Adgofion Andronicus/Oriau gyda John Bright
← Adgofion am y Bala | Adgofion Andronicus gan John Williams Jones (Andronicus) |
Y Ddyfrdwy Sanctaidd → |
ORIAU GYDA JOHN BRIGHT.
ER fod John Bright yn ei fedd er's rhai blynyddau bellach," y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Er iddo yn 1886 dori ei gysylltiad â'r adran fwyaf Radicalaidd o'r blaid Ryddfrydol, a'i Harweinydd enwog, nid oes Radical yn y deyrnas nad ydyw yn barod i anghofio pobpeth ac i dynu ei het er anrhydedd i'w goffadwriaeth pan y sonir am ei enw. Pan fu yr hen wron farw, ei hen gyfaill pur, Mr. Gladstone, oedd yr un a dalodd y warogaeth fwyaf teimladol iddo.
Yr oedd yr enw John Bright yn enw swynol i mi er pan yn blentyn bychan yn chwareu ar lan Llyn Tegid, a llawer gwaith y clywais fy nhad, pan yn ymddiddan â rhai o fyfyrwyr y Coleg oddiamgylch y tân yn nghanol mwg tybaco, yn dyfod a John Bright i'r sgwrs. Yr oedd Peel, Cobden, a Bright, yn enwau teuluaidd y pryd hyny—dyddiau diddymu "Treth yr Yd,"—
Trethydd ŷd, nid rhith o dda—dilëwch
O lwg, O gwyliwch lewygu Gwalia,
fel y canai Dewi Wyn. Ond rywfodd, enw Bright oedd wedi glynu wrthyf fi. Un achos am hyny, efallai, oedd fod un math o felusion (da da, ys dywed y plant), yn dwyn yr enw Bright Drops, a chan fod fy nhad yn gwerthu y cyfryw bethau, ac yn fy anrhegu yn lled aml â rhai ohonynt am wneyd negeseuon yn ddiymdroi, yr oedd, wrth gwrs, y "Bright Drops" a minau wedi dyfod yn gryn gyfeillion. Fel yr oedd blynyddoedd yn myn'd heibio, a minau yn myned yn hyn, ac yn dyfod yn fwy hyddysg â helyntion y byd politicaidd, yr oedd yr enw "Bright" yn dyfod yn fwy anwyl genyf. Yr oedd darllen am ei lafur diflino, ei areithiau tanbaid o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol, a heddwch,—yn ei wneyd yn brif arwr fy nychymyg. Nid oeddwn ond bachgen lled ieuanc yn 1858, ond yr oedd yn loes lled drom i mi fod fy arwr wedi cael ei droi allan o gynrychiolaeth Manchester, a hyny am siarad yn erbyn rhyfel a thywallt gwaed y Crimea.
Yn fuan wedi hyn, ymadewais o Gymru i un o drefydd Lloegr, a chefais gyfle i ddarllen y papyrau dyddiol; ac os gwelwn rywbeth am John Bright, mi a'i darllenwn o'i ddechreu i'w ddiwedd, deall neu beidio. Wedi hyny symudais i Fanchester, ac yr oedd awydd cryf arnaf am gael un golwg ar wyneb fy arwr. Un boreu, fel yr oeddwn yn cerdded i lawr Market Street, pwy welwn yn dyfod i fyny yr heol ond John Bright. Yr oedd yn anmhosibl peidio ei adnabod ar ol unwaith gwel'd ei lun. Gwaith hawdd fuasai ei bigo allan o ganol deng mil o bobl, yn enwedig i un oedd yn meddwl cymaint ohono ag yr oeddwn i. Wel, yr oeddwn wedi gwel'd y "great tribune;" ond nid oedd hyny yn ddigon, yr oedd yn rhaid cael ei glywed yn siarad,—yr oedd yn rhaid cael clywed y llais melodaidd a swynol oedd wedi gwefreiddio canoedd o filoedd o bobl yn ystod ymgyrch fawr Deddfau yr Yd. A daeth y cyfle cyn rhyw hir iawn. Yr oedd Mr. Bright i gymeryd rhan mewn cyfarfod mawr yn y Free Trade Hall ryw noson, a phenderfynais y mynwn ei glywed. Hwn oedd y tro cyntaf iddo ymddangos