dref. Yr oedd wedi myn'd yn fwy tebyg i ffair G'la mai nag i ŵyl grefyddol. Byddai prif heol y dref, o ben bwy gilydd wedi ei llenwi â stondins fferins a fire aways cnau. Byddaf yn meddwl yn aml am y swn a'r dwndwr y diwrnod cyn y sasiwn, pan fyddai merchants India roc a chnau yn dyfod i'r dref. Tynid eu "masnach droliau," nid gan feirch na mulod, ond gan gwn mawr a ffyrnig, a byddai eu nadau i'w clywed filldiroedd cyn iddynt gyrhaedd y dref. Byddai yr holl dafarnau yn llawnion, a llawer o yfed. Yr oedd pob ty yn agored, a rhyddid i bawb fyned i mewn i fwyta yr hyn a fynent. Yr oedd y tai yn llawn o bregethwyr a blaenoriaid, ac nid yn anaml y byddai chwech mewn un ystafell. Wrth gwrs, ar gefnau eu meirch y byddai y pregethwyr yn dyfod i'r sasiwn, ac ambell un lled gefnog a boliog yn ei gig. Cyfnod y peint o gwrw cyn myn'd i'r pwlpud oedd hwnw. Byddai pregethwyr y De a'r Gogledd yn gweithio eu passage, fel y dywed y llongwyr byddent yn pregethu dair gwaith bob dydd ar y ffordd. C'ai felly y pregethwr a'i farch fwyd at lojin ar y ffordd, heblaw ambell swllt yn y fargen. Fel y dywedais, yr oedd y sasiwn wedi myn'd yn dreth drom ar ein hen dref, ac yn faich rhy anhawdd ei ddwyn; felly penderfynasant un flwyddyn ei gwrthod. Yr oedd llawer o'r hen dadau yn ofni y deuai rhyw farn ar ein hen dref am wrthod y sasiwn, ac y byddai fel Sodom a Gomorrah yn diflanu o'r tir. Ond y mae y dref "bechadurus" eto heb ei difodi, ac y mae yn fwy llwyddianus nag erioed, ac yn cymeryd y sasiwn yn ei thro." Y mae y rhan fwyaf o'r hen Green erbyn hyn wedi cael ei chymeryd i fyny gan y rheilfforddond y mae digon o le i gynal sasiwn arno eto.

VIII. DIWYGIAD CREFYDDOL 1858.

Dyddiau rhyfedd oedd dyddiau y Diwygiad Mawr, Y mae y darllenydd yn cofio mai yn yr Amerig y torodd allan gyntaf, ac yn Ngheredigion y cyffyrddodd gyntaf yn Nghymru. Yr oedd y newydd am y cynhyrfiad wedi cyrhaedd y Bala, a disgwylid yn bryderus am "ymweliad." Yr oedd y Coleg wedi tori, ac fel y byddai bob amser yn ystod yr holidays, pan y byddai yr athrawon a'r myfyrwyr i ffwrdd, yr oedd pethau yn hynod o flat tua'r capel. Yr oedd tri neu bedwar o fechgyn o sir Aberteifi yn y Coleg,—tri ohonynt oedd William James, Lewis Ellis, a William Morgan. Pan ddaeth amser dechreu y Coleg, daethant hwythau yn ol yn llawn tân y Diwygiad. Yn y cyfarfod gweddi nos Lun adroddasant hanes y cyffroad mawr yn Ngogledd Aberteifi. Creodd hyny deimlad angerddol, cynheuwyd y tân, a bu agos iddi fyn'd yn wenfflam y noson hono. Cariwyd y cyfarfod yn mlaen am dros ddwy awr, a chyn y diwedd yr oedd llawr y capel yn orlawn. Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi bob nos, cynhaliai y merched gyfarfodydd, a'r un modd y plant. Yr oedd masnach fel wedi ei barlysu,—y wlad oddiamgylch yn dylifo i'r dref, nid i fasnachu, ond i weddio. Yr oedd myfyrwyr y colegau yn methu yn lân a myn'd yn mlaen. gyda'u gwersi. Aeth llawer ohonynt i'r capelau bychain oddiamgylch, fel llwynogod Samson, gyda'u ffaglau, i danio y wlad. Deuai y bobl at grefydd yn y Bala wrth yr ugeiniau—fel ag y bu rhaid rhoddi i fyny "cornel fach y seiat," a phrin yr oedd lle ar lawr y Capel Mawr. Yr oedd yr holl dref wedi ei chynhyrfu drwyddi,—y meddwon wedi sobri, y cablwyr wedi troi i folianu Duw, ac am yr erlidwyr gellid dweyd am danynt fel am Saul o Tarsus,—"Wele y mae efe yn gweddio." Penderfynwyd un noson gynal dyledswydd deuluaidd yn mhob ty yn y dref. Rhanwyd y dref yn fân ddosbarthiadau, a phenodwyd dau neu dri i fyn'd drwy bob dosbarth gyda'u gilydd rhwng chwech a naw o'r gloch. Cynhaliwyd dyledswydd yn mhob ty oddigerth rhyw dri, sef y prif westy, ty twrne, a thy Eglwyswr selog. Yr oedd y pryd hyny un ar ddeg o dafarndai yn y Bala, a gweddiwyd yn mhob un ohonynt ond yr un a enwyd. Syrthiodd i'm rhan i ymweled â dau o'r tafarndai yn nghwmni dau fyfyriwr, un yn Fethodist a'r llall yn Annibynwr. Rhyfedd oedd gwel'd y tafarndai yn weigion, a gwraig y dafarn yn estyn y Beibl mawr ar y bwrdd. Yr oedd un o'r cyfeillion yn hwyliog dros ben, wedi cael gafael yn "rhaffau yr addewidion," ac yn tynu y Nefoedd ar ei ben. Cyn iddo godi oddiar ei liniau yr oedd cegin fawr y dafarn, ystafell y gyfeddach, wedi ei llenwi gan y cymydogion; a bu agos iddi fyn'd yn orfoledd yn nghanol gwersyll y gelyn. Ymunodd llawer o feddwon. cyhoeddus â'r capelau, a bu amryw ohonynt yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos, a bu iddynt barhau hyd y diwedd. Nid anghofir byth un nos Sabboth yn y Bala yn nghanol y Diwygiad. Pregethai Dr. Edwards y bregeth hynod hono,—" Y Diwrnod Mawr." Cymerai ei destyn yn Josuah,—"O haul, aros yn Gibeon, a thithau leuad yn nyffryn Ajalon." Disgleiriai wyneb yr hybarch ddoctor fel gwyneb angel, ei lygaid fel mellten, a'i lais fel taran. Torodd yn orfoledd mawr, syrthiodd amryw i lewyg wedi eu gorchfygu gan eu teimladau.

