Adgofion am John Elias/Pennod I
← Anerchiad | Adgofion am John Elias gan Richard Parry (Gwalchmai) |
Pennod II → |
PENNOD I
Y MAE nifer o ddarluniadau wedi eu tynu o John Elias, o bryd i bryd, mewn rhyddiaith, barddoniaeth, a phortreadau. Y maent gan mwyaf wedi eu gwneyd i osod allan ŵr mawr a thywysog yn Israel, yn hytrach na dilyn y gwreiddiol yn unig. Y darlun goreu yw y tebycaf i natur, ac nid y gwychaf ei liwiau. Peth hawdd yw tynu llun dyn; ond peth anhawdd yw tynu llun y dyn. Cryn orchest ydyw gwneyd cyfiawnder âg ardeb y gwr sydd genym yn awr dan sylw dan bob amgylchiadau. Y mae adgofion personol weithiau yn ateb llawn cystal dyben yn hyn a dim a all yr hyawdledd mwyaf, neu'r arfolawd dysgleiriaf, ei gynnyrchu. Maddeuer i ni, gan hyny, am osod ychydig o adgofion ger bron, yn lle darlun, am dro.
Y mae cyhoeddiad John Elias, a gwr dyeithr o'r enw Thomas Jones, Corwen, gydag ef, yn un o drefydd Môn ar noson waith. Y mae hyn yn peri cryn gyffro yn y gymmydogaeth. Y mae y ddau yn cyfarfod eu gilydd yn ddamweiniol. Y mae yr addoldy yn orlawn o wrandawyr; y mae y gwasanaeth wedi dechreu. Y mae hen ŵr penwyn o'r enw Rhisiart Williams, Gorslwyd, yn dechreu yr oedfa. Y mae y gwr ieuanc yn codi at y ddesg. Y mae ei edrychiad fel dyn craff, treiddgar, wyneb llym, trwyn uchel teneu, a'r olwg arno ar y cyfan yn ddigon dymunol. Y mae yn lled ddyeithr i'r dorf—ni welsant mo hono o'r blaen, oddigerth rhyw unwaith, a'r pryd hwnw fel cyfaill i John Roberts, Llangwm; ond yr oedd wedi tynu sylw rhai y tro hwnw fel dyn ieuanc gobeithiol. Y mae yn darllen ei destyn,—"Canys y palasau a wrthodir, lluosogrwydd y ddinas a adewir; ïe, yr amddiffynfeydd a'r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa deadellau, hyd oni thywallter yr Ysbryd o'r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goed-dir." Y mae yn dangos yn fuan ei fod yn ymadroddwr medrus; y mae yn tywallt ffrwd o hyawdledd, nes y mae yn symmud teimladau y dorf; a chyn pen hanner awr, y mae yn gweithio ei hun i hwyl mor ddedwydd, nes y mae yn gallu cario teimladau y gynnulleidfa gydag ef yn hollol; a chyn diweddu, y mae wedi cael perffaith feistrolaeth ar dymmerau ei wrandawyr, nes y mae yr holl dorf yn foddfa o ddagrau, ac yn ymyl tori allan i orfoledd. Y mae yn terfynu yn nghanol gwres y teimladau hyn yn yr adeg fwyaf priodol, ac y mae yn gadael ei wrandawyr yn y myfyrdodau mwyaf derchafedig! Tro anarferol ydyw hwn. Nid yn fynych y gwelir pob peth yn cydgyfarfod mor hynod o darawiadol. Y mae y dorf am fynyd yn fud ddystaw oll, gyda'r eithriad o'r ocheneidiau mynych sy'n dianc o luaws o fynwesau megys yn ddiarwybod iddynt. Y mae yn ofer pregethu dim chwaneg heno. Gwell terfynu ar hyn. Wel, yn awr yr oedd y prawf i fod ar alluoedd yr hen gawr. Yn sicr, yr oedd teimladau y dorf ar y pryd wedi eu codi mor uchel, fel y buasid yn meddwl mai ledio pennill a gweddïo fuasai yn oreu iddo ef y waith hon. Dywedodd rhai hyny yn ddystaw ar y pryd. Ond nid felly yr oedd rhoi Mr. Elias i lawr. Pa fodd bynag, dacw ef yn codi i fyny yn araf, wylaidd; y mae yn agor y Beibl; y mae llyfr du teneu ganddo yn ei law chwith, a'i fys blaenaf yn ei ganol; y mae yn taflu golwg ar y dorf i fyny ac i lawr; y mae yn cyfeirio at y ffenestr yn y talcen, ac yn gofyn, "A fyddwch chwi gystal ag agor y ffenestr acw?" Yna, y mae yn cyfeirio at ffenestr yn y cefn, ac yn gofyn, A fyddwch chwi gystal a chau y ffenestr acw? y mae yr awr yn lled drymllyd. A fyddwch chwithau gystal a dyfod yn mlaen o'r drysau y mae digon o le yn yn yr eisteddleoedd acw.' Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu
Ymddyrcha Dduw y nef uwch law,
Oddiyno daw d' arwyddion," &c.