ar lwyfan cyhoeddus yn Manchester ar ol cael ei droi allan yn etholiad 1858. Yr oedd prif ddinas y cotwm wedi edifarhau mewn sachlian a lludw er's llawer dydd. Wel, noson y cyfarfod a ddaeth, ac oriau cyn dechreu cefais fy hun yn nghanol torf o ugeiniau o filoedd, a phawb ar yr un neges a minau. Lle i ryw chwe mil sydd yn neuadd fawr y Free Trade Hall; ond yr oedd dros gan' mil yn yr heol. Fodd bynag, rhyw ddwy awr cyn dechreu y cyfarfod, cefais fy hunan rhwng byw a marw yn eistedd mewn sedd gyfleus i wrando ar arwr y cyfarfod. Dyma hi yn saith o'r gloch o'r diwedd, a dyma rhyw gynhwrf yn ymyl y fynedfa i'r esgynlawr. Y mae llygaid y miloedd yn cyfeirio i'r un pwynt. Dyna ben gwyn patriarchaidd yn ymddangos—pen mawr a gwyneb crwn rhadlon. Pwy ydyw? 'Does dim eisieu gofyn; dyna John Bright, yr hwn y mae ei enw yn fendigedig yn mhob bwthyn yn y deyrnas am roddi iddynt dorth fawr o fara iachusol ar eu byrddau bɔb dydd. Y mae yr organ ardderchog yn taro y dôn," Yr Hen Amser Gynt," ac wedi hyny
Johnny comes marching home again,
ac y mae yr holl filoedd ar eu traed yn uno yn y gân gyda theimladau gorfoleddus. Y mae yr hen wron yn sefyll ar yr esgynlawr, a'i het fawr yn ei law; ei wyneb yn welw, a'r dagrau yn rhedeg ar hyd ei ruddiau. Nis gŵyr neb ond ef ei hunan, a'r Hwn sydd yn gwybod pobpeth, beth ydyw y teimladau sydd yn llanw ei fynwes y mynudau hyn. Nid anghofiaf byth mo'r olygfa. Ar ol cael tawelwch, cawsom anerchiad dyddorol ganddo yn ei ddull mwyaf hapus. Cefais y fraint o wrando arno lawer tro ar ol hyn. Ond nid oeddwn yn foddlawn ar hyn eto heb gael ymgom gydag ef. Ond pa fodd i gyrhaedd y fath uchelgais i fodolyn dinod? Wel, daeth hyny hefyd oddiamgylch yn ei amser priodol, a cheisiaf adrodd yr hanes mor gywir ag y gallaf ar ol rhai blynyddoedd o amser.
Yn Ngwanwyn 1885, dygodd amgylchiadau Rhagluniaeth fi i'r Hydropathic Institution, Llandudno, i fyned o dan y driniaeth ddyfrol. Bu'm yno am rai wythnosau, ac yn ystod fy arosiad daethum i gyfarfyddiad â Mr. Bright. Fel y gwyr y darllenydd, arferai efe fyn'd i Landudno bob dechreu haf, ac arhosai yn y George Hotel. Yr oedd yn hynod o hoff o Turkish Bath, ac ymwelai bron bob dydd â'r Hydro i fyned trwy yr oruchwyliaeth. Yr oedd tri o'r gloch yn awr fanteisiol iddo gael yr ystafell "chwysyddol" iddo ei hunan, gan mai un ar ddeg a phump oedd oriau arferol y rhai arhosent yn y sefydliad. Yr oeddwn wedi sylwi ar y gwleidyddwr enwog aml dro yn dyfod am dri o'r gloch, ac yr oedd awydd angerddol ynof am gael ymgom gydag ef, os gallwn wneyd hyny heb beri unrhyw dramgwydd neu anghysur iddo. Dywedais fy nymuniad wrth Dr. Thomas, meddyg ac arolygydd y sefydliad, a rhoddodd yntau i mi ganiatad i fyned i'r bath am dri o'r gloch. "Ond," meddai, "os ydych am gael ymgom gyda Mr. Bright, peidiwch a forcio ymddiddan arno; gadewch iddo ef siarad yn gyntaf." Felly fu; aethum i lawr. Yr oeddwn yn digwydd bod yn dra phoenus y diwrnod hwnw, fel yr oedd yn rhaid i un o'r gwasanaethyddion fy helpio i'r ystafell boeth, a'm gosod i orwedd ar y fainc bren. Yr oedd Mr. Bright yno o'm blaen, a gorweddai ar fy nghyfer. Edrychai arnaf yn dosturiol, a dywedai, "Yr ydych mewn poen mawr, beth ydyw eich afiechyd?" Dywedais inau mai y cryd cymalau. Dyna yr holl sgwrs y diwrnod cyntaf. Pan aeth i'r ystafell arall, gofynai i'r ystafellydd pwy oeddwn, o b'le