Y dydd Llun canlynol yr oedd Cyfarfod Misol yn Nolgellau, a chefais yr anrhydedd a'r fraint o gyddeithio â'r Doctor yn un o gerbydau Rice Edwards. Cyn cyrhaedd tafarn Hywel Dda, haner y ffordd i Ddolgellau, torodd y cerbyd; a bu raid aros yn y gwesty hwnw am gryn amser i dd'od a phethau i drefn. Ond cyrhaeddwyd pen y daith o'r diwedd yn ddiogel. Pregethodd y Doctor bregeth y "Diwrnod Mawr" y noson hono, ac y mae yn ddiameu genyf nad anghofia pobl dda Dolgellau y cyfarfod hwnw tra byddant byw. Y mae llawer o ddynion sydd yn awr yn llanw pwlpud y Methodistiaid a'r Annibynwyr gyda dylanwad a nerth, yn blant diwygiad mawr y Bala a'r amgylchoedd.

IX. Y SEIAT.

Noson bwysig yn y Bala fyddai nos Fercher—dyna noson y seiat yn y Capel Mawr. Yr oedd yn rhaid i bob peth gilio o'r ffordd. Os oedd gwaith i'w wneyd, yr oedd yn rhaid ei adael i fyn'd i'r seiat. Byddai rhai yn cau drysau eu siopau am awr a hanner er mwyn i'r holl deulu gael myn'd i'r seiat. Gadawai y crydd esgid ar haner ei gwadnu, a'r teiliwr gôt heb orphen rhoddi bytymau arni. Gadawent hwythau y myfyrwyr eu Lladin a'u Groeg a'u Halgebra i fyn'd i'r seiat am awr a haner. Cynhelid y seiat mewn congl o'r Capel Mawr, yn y pen dwyreiniol. Wn i ddim paham y pen hwnw mwy na'r pen arall, os nad oedd y tadau o'r un farn a'r Eglwyswyr—mai yn y pen dwyreiniol o'r adeilad y dylid cynal y rhan fwyaf cysegredig o'r gwasanaeth. Eisteddai y dynion yn mhen eithaf y capel, a'r merched yn y rhan arall, a'r students gyda'u gilydd rhyngddynt. Eisteddai y plant ar y meinciau tuallan i'r seti, a'r hen wragedd trwm eu clyw yr un modd. Eisteddai y ddau flaenor,—Jacob a Griffith Jones,—wrth fwrdd bychan y tu allan i'r seti, a'r Doctoriaid Edwards a Parry yn y set agosaf atynt. Hen lanerch glyd a chynes i gadw seiat oedd hwn, yn enwedig yn y gauaf, pan y byddai Benjamin Griffiths wedi rhoddi tanllwyth go dda ar y stove fawr henafol ac anolygus ar lun cloch, a'r corn simdde yn myned allan trwy y mur. Gwelais yr hen stove yn wen eirias, a ninau y plant fyddem wedi cymeryd meddiant o'r meinciau agosaf ati yn cael Turkish bath o'r sort oreu. Derbynid arian y seiat bob nos Fercher, nid "casgl mis" fel mewn rhai lleoedd yn awr. Yr oedd y dollfa yn y pen arall i'r capel, ac eisteddai yno yn gyson i dderbyn "yr hyn a fwrid ynddo" Jacob Jones, Griffith Jones, Evan Owen, a David Evans. 'Doedd dim running accounts ar lyfrau seiat y Bala. Yr oedd yn haws i'r wraig weddw dlawd daflu hatling bob wythnos i'r drysorfa na phedair hatling bob mis.

Dechreuid y seiat fel rheol gan un o'r myfyrwyr. Gwrandewid ar y plant yn gyffredin gan un o'r ddau ddoctor. Adroddai yr holl blant gyda'u gilydd destynau y Sabboth, ac wedi hyny ddarnau o'r pregethau. Gwelais ambell dro Dr. Parry yn cael hwyl neillduol, yn gymaint felly fel y byddai yn amser terfynu cyn darfod efo'r plant. Adwaenai hwynt bob un wrth eu henwau. "Be ydech chi yn ddeud, Thomas? Triwch chwithe, John. Ydi o yn iawn, Llywelyn?" Ac os byddai y plant yn methu penderfynu y pwnc, troai at un o'r hen frodyr gan ddweyd," Be ydech chi yn feddwl, Huw Howel?" neu "Edward Rolant, fedrwch chwi roi tipyn o oleuni ar y mater?" Byddai Dr. Parry wedi taro tant yn y cywair llon wrth wrando ar y plant yn adrodd, a cheid hwyl hyd ddiwedd y seiat. Cymerai Dr. Edwards ei dro, wrth gwrs, a byddai wrth ei fodd yn nghanol yr hen frodyr—hen ddivines y Bala. Buasai cofnodiad o ugeiniau o ddywediadau y Doctor wrth ymddiddan â'r hen frodyr a chwiorydd y blynyddau hyn yn gwneyd un o'r cyfrolau mwyaf gwerthfawr yn ein llenyddiaeth. Gweled eu hunain yn bechaduriaid mawr yr oedd pobl y Bala y dyddiau hyny bron i gyd. "Myfi'r pechadur pena oedd byrdwn pob profiad crefyddol. Cafodd Dr. Edwards lawer o hwyl gydag un hen wreigan o'r enw Marged Wiliam,—hen wraig ddarllengar a deallus. Yr oedd Marged cyn iddi farw wedi darllen ei Beibl dros ddeg ar hugain o weithiau. Yr oedd ganddi gof neillduol, ac arferai adrodd penod o flaen y bregeth yn fynych. Un tro clywais hi yn adrodd penod o flaen Richard Humphreys, Dyffryn, y drydedd benod o Ganiad Solomon,—"Liw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid," &c. Adroddai gyda llais clir ac eglur nes gwefreiddio y gynulleidfa. Ond er mor hyddysg yn ei Beibl, "pechadures fawr" oedd Marged Wiliam bob amser. "Beth sydd genoch chi heno, Marged Wiliam," meddai Dr. Parry ryw noson. "Testyn y studen yna bore Sul," meddai Marged, "Gwir yw y gair." "Wel, ydech chi ddim yn meddwl mai chi ydi y pechadur pena?" "Ydw wir, Mr. Parry bach, yr hen galon ddrwg anghrediniol yma, ond waeth gen i befo hi—da i ddim i uffern byth. O naga byth a dawn i'n myn'd ono, mi troen fi allan mewn munud, mi ddechreuwn i ganu am 'waed yr Oen, a fedre Belsebub a'r cythreuliaid ddim diodde hyny." Eisteddai, yn agosaf at Marged, hen chwaer wedi dyfod i'r winllan ar yr unfed awr ar ddeg—hen chwaer anllythrenog a hynod o dywyll. "Wel, hon a hon," meddai Dr. Parry, mae'n debyg eich bod chwithe yn cael eich hun yn gryn bechadures fel Marged Wiliam yma?" "Nag ydyw i'nenw diar, ne be baswn i yn dwad i'r seiat? Roeddwn i yn meddwl mai pobol dduwiol oedd yma gyd." "Wel," meddai Dr. Parry,"yr yden ni yn bechaduriaid bob un ohonom ni sydd yma heno." "Wel daswn i yn gwybod hyny, fase'n well i mi aros lle 'roeddwn i," meddai'r hen wraig. "Wel, wel," meddai Dr. Parry yn siriol, "ydi hi yn amser diweddu, Jacob Jones?"