Y mae yn gwrandaw ar seingarwch y canu er mwyn adnabod tymmeredd yr awyr—i ddeall yn mha gyweirnod i ddechreu llefaru, i ddirnad pa faint o lais fyddai yn ofynol i lanw y lle, ac i ddyfalu pa fodd i ochelyd oedfa drom, ar ol y cyffro mawr a fuasai ar deimladau y dyrfa eisoes. ac i ocheneidiau ac anadl y bobl lygru yr awyr. Y mae y canu drosodd y mae yntau yn dechreu edrych ar y Beibl; ond cyn darllen ei destyn, y mae yn cymmeryd golwg esmwyth, hawddgar, ar y dorf drachefn i fyny ac i lawr, gan ymaflyd yn ymyl ei gôt, a symmud ei ffunan llogell unwaith neu ddwy. Y mae yr olwg arno yn hynod o ddengar: y mae yn dal o gorffolaeth, heb fod yn gnodiog; y mae ffordd hir o'i law hyd i'w ysgwydd; y mae yn perthyn i Gaswallon fraich hir, feddyliem. Y mae pob ystum ar ei law, ei fys, ei wefus, a'i ael, yn swyngar. Y mae ei ben yn urddasol, er nad yw ei wedd yn brydferth. Y mae ei arleisiau yn uchel, ei ruddiau yn ddyfnion. Y mae ei wallt tywyll yn disgyn yn ol ei dyfiant, heb ei droi un ffordd; eto y mae yn ddigon tewglud i beidio ymddangos fel bargod tô gwellt. Ond ei lygaid —ei lygaid: y mae ei enaid mawr yn ymwthio iddynt yn fflam. Y mae lleferydd byw yn mhob gewyn a chyhyr yn ei wyneb. Y mae natur wedi ei dori allan, yn mhob modd manteisiol, i fod yn areithiwr. Y mae ei wisg hefyd yn mhob dull yn gweddu iddo—yn syml, lân, drwsiadus, drefnus—ei gôt Crynwr; ei wasgod ddwbl; ei ffunan wen, gàn, blaun, lefn. Y mae yn tynu ei napcyn gwyn o'i logell, ac yn ei dynu dros ei wyneb: y mae yn ei osod ar y ddesg dan ochr y Beibl. Y mae yn tynu ei anadl i'w ffroenau yn gyflym ddwywaith neu dair. Wel, wel, ni waeth hyny na chwaneg, y mae ei ymddangosiad wedi sychu ymaith hanner y teimladau a gyffrowyd dan y bregeth gyntaf; y mae gobaith i ni am bregeth eto. Onid yw dylanwad fel hyn ar dymmerau dynion yn beth rhyfedd iawn? Pa fodd y gellir rhoddi cyfrif am y dirgelwch? Y mae yn darllen ei destyn yn eglur a dirodres,—"Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd." Ah! fel y mae darlleniad y testyn yn taflu llen o arddwysedd dros wyneb y dorf! Y mae ei lais yn gafael yn mhob teimlad, ac yn myned yn fwy soniarus bob brawddeg; nid o ran dim pereidddra neillduol sydd ynddo, ond o ran priodoldeb y darlleniad, addasrwydd yr aceniad, a threiddgarwch ei wedd. Y mae yn rhagymadroddi ac yn esbonio cyssylltiadau y testyn. nes y mae, fel masnachydd eang, yn agor y ddor ac yn symmud y gauadlen, a holl drysorau ystordy mawr y gwirionedd yn ymddangos fel hanner dydd o flaen yr holl dorf, fychan a mawr, ar unwaith; neu o leiaf cyn pen deng mynyd. Y mae yn rhanu ei destyn yn gelfyddgar. Dyna ni wedi myned drwy un orsaf yn awr. Y mae yn myned rhagddo ac yn ymresymu â'r dorf yn oleu, yn argyhoeddiadol, ac yn afaelgar, nes y mae cyn pen ugain mynyd wedi ennill meddylfryd y bobl yn lân, ac wedi golchi ymaith yr holl deimladau uchel a godwyd gan y bregeth gyntaf yn gwbl oll, ac wedi claddu ei ragflaenorydd o'r golwg ddeg llath ar hugain dan y ddaiar. Y mae y dorf yn awr yn gwbl at