deuwn, a beth oedd fy ngalwedigaeth? Dywedodd Frank, y bathman, wrthyf wed'yn, "Yr oedd yr hen wr yn holi am danoch fel pe dase fo yn myn'd i ysgrifenu hanes eich bywyd; mae o wedi myn'd yn hynod blentynaidd, ac eisieu gwybod hanes pawb." Yr ail ddydd, pan gymerais fy lle yn y bath, yr oedd Mr. Bright yno, a gofynodd yn siriol, "Ydech chi yn llai poenus heddyw? O Gaernarfon yr ydech chi yn dyfod oni tê? Hen dref ddyddorol ydyw eich tref chwi, ac yr ydych yn gryn Radicals acw. "Wel, wn i ddim am hyny, Mr. Bright," meddwn inau, "y mae y mwyafrif mawr ohonom yn Ymneillduwyr, ond wn i ddim beth am ein Radicaliaeth. Yr wyf yn tueddu i feddwl fod y pleidiau yn lled gyfartal." "Beth ydech chi'n feddwl acw of Fesur Claddu Mr. Osborne Morgan, Mr. Jones; ydi o yn dyfod i fyny a'ch dymuniadau? Wel, nac ydyw, syr, mae llawer o bethau ynddo eisieu eu newid." "Wel, beth ydi un ohonynt?" "Wel, syr, ni fu'm i ond mewn un cynhebrwng o dan y Drefn Newydd, ac yr oedd hwnw yn ddiwrnod oer a gwlyb, cefais i a llawer ereill ein gwlychu at ein crwyn wrth sefyll allan tra yr oedd yr hen Eglwys o fewn ychydig latheni i ni, ond nid oedd genym hawl i gynhal y gwasanaeth ynddi heb fyn'd a'r person gyda ni." Ar hyn chwarddodd yr hen wr yn galonog, a sylwai :—" Mae'n debyg mai effaith y gwlychu y diwrnod hwnw ydyw y cryd cymalau, ac felly y mae yn rhaid i chwi ddiolch i Mr. Osborne Morgan am eich anhwyldeb." "O, nage, syr; buasai Mr. Osborne Morgan yn ddigon parod i ni gael myn'd i'r Eglwys i gynhal y gwasanaeth, ond y Toriaid a'r Arglwyddi oedd yn erbyn." "Wel, na hidiwch, Mr. Jones; mae Dadgysylltiad yn Nghymru yn sicr o ddyfod, er gwaethaf y Toriaid a'r Arglwyddi. Ond y mae'n rhaid i chwi gynhyrfu y wlad ben bwy gilydd, a gwylio eich cyfle, pan y bydd pleidlais Cymru yn rym nerthol yn Nhy y Cyffredin. Fy marn i ydyw mai Eglwys Ysgotland fydd raid fyn'd gyntaf, ac wedi hyny yr Eglwys yn Nghymru. Efallai fy mod yn methu." Mae'n debyg pe buasai Mr. Bright yn fyw y dyddiau hyn y buasai wedi newid ei feddwl.
Yr oedd Mr. Bright yn myn'd yn fwy rhydd bob dydd fel yr oeddym yn dyfod yn fwy cydnabyddus, a ninau yn gofalu peidio cymeryd mantais o hyny i'w dynu allan. Yn ystod y dyddiau hyny yr oedd Mr. J. L. Bright yn anerch cyfarfodydd yn Stoke, gyda'r amcan o ymgeisio am y sedd yn yr etholiad cyffredinol oedd wrth y drws. Y peth cyntaf a ofynodd Mr. Bright i mi un prydnawn oedd, "A welsoch chwi y Liverpool Daily Post heddyw, Mr. Jones? "Do syr," meddwn inau. "A welsoch chwi araeth fy mab yn Stoke ar helynt yr Aipht; beth oeddych chwi yn feddwl o gymhariaeth y coginydd?" "Do syr, mi gwelais hi, a meddwl yr oeddwn i y dywed llawer o bobl mai chwi wnaeth yr araeth, mae mor debyg i chwi." "Tybed, tybed," meddai yntau dan chwerthin.