Heblaw y ddau athraw, cymerid rhan mewn cadw seiat y Bala am flynyddau gan y gŵr hynaws ac efengylaidd Lewis Jones, Llwyneinion, golygydd y cylchgrawn bychan dyddorol Y Geiniogwerth, ac awdwr Oriau Olaf Crist. Yr oedd Lewis Jones yn fab-yn-nghyfraith i Wiliam Edward yr emynwr, ac ychydig fisoedd yn ol bu gan ei ferch, Mrs. Davies, Porthaethwy, ysgrif yn Cymru yn cywiro rhyw gamgymeriad am ei thaid. Cadwr seiat o'r radd uchaf oedd Lewis Jones. Perchid ef yn fawr gan bawb. Bu farw yn gydmarol ieuanc. Yr oedd gwr anwyl arall a wnai ei ran yn seiat y Bala, sef John Thomas, brawd i'r Parchedigion William Thomas, Beaumaris; a Dr. H. E. Thomas (Huwco Meirion), Pittsburg, Amerig. Dyn addfwyn a thawel oedd John Thomas. Ni chyrhaeddodd ef mwy na Robet Thomas, Llidiardau, y sefyllfa sydd yn rhoddi hawl i bregethwr wisgo cadach gwyn, ac yr oedd Cyfarfod Misol sir Feirionydd i'w feio yn hyn o beth. Ond os nad oedd y Cyfarfod Misol wedi rhoddi "Parch" iddo, fe'i perchid gan bawb a'i hadnabai, ac yr oedd yn bregethwr cymeradwy.

X. ROBERT SAUNDERSON.

Dyma wr a wnaeth wasanaeth i Gymru yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif hon. Yn y flwyddyn 1801 daeth gŵr ieuanc o'r enw Robert Saunderson i'r Bala ar wahoddiad y Parchedig Thomas Charles, o fendigedig goffadwriaeth. Tua yr un adeg, meddir, y daeth Mr. Gee (tad yr hybarch Thomas Gee presenol) i Ddinbych; ac oddeutu yr un flwyddyn hefyd y daeth Mr. Brown i Fangor. Gwnaeth y tri wŷr hyn wasanaeth ardderchog i wlad eu mabwysiad, a bydd son am danynt tra y bydd hen iaith y Cymry yn fyw—yr hyn sydd yr un peth a dweyd diwedd y byd.

Amcan Mr. Charles yn dyfod a Mr. Saunderson i'r Bala oedd hyn. Yr oedd yn bwriadu dyfod a'r Geiriadur allan, ac yr oedd arno eisieu cael dyn o ymddiried i gymeryd gwaith mor bwysig mewn llaw. Tua yr un adeg hefyd y daeth yr argraphiad cyntaf o'r Hyfforddwr allan. Yn y flwyddyn 1806 ymbriododd Robert Saunderson â Rebecca Thomas, nith i Mr. Charles, yr hon a fu yn briod hoff ac yn wir ymgeledd gymwys iddo am dros haner can' mlynedd. Bu iddynt naw o blant, chwech o feibion a thair o ferched, un o'r rhai sydd heddyw yn fyw,—sef y foneddiges hynaws a charedig Miss Saunderson.

Mae yn debyg mai yr argraphwasg gyntaf gafodd Mr. Saunderson oedd y "Cambrian Press "—hen beiriant wedi ei wneyd o goed—a golwg ddigon anolygus a thrwsgwl arno. Gweithid ef gan ddau ddyn—un i roddi y ddalen o bapyr ar y llythyrenau a'r llall i weithio y peiriant. Cymerai amser mawr i argraphu cant o ddalenau,—un tu yn unig. Prin yr ydwyf yn meddwl y gellid argraphu cant mewn llai na dwy awr. Y mae hyn yn ymddangos bron yn anhygoel yn y dyddiau hyn o argraphu cyflym.

Nid y Geiriadur a'r Hyfforddwr yn unig a argraphwyd gan yr hen "Cambrian Press," ond miloedd lawer o bethau ereill. Llawer tro y bu'm pan yn blentyn yn difyru fy hunan yn swyddfa Mr. Saunderson, yn edrych ar yr argraphwyr yn argraphu y Geiriadur. Yr adeg yr ydwyf fi yn gofio, anaml iawn y defnyddid yr hen "Gambrian,"—yr oedd peiriant newydd wedi cymeryd ei le, un yn gweddu yn well i'r ail ran o'r ganrif, ac ynddo lawer o welliantau. Yr oedd yr hen "Gambrian" wedi ei droi i'r borfa ac wedi cael "tynu ei bedolau" fel hen geffyl ffyddlawn ar ddiwedd ei yrfa. Ni ofynid ddim gwaith ganddo, ond ambell odd job pan y byddai ei olynydd yn methu dyfod i ben. Ond pa le mae yr hen "Gambrian" heddyw tybed?[2] Gwn yn dda pa le y dylai fod,—sef yn Amgueddfa Genedlaethol cenedl y Cymry,―pe b'ai y fath le a hyny yn bod, ac y mae yn gywilydd i ni nad oes. Rhaid i mi adael Mr. Saunderson yn y fan yma, gŵr hynaws a hoff oedd yr hen argraphydd—dyn bychan o gorpholaeth a boneddigaidd yr olwg arno. Mae ef a'i briod a llawer o'r teulu yn gorwedd yn Llanecil, heb fod yn mhell oddiwrth feddrod Charles o'r Bala.

XI. MASNACH Y BALA.

Nid yn aml y sonir am y Bala fel tref hynod am ei masnach. Mae enw yr hen "brifddinas" yn fwy adnabyddus trwy'r byd—fel Jerusalem a Meca—yn ei chysylltiad â chrefydd. Ond nis gall pobl y Bala mwy na rhyw bobl ereill fyw ar grefydd yn unig, mwy nag a fedrant ar fara. Rhaid iddynt hwythau "wylio a gweddio fel nad elont i brofedigaeth."