ben ei fys, ac y mae fel pe byddai yn deall ei fod wedi gweithio teimladau ei wrandawyr i fod yn arweiniai i wefryddiaeth gwreichionog ei genadwri. Y mae wedi llyncu syniadau y bobl i fyny yn llwyr, a'u gosod i droi ar begwm ei bwnc ei hun yn unig. Y mae yn gwaeddi, "Gwrandewch yn awr." O, dyna ymadrodd heb ei eisieu beth bynag ar hyn o bryd; camp fyddai cael gan neb beidio gwrandaw yn awr: y mae pob oen sydd yma yn glust i gyd er ys meityn. Y mae ei ysbryd wedi ei danio gan wres y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu. Y mae pryder a dysgwyliad wedi gwisgo pob wyneb dyn, ac y mae pob clust wedi ei hoelio wrth ddor ei ymadrodd. Ymddengys yn awr fel cadfridog yn sefyll o flaen y dorf, a chleddyf yr Ysbryd yn ei law, ac y mae fel pe byddai yn ymwybodol ei hun ei fod dan arweiniad uniongyrchol ei Feistr. Y mae fel pe byddai wedi penderfynu y myn ryw bechadur yn rhydd o'i berygl yn yr oedfa hon, pe byddai heb bregethu byth mwy. Mewn gwirionedd, ymddengys yn awr, nid yn unig fel pe byddai yn ymwybodol fod "Tywysog llu yr Arglwydd" ar ei ddeheulaw, ond y mae fel pe byddai yn deall sefyllfa a theimlad y dorf sydd o'i flaen, ac yn gweled fod min y cledd yn cyffwrdd â chydwybodau y bobl yn barod. Ah! dyma ni wedi pasio yr ail orsaf yn awr. Y mae rhyw newidiad yn ei wedd. Y mae ei lais yn disgyn i ryw dinc mwyn yn y minor key. mae yn dechreu tyneru, os nad yn dechreu toddi, teimladau y dorf; ond nid oes dim eto o'r hwyl hyfryd a deimlwyd dan y bregeth gyntaf. Y mae yn dychwelyd at y dull ymresymiadol, fel pe byddai yn gweled rhyw un heb ei lwyr argyhoeddi. Y mae yn uchder nerth ei weinidogaeth yn awr. Y mae yn son am ffrwyth pechod, fel un wedi profi ei chwerwder ei hunan. Y mae yn son am edifeirwch, fel un wedi bod ei hun yn gwaedu dan ei archollion. Y mae yn darlunio uffern fel un a fuasai wedi bod ei hun yn chwilio ei holl ogofâau â lanterni. Y mae yn arwain y bobl i ymyl dibyn gwlad y gwae, nes y mae llawer fel pe byddai arnynt ofn syrthio dros ymyl y gallery yn y capel. Y mae rywbeth tebyg i anobaith fel pe byddai wedi ei argraffu ar ruddiau pawb. Rhyw deimlad rhyfedd fyddai yn y dorf pe gollyngid pawb adref ar hyn! Buasai yn well i'r bobl gael myned ymaith ar ol y bregeth gyntaf. Pa fodd bynag, y mae yn myned rhagddo, ac y mae yn gollwng ei saethau tanllyd mor aml ac mor effeithiol, nes y mae teimladau ei wrandawyr yn cael eu dwysbigo, a'u calonau yn gwaedu ar lawr! Y mae ysbryd y peth byw yn gweithio drwy yr holl gynnulleidfa fawr: y mae rhyw ferw drwy bob man; ac o'r braidd na thybiem fod y dorf fel pe byddai yn dychymygu fod y tyle yn symmud dan eu traed. Y mae pawb eto yn fud; nid oes yma ddim eto o'r teimladau uchel a brofwyd dan y bregeth gyntaf, er fod yma rywbeth—rywbeth—y peth—beth y galwn ni ef?