Yn ystod y dyddiau yr oedd yr ymddiddanion hyn yn cymeryd lle, digwyddodd tro lled ryfedd. Derbyniais barsel oddiwrth gyfaill, a hwnw wedi ei lapio mewn dalen o'r Times am y flwyddyn 1845. Yn y darn o'r papyr yr oedd un o areithiau mawr Mr. Bright yn Nhy y Cyffredin ar y "Mesur Helwriaeth." Adroddais y ffaith wrtho y prydnawn hwnw. "Dear me," meddai yntau gyda syndod,"p'le, tybed, y bu y darn papyr yna er's deugain mlynedd? Yr wyf yn cofio yr araeth yn dda, ac y mae genyf achos cofio rhywbeth arall yn nglyn â hi; costiodd yr araeth hono i mi £500. Perswadiwyd fi gan nifer o gyfeillion i argraphu yr araeth mewn ffurf pamphledyn, a gwnaethum hyny; taenwyd ugeiniau o filoedd ar hyd a lled y wlad," ac ychwanegai gan wenu, "and I had to pay the piper."
Un prydnawn dywedodd wrthyf,"Bu'm yn rho'i tipyn o dro yn y wlad, yr oedd yn boeth iawn, ac yr oeddwn yn sychedig. Troais i mewn i fwthyn ar ochr y ffordd a gofynais am ddiod o ddwfr. Ni fedrai yr hen wraig Saesneg, ac ni fedrwn inau eich iaith brydferth chwi; sut bynag, gwaith hawdd ydyw gwneyd i rywun ddeall fod syched arnoch. Yr oedd yno hen gloc gwyneb pres, ac wrth edrych ar fy watch, gwelais fod yr hen gloc awr yn ffast. A fedrwch esbonio hyn i mi; yr oeddwn wedi gweled peth cyffelyb amryw droion mewn amaethdai Cymreig yn sir Feirionydd." "Y mae yn hen arferiad syr," meddwn inau, "yn y wlad yn Nghymru, i gael y clociau awr o flaen clociau y trefi, er mwyn cael gan y gweision a'r morwynion godi yn gynt yn y boreu." "Wel, wel, Mr. Jones," meddai yntau, gan chwerthin nes oedd yn siglo, "dydw i ddim yn gweled logic o gwbl yn hyny. Os bydd y gweision yn dechreu ar eu gwaith awr yn foreuach, y maent yn cael rhoddi i fyny awr yn gynarach hefyd, os ydynt yn myn'd wrth y cloc."
Un diwrnod daeth i aros i'r sefydliad hen foneddwr o Durham, ac ar ol tipyn o sgwrs, cefais allan ei fod ef yn aelod o bwyllgor etholiad Mr. Bright pan ymgeisiai am gynrychiolaeth y ddinas hono yn y flwyddyn 1843. Nid oedd wedi gwel'd Mr. Bright i siarad gydag ef byth ar ol hyny, a llawenychai yn fawr pan glywodd fod y gŵr mawr yn Llandudno, a bod tebygolrwydd y c'ai ei weled. Boneddwr hynod of wylaidd oedd y gŵr o Durham, lled anhebyg, mae arnaf ofn, i ysgrifenydd yr adgofion hyn. Fodd bynag, hysbysais y ffaith i Mr. Bright, a chafodd y ddau ymgom hapus am ddigwyddiadau yr amser gynt.
Fel y gŵyr y darllenydd yr oedd Mr. Bright yn hoff o Billiards, ac yn chwareuwr o'r radd uchaf, ac nid oedd dim a roddai fwy o foddlonrwydd iddo na rhoddi curfa dda i rhyw swell a ddigwyddai gael y fraint o chwareu gydag ef. Chwareuai un waith bob prydnawn cyn gadael yr Hydro, yn fwyaf cyffredin gyda Doctor Thomas. Ar ol myn'd yn ol i Lundain, anfonodd anrheg o set o daclau chwareu fel rhôdd i'r sefydliad, ac am ddim a wn i, yno y maent eto. Dyma y tro olaf y bu Mr. Bright yn Llandudno, a gallwn ychwanegu mai dyma y tro olaf hefyd i'r ysgrifenydd, ond nid yw hyny fawr o bwys.
Terfynaf yr ychydig adgofion hyn am yr hen Grynwr enwog o Rochdale yn ngeiriau "Mr. Punch" bymtheng mlynedd yn ol,—
Stout John Bright ,
What ever you do, whether wrong or right ,
You do it with all your might.