Prif fasnach y Bala ddeugain mlynedd yn ol oedd hosanau (sanau nid "Hosana.") Mae son trwy y gwledydd am sanau y Bala. Byddai sanau meinion a siapus y Bala yn cael gwerthiant buan yn mhrif farchnadoedd Lloegr. Byddai holl ferched yr ardaloedd yn gweu yn ddygn hir nosweithiau y gauaf, ac yn wir bob cyfle arall a gaent. Mynych y gwelid y gwragedd a'r merched ieuainc yn dyfod i'r marchnadoedd a'r ffeiriau dan weu sanau, ac yn wir byddent wrthi yn brysur ar y ffordd i'r cyfarfod gweddi a'r seiat ar noson waith. Prif faelfa sanau yr amser yr ydwyf fi yn gofio oedd Tan'rhol, cartref y boneddwr caredig a haelionus Dr. Roger Hughes, U.H. Gwerthodd Mr. Hughes, Tan'rhol, ugeiniau o filoedd o sanau i fyn'd i drefydd Lloegr. Rhan bwysig o fasnach y Bala hefyd oedd gwlaneni, nid "gwlanen gartref" yn unig, ond byddai y gwlaneni meinaf yn cael eu gwneyd ; ac nid ydyw ar un cyfrif yn anhebyg na wisgwyd gwlanen y Bala gan benau coronog Prydain a gwledydd ereill. Y mae cymaint o fân aberoedd a ffrydiau yn rhedeg o'r mynyddoedd a'r bryniau oddiamgylch fel mai anhawdd ydyw cael lle mwy manteisiol i godi llaw—weithfeydd. Y mae llawer o ffactris a melinau yn y cylchoedd. Dyna ffactri Cefnddwysarn. Troir olwynion y gwaith hwn gan ffrwd fechan ac iddi amrywiol enwau, sef Nant Dyfoliog, Nant Cefncoch, Nant Llwyniolyn, Nant Cefnddwysarn, yr hon a red trwy'r dolydd sydd ar fferm Cynlas Fawr (cartref Mr. Tom Ellis, A.S.), hyd Domen Gastell, lle yr ymuna â'r Meloch, yr hon sydd yn troi olwynion Melin Meloch, ac yna yn ymarllwys i afon gysegredig y Ddyfrdwy. Arferai y diweddar Ddoctor Edwards, Bala, ddyweyd mai y Rhufeiniaid oedd wedi rhoddi yr enw ar afon Meloch, a'i fod yn tarddu o'r gair velox—sef "buan. Enw digon priodol ydyw, oblegid afon ffrochwyllt yw afon Meloch. Mae ffactris a melinau hefyd yn Rhos y Gwaliau, a droir gan yr Hirnant, yn rhedeg o'r Berwyn ac yn ymarllwys i'r Ddyfrdwy ger Tan y Garth. Ond prif ffactri yr ardaloedd ydyw ffactri Ffrydan—hen ffactri William Edward yr Emynydd. Troir olwynion hon gan ffrwd fechan y Ffrydan,—" ffrwd lân" medd rhai. Y mae yn codi rywle yn nghymydogaeth y Fedw Arian, ac wedi gwneyd gwasanaeth da i'r ffactri, mae yn ymarllwys i'r afon Tryweryn o dan hen balasdy y Rhiwlas. Ar ol William Edward, cymerwyd ffactri Ffrydan gan Mr. Robert Jones,—tad Mrs. Evan Jones, Moriah, Caernarfon, ac o dan ei arolygiaeth fedrus ef daeth ffactri fechan yr hen emynydd yn ffactri fawr yn cynwys y peirianau diweddaraf, ac yn rhoddi gwaith i lawer o weithwyr. Saif y ffactri ar gyfer y Rhiwlas—a blinid llygaid yr hen foneddwr, Mr. Price, yn fawr pan y byddai Robert Jones yn rhoddi darn newydd at yr adeilad. Pan fyddai yr hen foneddwr wedi digio Mr. Jones mewn rhyw ffordd, nid oedd raid iddo ond cael llwyth o galch i dalcen y ffactri fel pe yn parotoi i adeiladu, neu wyngalchu y lle, byddai cyflawnder o ysgyfarnogod, phesants, a phetris yn cael o hyd i'r ffordd i dy perchenog ffactri Ffrydan—dyna oedd yr aberth hedd. Adeiladodd Mr. Jones weithdai eang yn ymyl Tomen y Bala i weu gwlaneni, a chadwai lawer o wehyddion.

Ar ol Mr. Robert Jones cymerwyd y ffactri a'r gweithdai gan y boneddwr hynaws Mr. Richard Jones, Bala,—mab y diweddar Barch. Richard Jones, Bala,a brawd i Mr. Edward Jones, U.H., Plas yr Acre, a brawd hefyd i Mrs. James Williams, Llydaw. Delir y ffactri yn awr gan Mr. David Jones,—mab i'r diweddar Watkin Jones.

Yr oedd amryw o wlanenwyr a gwehyddion ereill yn y Bala. Un o'r rhai cyntaf ydwyf yn ei gofio oedd hen wr tal a golwg foneddigaidd arno,—Wiliam Llwyd. Ganwyd William yn y flwyddyn 1777, a byddai yn hoff o ddyweyd ei fod wedi ei eni yn mlwyddyn y "tri chaib." Bu fyw i oedran teg. Priododd ei ferch fab i'r diweddar Barch. Michael Roberts, Pwllheli, ac y mae dwy wyres iddo heddyw yn fyw,—Mrs. Morgan yn Rhaiadr, a Mrs. Evan Williams, y Bala. Edward Rolant hefyd oedd wehydd enwog,—hen wr syml a charedig. Rolant Hugh Pritchard oedd prif wneuthurwr peisiau stwff a defnyddiau ffedogau. Byddai yn myn'd yn fynych dros y Berwyn, dros y Figneint, ac i balasau y boneddigion i werthu ei nwyddau. Byddai y ddiweddar foneddiges o Wynnstay yn gwsmeres dda iddo. Haner can' mlynedd yn ol ymhyfrydai prif foneddigesau Cymru wisgo stwffiau o wneuthuriad Cymreig, ac am a wn i nad felly y buasent eto pe buasai y gwneuthurwyr wedi cerdded yn mlaen gyda'r oes.

XII. FFEIRIAU Y BALA.

Bu ffeiriau y Bala mewn cryn fri; ond, fel ffeiriau llawer tref a llan arall yn Nghymru, mae dyfodiad y ceffyl tân wedi gwneyd mwy o ddrwg iddynt nag o ddaioni. Prif ffeiriau y Bala oedd ffair Sadwrn Ynyd, ffair Galanmai (ffair gyflogi), ffair Wyl Beder (ffair yr ŵyn). Dyma y ffair y byddai Simon Jones o'r Lon yn gwneyd masnach fawr wrth werthu pladuriau, ar gyfer shop ei fab Simon. Ffair ganol yr Hydref oedd ffair fawr y gwartheg, pryd y byddai y porthmyn yn prynu canoedd i fyn'd a nhw i Loegr. Wythnos bwysig oedd wythnos ffair ganol. Yr hen Green oedd Smithfield y Bala. Gan fod yr anifeiliaid yn myn'd i gerdded ffordd

bell, yr oedd yn rhaid eu pedoli, a gelwid am wasan

aeth holl ofaint yr ardaloedd wythnos y ffair i barotoi yr anifeiliaid, druain, ar eu taith hirfaith. Braint fawr oedd gan rai o blant y Bala gael eu cyflogi i fyn'd i helpu gyru y gwartheg i Lundain, Northampton, a threfydd ereill, a llawer ystori ddoniol glywem ni blant yr ysgol ar ol i'r gwroniaid dd'od yn ol o Loegr, yn mhen y mis ambell dro. Diwrnod mawr oedd hwnw pan fyddai y gyroedd yn cychwyn, ac yr oedd yn rhaid i minau gael myn'd i ddanfon y gwartheg pan ond tua chwech oed cyn belled a Llanfor. Ond y mae dyddiau y gyru gwartheg wedi myn'd heibio. Cychwyna canoedd o anifeiliaid o'r Bala yn awr tua chwech o'r gloch y prydnawn, a byddant yn marchnad fawr y merthyron (Smithfield) yn Llundain cyn chwech o'r gloch boreu dranoeth. Rhyfedd fel y mae pethau wedi newid er yr hen amser gynt gyda dyfeisiadau rhan olaf y bedwaredd ganrif ar byn.theg.

XIII. Y SEIAT BACH.

Hawdd genyf gredu fod llaweroedd o hen blant y Bala, sydd ar wasgar yn mhedwar cwr y byd, yn cofio gyda phleser am yr hen seiadau bach bum' mlynedd a deugain yn ol. "Blaenor" y seiat bach oedd David Evans, postfeistr, mab-yn-nghyfraith i'r Parch. Michael Jones y cyntaf. Dyn bychan bywiog oedd Mr. Evans, yn llawn sel gyda phob peth y cymerai afael ynddo; dyn handi gyda holl bethau perthynol i'r capel. Efe oedd arolygwr Ysgol Sul y plant am lawer o flynyddoedd—yr hon a gynhelid yn yr ystafell o dan yr hen Goleg. Nid oedd Mr. Evans yn dduweinydd mawr, ond yr oedd ganddo allu anghyffredin i ddysgu i'r plant egwyddorion sylfaenol crefydd mewn dull syml ac effeithiol trwy gyfrwng y Rhodd Mam. Nid oedd chwaith yn gerddor gwych, ond yr oedd ei sel yn gwneyd i fyny am hyny. Arweiniai y gân bob amser ei hunan. Ni fyddai genym ond tair tôn o ddechreu i ddiwedd blwyddyn, sef"Diolch i Ti yr Hollalluog Dduw," "Mae Iesu Grist o'n hochor ni," ac yn enwedig

"'Rhyd ysgol faith Jehofa'n ddyn
  Ro'i bendith Jacob i bob un,"

Byddai hwyl anghyffredin gyda'r olaf, a chanem

"Roi bendith Jac—ob"

gydag yni neillduol. Gofynai Mr. Evans ambell dro Pwy benill gawn, ni, mhlant i? Gwaeddodd un bachgen bychan un Sul,—"Bendith Jac, Mr. Evans, well gen i."

Ond y mae yn tynu at chwech o'r gloch nos Wener, ac mae yn amser myn'd i'r Seiat Bach. Erbyn cyraedd y capel mae yno dyrfa o blant wrth y drws. Agorai Benjamin Griffith ddim mynud cyn yr amser pe ba i hi yn bwrw cenllysg fel pla yr Aipht. Mae llawr y capel wedi ei glirio a meinciau wedi eu gosod yn un ysgwâr fawr. Mae bwrdd bychan yn y canol, a Beibl y Seiat arno, nid yr un Beibl a ddefnyddid yn y Seiat a'r pwlpud. Dechreuir trwy ganu tôn, ac yna, cyduna y plant i adrodd Gweddi yr Arglwydd. Treulid y cyfarfod y rhan amlaf trwy i Mr. Evans ddarllen rhyw hanesyn o'r Beibl, ac wedi hyny adrodd y stori yn ei eiriau ei hun. Byddai ganddo ddarluniau lliwiedig i ddangos prif wrthddrychau yr hanes. Byddai yn gwneyd rhanau o'r Ysgrythyr mor syml fel y gallai y plentyn lleiaf eu deall. Y mae rhai o'i ddarluniau o Abraham yn aberthu Isaac, Moses yn y cawell Joseph yn cael ei ollwng i'r pydew a'i werthu i'r Aipht, yn fyw yn ein cof heddyw, er fod yn tynu at haner cant o flynyddoedd er yr amser hono.

Testyn ymddiddan y Seiat Bach un noson oedd Samson. Ar ol darllen hanes y gŵr cryf yn cyfarfod â llew ac yn ei ladd a'i hollti, galwyd ar ddau o'r bechgyn mwyaf,—y ddau erbyn heddyw yn weinidogion poblogaidd, ac os gwelant y llinellau hyn hwy gofiant yr amgylchiad, a dywedodd," Yma chi, John, y chi fydd y llew, a chwithe, William, fydd Samson." Mae'r llew yn myn'd i un pen o'r capel a Samson i'r pen arall. Maent yn cyfarfod â'u gilydd yn y canol. Mae'r llew yn syrthio ar ol i Samson gymeryd arno ei daro, ac y mae y lladdwr yn penlinio wrth y corpwys ac yn ceisio agor ei enau i'w hollti. "Aros dipyn," meddai'r llew, ne mi roi loc jo i mi." Y rhan nesaf o'r gwasanaeth oedd Samson yn myn'd a phyrth Gazah i ben y bryn. Mae y bechgyn mwyaf yn rhoddi y bwrdd bach o ganol y llawr ar gefn Samson. Mae yntau yn cychwyn tua'r grisiau ac yn esgyn gyda'r pyrth yn nghyfeiriad" pen y bryn sydd gyferbyn a Hebron." Cyn iddo esgyn pedwar gris dyna Benjamin Griffith yn agor y drws ac yn gafael yn nghoes Samson, dan waeddi,—"Stop, William, lle'r wyt ti myn'd a'r bwrdd, 'rhen beth gwirion." Ar hyn gwaeddai y blaenor,—" Gadwch lonydd iddo, Mr. Griffith; Samson ydi o, yn myn'd a phyrth Gazah i ben y bryn, ac os aroswch chi yma dipyn mi gewch i wel'd o yn tynu y capel yma am ein penau ni." "Gwarchod pawb," meddai Benja,"gwell i mi ei chychwyn hi." Ac felly fu. Ac felly fu. Y peth nesaf oedd rhoddi mwgwd am lygaid Samson, a'i rwymo gyda thipyn o linyn, wrth un o golofnau y capel, fel y rhwymwyd Samson gynt wrth golofnau y chwareudy. Ond ni thynodd ein Samson ni y capel am ein penau, neu ni fuaswn yma i ysgrifenu yr hanes heddyw.

Un tro yr oedd eisieu dangos i'r plant sut y bu hi ar Daniel yn ffau y llewod. Gorweddai tri neu bedwar o'r bechgyn ar lawr y capel, ac yna gorweddai Daniel a'i ben yn pwyso ar un o'r "llewod." Toc clywn lais yn gwaeddi o'r gallery,—" Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?" Yna clywn lais ar y llawr yn gwaeddi,—"O frenin, bydd fyw byth." Daeth y brenin Darius i lawr o'r gallery, a chododd Daniel a'r "llewod" i fyny. Yr oedd y brenin Darius, Daniel, a'r llewod yn cyd—chwareu y dydd canlynol wrth Lyn Tegid. Rhyw ddull fel yna oedd gan Mr. David Evans, blaenor Seiat Bach y Bala, i argraphu hanesyddiaeth y Beibl ar feddyliau yr oes oedd yn codi.

Dyma ystori a gefais ychydig amser yn ol oddiwrth hen gyfaill o'r Rhyl, ond genedigol o'r Bala. Mae canoedd o bobl yn sir Feirionydd yn cofio yn dda am Mr. David Evans, Postfeistr y Bala, mab—yn—nghyfraith i'r Parch. Michael Jones y cyntaf, a brawd—yn—nghyfraith i'r Prif—athraw Michael Jones yr ail. Yr oedd Mr. Evans yn gadwr seiat plant heb ei fath, ac elai i gapelau y cymydogaethau ambell dro i gadw "Seiat Bach." Un tro pan yn cyfeirio ei gamrau yn nghyfeiriad Llwyneinion, cyfarfu ag ef foneddiges ffraeth, gwraig Mr. Simon Jones. "I ble 'rydech chi yn myn'd, Mr. Evans bach? gofynai Mrs. Jones. "I gadw Seiat Bach i Llwyneinion," atebai yntau. "Pwy sydd ganddoch chwi yn. edrych ar ol y siop a'r busnes, Mr. Evans?" gofynai Mrs. Jones. "O," meddai'r cadwr seiat diail,"yr ydw i wedi gadael y siop a phobpeth i ofal Iesu Grist." "Ydech chwi ddim yn meddwl, Mr. Evans," ebai'r foneddiges,"y byddai yn llawer gwell i chwi adael i Iesu Grist fyn'di Lwyneinion i gadw seiat, ac i chwithau aros gartref i edrych ar ol y siop?" Ond mi edrychodd Iesu Grist ar ol y siop, ac fe gafodd David Evans hwyl neillduol yn Seiat Bach Llwyneinion. Heddwch i'w lwch a bydded ei goffadwriaeth yn fendigedig.

XIV. IOAN DYFRDWY.

Nid ydyw y Bala wedi enwogi ei hunan yn neillduol gyda'i beirdd. Rhaid rhoddi y llawryf i Ddolgellau yn y cyfeiriad yna.[3] Fe gododd llawer o feirdd gwychion yn yr ardaloedd, rhai sydd wedi cyfoethogi barddoniaeth y Cymry. Yn Llandderfel cawn Edward Jones, Bardd y Brenin. Gyda llaw, pa le y mae ei hen delyn yn cartrefu yn awr? Prynwyd hi am haner coron yn Manceinion gan Idris Vychan mewn rhyw ocsiwn. Bu yr hen delyn yn lletya yn fy nhy gyda'i pherchenog wythnos Eisteddfod Caernarfon 1880. Arddangoswyd hi hefyd yn Arddangosfa yr Eisteddfod. Yr oedd gan Idris feddwl y byd ohoni. Clywais ei bod yn awr yn meddiant y gwladgarwr Dr. Emrys Jones, U.H., Manchester. Ös felly, y mae yn ddigon diogel hyd y ca Mr. Herbert Lewis Amgueddfa Gymreig. Yn Llandderfel hefyd y ganwyd Huw Derfel, Derfel Meirion, ac R. J. Derfel,—awdwr "Brad y Llyfrau Gleision," "Caneuon Min y Ffordd," a llawer iawn o lyfrau ereill. Yn Llanuwchllyn y ganwyd Ap Fychan, Bardd Dochan, ac ereill. y Bala nid ydym yn cael ond ychydig heblaw yr hen Emynwr. Yr wyf yn cofio Siarl Penllyn,—mab i Robert Saunderson,—a Gwilym Treweryn,—brawd y Parch. Morris Williams, Dinbych.

Y bardd yr wyf fi yn ei gofio oreu yn y Bala ydoedd Ioan Dyfrdwy, sef John Page Daeth y bardd melus hwn i'r Bala o Loegr pan yn faban bychan, a magwyd ef gan deulu caredig Hysbysfa, rhyw ddwy filldir o'r dref. Pan tua deuddeng mlwydd oed, aeth fel egwyddor—was i siop Simon Jones. Dechreuodd John brydyddu yn ieuanc iawn, a hoffid ef yn fawr gan drigolion llengar y Bala, ac yn neillduol gan fyfyrwyr y ddau goleg. Yn y flwyddyn 1850 aeth i Eisteddfod Madog,—a chafodd yno ei urddo yn ol defod a braint beirdd Ynys Prydain, dan yr enw barddol "Ioan Dyfrdwy." Cafodd y bardd ieuanc ei drwytho mewn ysbryd eisteddfodol yn yr Eisteddfod fythgofiadwy hon. Yn hon y cafodd Gwilym Hiraethog y gadair am awdl ar "Heddwch;" Ieuan Gwynedd oedd yr ail. Yn hon hefyd yr enillodd Robyn Wyn am yr englyn beddargraph i Carnhuanawc. Enillodd Glasynys hefyd amryw wobrau yn yr un Eisteddfod.

Arferai Simon Jones werthu pladuriau, fel hefyd y gwnai ei dad, hen wr y Lôn, o'i flaen. Yr oedd nifer mawr o'r celfi miniog hyn mewn ystordy naill du i'r siop. Wrth gario cowled o sebon o ystordy arall, a phan yn myn'd heibio y pladuriau llithrodd traed John a briwiodd ei wegil, fel y dywed,—

Dyma'r fan lle cês i, Jac,
Ar fy ngwegil dori hac ;
Gwae oedd erioed im' wel'd yr awr
I dori mhen â'r bladur fawr.

Cario sebon, goflaid gu,
I'w le priodol 'roeddwn i;
Ac wrth im' ddisgyn hwnw i lawr,
Cês ddyrnod gan y bladur fawr.

Boreu Mehefin sarug, syn,
Yr ail ar hugain ydoedd hyn;
Un mil wyth gant a phedwar deg
A naw—y bu y chwareu breg.

Yr oedd yn bwrw eira ryw foreu, a rhedodd John yn groes i'r heol i siop Tan'rholi wneyd neges. Safai Mr. Hughes ar ben y drws, a gwenodd pan welodd y bachgen yn ysgwyd yr eira oddiar ei ddillad, a gofynai, —"Ddaru ti frifo, John bach?" Atebodd yntau,—

'Heb argau syrthiais fel burgyn—i lawr
Ar oer le bu disgyn;
Cyfodais, dwedais fel dyn
Yn sad na byddwn sydyn."

Tua'r adeg yr oedd John Page yn ngwasanaeth Simon Jones, daeth ficer newydd i eglwys Beuno Sant, Llanecil, o'r enw Mr. Pugh—uchel eglwyswr selog, un a wnaeth dipyn o son am dano, ac a dynodd yr Ymneillduwyr yn ei ben yn enbyd. Safai yn gadarn dros gael offrwm yn y claddedigaethau, a gallwn ddyweyd yn y fan yma mai John Page oedd y cyntaf i gael ei gladdu yn Llanecil mewn claddedigaeth cyhoeddus, heb offrwm. Ffromodd y ficer yn aruthr, a gwrthodai gymeryd tâl o gwbl. Ychydig cyn marw, fel hyn y canodd Ioan Dyfrdwy i "Gyffes Offeiriad,—

Diafol uffernol o'i ffwrnais—oeddwn
 ::I heddyw ar falais,
Gweini y bu'm mewn gwenbais
Am y degwm ymdagais.

Fel hyn yr englynodd feddargraph i gyfaill,

O gwel, anuwiol, gwylia—arswyd yw,
Os deui di yma
Heb grefydd o'r defnydd da
Doi allan heb dy wella.

John Page a fu yn foddion i gychwyn "Cymdeithas Lenyddol Meirion." Cychwynwyd y gymdeithas flodeuog hon gan bedwar o fechgyn ieuainc yn un o gaeau y Rhiwlas, o dan hen dderwen. Y pedwar bachgen oeddynt. John Page, Ioan Pedr, Gwilym Tegid, a Roger Hughes. Y mae yr olaf yn fyw, ac eiddunaf hir oes iddo i wasanaethu ei genedl a'i Feistr Mawr. Dyma fel y canodd ein harwr i'r cyfarfod cyntaf o dan y dderwen,—

Rhyw bedwar ddengar wŷr ddaeth a'u bwriad
I buro eu harchwaeth ;
A cheisio mêl, achos maeth
O allu noddi llenyddiaeth.

Yn gwrddle, caem bren gwyrddlas, — a'r oerwynt
Weryrai o'n cwmpas;
Garw iawn oedd gerwin ias
Oer aelwyd ar gae'r Rhiwlas."

Daeth y gauaf o'r diwedd, ac yr oedd yn rhaid i'r pedwar llanc llengar gael rhywle heblaw caeau y Rhiwlas i gynal eu cyfarfod, ac yr oedd yn rhaid bod yn lled. ddistaw ar y cyntaf. Nid oedd hen Biwritaniaid duwiol y Bala eto wedi dyfod i gydymdeimlo â dim oddiallan i hen draddodiadau Methodistaidd. Fodd bynag, cafwyd o hyd i gwt mochyn heb breswylydd ynddo, a chafwyd cowled o wellt glân, i wneyd y lle yn gyfforddus, a dyna lle y bu y pedwar llenor, yn ddirgel yn cynal eu tipyn cyfarfod gyda'r "drysau yn gauad rhag ofn" nid yr Iuddewon fel y disgyblion, ond yr hen frodyr crefyddol. Ond dyma fo yn ngeiriau un o'r pedwarawd:

Gado y man gwed'yn;—ond tro baw
Troi beirdd i'r cwt mochyn."

Yn fuan wed'yn cawsant le mewn ystabl yn ymyl y "Domen," a dyna lle y buont yn

Moli yn nghwt y mulyn
Anhawdd, ac nid hawdd gwneyd hyn."

Erbyn hyn yr oedd pethau yn dechreu gwawrio ar y llenorion, a chwanegwyd at eu nifer, a chawsant fyn'd i eistedd wrth dân mewn ty cyfaill llengarol,

"Rol hyny, i dŷ at dân—y daethom
A'n cymdeithas ddiddan ;
Ond tlawd le, at aelwyd lân
O'n tw'llwch a'r cut allan."

Cyn y Nadolig yr oedd y pedwar llenor wedi casglu nerth, a llu o gyfeillion, fel y bu raid cynal y cyfarfodydd yn un o ystafelloedd yr hen goleg,—

"Heno wele lu ohonom—dewisol
Dri dwsin yr aethom;
Llon byth gyfeillion y bôm,
Un dryswch na ddoed drosom."

Bu farw y bardd swynol pan brin yn un ar hugain oed. Claddwyd ef yn barchus gan aelodau "Cymdeithas. Lenyddol Meirion." Gosodwyd careg brydferth i ddynodi man fechan ei feddrod—ac arni yn gerfiedig y beddargraph canlynol gan Fardd Dochan,

Diau hynotach daw Ioan eto
Yn wr heb anaf o hen âr Beuno;
Yn derydd esgyn, wedi ei harddwisgo
A mawredd Salem, i urddas eilio
Cerdd i'w Frawd nol cyrraedd y fro—uwch angen
A'i bêr ddawn addien heb arwydd heneiddio."

Yr unig farddoniaeth gyhoeddedig ag yr wyf fi wedi d'od ar ei draws, o eiddo Ioan Dyfrdwy, ydyw llyfryn bychan o'r enw "Briallu Dyfrdwy. Argraphwyd gan Griffith Jones, y Bala, 1852. Pris tair ceiniog."

XV. YR HEN GYMERIADAU.

Yn mhob gwlad y megir glew; ac felly hefyd yn mhob ardal, llan, a thref, y megir cymeriadau y perthyn iddynt eu neillduolion gwahanol i'w cymydogion. Nid ydyw y Bala yn wahanol yn hyn o beth i drefydd ereill, ac y mae yn naturiol i un o'i phlant feddwl nad oes yr un man arall dan haul yn rhagori mewn unrhyw nodwedd. Yr oeddwn wedi meddwl wrth ddechreu ar fy adgofion sylwi ar rai o hen gymeriadau y Bala yn lled helaeth. Ond wrth edrych dros y pedair penod ar ddeg a roddwyd eisoes o flaen y darllenydd, yr wyf yn gweled fy mod wedi cyffwrdd eisoes â'r prif gymeriadau, a byddai rhoddi penod i bob un ohonynt yn fwy nag a oddefa gofod i mi. Yr ydwyf wedi dwyn ger eich bron. nifer go fawr o gymeriadau a wnaethant eu rhan yn eu gwahanol gylchoedd tuag at enwogi tref y Bala. Dyna Benjamin Griffiths, Rolant Pritchard, y ddau Evan Owen, Robert Michael Roberts, Robert Jones y Gof, David Evans, Griffith Jones, a Jacob Jones, Edward Rolant, Margaret William ag ereill.

XVI. CANU YN IACH.

Y mae llawer o'm darllenwyr na fuont erioed yn y Bala, ac na sangodd eu traed ar y llanerch gysegredig y bu eu tadau a'u teidiau yn gwneyd pererindod iddi ugeiniau o flynyddoedd yn ol. Wrth ganu yn iach, gofynaf i'r darllenydd ddyfod gyda mi am enyd. Ar ol disgyn yn ngorsaf y Bala, cyfeiriwn ein camrau ar hyd yr heol a elwir uniawn nes dyfod at y "Groes Fawr." Trown ar y chwith, awn heibio yr hen goleg a'r capel Methodistiaid,—o flaen yr hwn y saif cof—golofn Charles o'r Bala. Yn fuan cawn ein hunain ar lan "môr y Bala," sef Llyn Tegid. Dyma ni yn sefyll ar y Roe Wen, y pen dwyreiniol i'r Llyn, a gallaf sicrhau y darllenydd nad oes olygfa brydferthach yn Ewrop. Dyma i chwi ddarn o ddwfr ysblenydd! Beth fuasai llawer o drefydd mawr Lloegr yn roddi am lyn fel hwn o fewn cyrhaedd? Buasai dwsinau o agerlongau bychain arno, ac ugeiniau o bleser gychod. Ydych chwi bobl Bala yn gwneyd y goreu o'r adnoddau y mae Rhagluniaeth wedi eu rhoddi yn eich cyrhaedd? Byddai agerlestri bychain yn rhedeg i Lanuwchllyn, ac wedi hyny ddigonedd o ferlynod bychain i fyn'd ag ymwelwyr i ben Aran Benllyn neu Aran Fawddwy, yn atyniad mawr i ddyeithriaid. Y mae y Wyddfa yn tynu miloedd bob blwyddyn i ardaloedd Beddgelert, Capel Curig, a Llanberis; ond nid ydyw y Wyddfa fawr ond ychydig iawn o droedfeddi yn uwch nag Aran Fawddwy.

Wel, dyma ni yn sefyll, fel y dywedais, ar y Roe Wen. Ar y llaw dde mae bryniau y Fron Dderw, ac anedd—dai prydferth Bryn y Groes, Eryl Aran, Bron Feuno, a Bryn Tegid. O dan y Fron Feuno mae Eglwys Llanecil, gyda'i choed yŵ tewfrig, llanerch beddrodau Charles, Simon Llwyd, Enoch a John Evans, Dafydd Cadwalad, ac yn olaf, er mai nid ar un cyfrif y lleiaf, yr anwyl Ddoctor Edwards. Ar law aswy yr ymwelydd mae ffriddoedd serth Fachddeiliog. Yn union ar ben y bryn yna, wrth ben yr hen orsaf, y saif y Wenallt, hen gartref Edward Jones. Nid oes yr un myfyriwr yn fyw a fu yn y Bala o ddydd agoriad y Coleg yn 1838 hyd y dydd y bu farw yr hen bererin, nad oes ganddynt air da iddo. Yn mhellach yn mlaen mae'r Fachddeiliog, lle a sonir am dano yn Methodistiaeth Cymru fel y lle y bu teulu anuwiol yn byw ynddo amser dechreu Methodistiaeth. Mor anuwiol oeddynt fel y byddent ar y Sabboth cyntaf o bob mis yn rhoddi cymun i'r cŵn. Rhyw ddwy filldir yn mhellach y mae hen fynwent Eglwys Llangower, a'r fynwent lle gorwedd llawer o deulu Ty Cerig, lle y ganwyd ac y magwyd tad yr aelod anrhydeddus dros Feirion. A chyda gwyleidd—dra y dymunwn ddyweyd, yno y gorwedd llwch fy anwyl dad er's dros ddeugain mlynedd. Ar gyfer Llangower y mae palasdy bychan Glanllyn, lle y bydd Syr Watcyn yn dyfod amser saethu ieir mynydd. Yn mhen draw eithaf y llyn gwelwn golofnau o fwg yn esgyn i fyny,—dyna Lanuwchllyn, cartref a man genedigol llawer o enwogion. Ar yr aswy, uwchben Llanuwchllyn, mae y ddwy Aran yn ymgodi hyd y cymylau, ac yn y pellder eithaf yn y gorllewin gwelwn Gader Idris. Dipyn i'r dde, dros fryniau y Fron, gwelwn y ddwy Arenig, o'r lle y ca pobl y Bala y dwfr grisialaidd sydd yn lloni eu calonau. Nid wyf yn gwybod am lanerch yn Nghymru lle y caiff un fwy o amrywiaeth golygfeydd nac oddiar lan Llyn Tegid.

Nid oes genym ond ychydig o amser cyn y bydd y trên yn gadael yr orsaf am Ddolgellau a Chaernarfon, ond rhaid myn'd i gael dringo i fyny i ben Tomen y Bala. Sut y daeth y bryn bychan hwn i ganol tref y Bala, y mae yn anhawdd dweyd. Y farn gyffredin ydyw mai beddrod cadfridog Rhufeinig ydyw. Mae un tebyg iddo ar ffordd Cefnddwysarn, sef Tomen Gastell, ac un arall yn ymyl yr hen orsaf, a lle y cychwyna yr afon Ddyfrdwy ar ei ffordd trwy ddyffrynoedd Edeirnion a Llangollen a Maelor i'r môr, ar draethell Fflint, ger Penarlag. Llanerch ddyddorol ydyw Tomen y Bala. Ewch yno ar amser y Sasiwn, cewch glywed y cenhadon hedd yn cyhoeddi efengyl y tangnefedd oddiar yr hen Green gysegredig. Mae golygfa ddymunol i'w chael oddiar ben y Domen. Cewch wel'd Treweryn yn ymuno mewn glân briodas â'r Ddyfrdwy. Cewch wel'd y llyn a'r mynyddoedd y cyfeiriwyd atynt, a phobpeth gwerth i'w wel'd yn ardal y Bala.

Ac yn awr, dirion ddarllenydd, nis gwn am le gwell "Thomen i edifarhau mewn sachlian a lludw am lawer o wallau sydd wedi ymlusgo i fy adgofion. Ond yr wyf yn sicr y maddeui i mi pan ddywedaf fod pob Ilinell a phob gair wedi ei ysgrifenu ar fy nghefn ar glaf wely. A therfynaf yn ngeiriau, o'r bron y gallaf ddyweyd ysbrydoledig, Glan Alun,

Bu'm o ' chydig ddefnydd gynt,
Cawn groesaw canoedd ar fy hynt ;—
Aeth hyny hefyd gyda'r gwynt,
A minau ' n farw 'n fyw."





Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae y cyfaill wedi myn'd erbyn hyn i fewn i lawenydd ei Arglwydd.
  2. Hysbysir fi gan Olygydd Seren y Bala fod yr hen "Gambrian" yn ddigon diogel yn y swyddfa, ond wedi ei dynu yn ddarnau.
  3. Ar ol i'r sylwadau hyn ymddangos yn CYMRU buom o dan driniaeth chwerw gan amryw feirdd am anghofio Tegidon a Gomer ab Tegid. Gwneuthym ymddiheurad llawn a maddeuwyd fy mhechodau.