—sydd yn fwy effeithiol fil o weithiau na dim a glywsom o'r blaen. Y mae ei iaith yn dda ac yn ddillyn; ond y mae yn cameirio yn aml iawn "canlnyniad, ternas," &c.; ond ni waeth beth a fo, y mae rhyw swyn hyd yn oed yn ei gamsilliadaeth. Y mae wynebau y bobl wedi colli eu hagwedd gyffredin—y mae pob llinyn yn eu gwedd fel pe byddai wedi ymollwng. Beth mewn gwirionedd ydyw peth fel hyn? O'r braidd na feddyliem, wrth syllu ar wyneb gwelw llawer un, ei fod yn dywedyd yn ddirgel yn ei fynwes, "Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Ah! dyna ef yn troi yn awr oddi wrth yr anghredadyn at y gwrthgiliwr. Y mae ei eiriau yn disgyn fel tân ar benau y bobl. Y mae rhyw hanner crac yn ei lais yn awr, ac y mae bron yn tori i wylo! Beth ddaw o'r dorf bellach? Y mae rhai wedi eu cadwyno—rhai wedi eu synu―rhai wedi eu syfrdanu—ac ereill wedi ymollwng! Y mae yn gwaeddi allan, "Wel, deuwch â'r waredigaeth i'r golwg bellach?" "Ah! a fyddai yn onest i mi ddangos y noddfa i chwi cyn i chwi deimlo eich perygl?" Y mae y dorf yn ddystaw fud eto. Y mae rhai yn dechreu tynu allan eu napcynau i sychu y gruddiau gwlybion. Y mae ambell hen chwaer yn methu yn lân a chadw y teimlad i lawr; y mae yr ager yn rhy gryf i'r safety valve. mae un yn gwaeddi allan yn y gornel draw, "Fy mywyd i!" Y mae un arall yn mron ymdori yn y fan arall, wedi ymattal yn hir, yn gwaeddi, "Oes gobaith i fy math i?" Un arall, "O fy enaid gwerthfawr i!" Un arall, "Beth a wnaf?" Y mae yna ddynion cryfion â'u hwynebau yn amliwio wrth geisio cuddio eu teimladau. Ond nid oes yma eto ddim o'r cyffro cyffredinol oedd dan y bregeth gyntaf. Ar hyn, dyma y pregethwr, o ganol ei ymresymu, yn cael ei gymmeryd i fyny gan deimlad cryf. Dyma ni yn cael ein symmud i station newydd eto. Y mae yn codi ei lef, ac fel pe byddai yn rhedeg i ganol y gwersyll, ac yn codi baner y groes yn ngolwg y bobl, ac â llais treiddgar, fel udgorn arian y deml, yn cyhoeddi gobaith i'r euog, ac agoriad carchar i'r rhai sydd yn rhwym; y mae yn galw ar bawb at orsedd trugaredd; y mae yn dyferu myrr oddi wrth ben ei fys hyd hespenau rhydlyd cloion calonau pechaduriaid celyd; y mae yn tywallt olew iachawdwriaeth gras ar glwyfau yr argyhoeddedig. Y mae yn agor drws llydan o obaith o flaen yr hen wrthgiliwr, ac yn galw ar yr afradlawn i ddyfod yn ol i dŷ ei Dad. Y mae fel bugail tyner yn gwylio y praidd, ac yn tyru y defaid o'i flaen i'r gorlan, â'i ffon gnwpa,—
A'i danbaid lygaid a'i lef—dilyna
Afrodloniaid adref
Fe lwydda grym ei floedd gref"
i symmud yr holl dorf ar unwaith, fel pe byddent wedi cael eu trydanu gan fellt y gyfraith, a'u bywhau gan lais hyfryd rhad ras yn eu harwain at odrau y groes. Y mae y waredigaeth wedi dyfod i'r golwg o'r diwedd; y mae drws trugaredd wedi cael ei agor o led y pen; y mae trothwy y noddfa yn cael ei dangos ger llaw. Y mae yn awr fel pe byddai yn estyn ei fraich hir dros ymyl yr areithfa, ac â'i law yn dattod y cwlwm ac yn tynu y cortyn oddi am wddf rhyw hen bechadur sydd yn sefyll ar y drop, ac y mae hwnw yn neidio i fyny yn nghanol y dorf, ac yn gwaeddi allan, "Y fagl a dorwyd, a minnau a ddiengais!" Y mae yr holl dyrfa fawr fel pe byddai yn gwyro dan ei weinidogaeth—fel y goedwig dderw yn plygu dan y rhyferthwy hyd y llawr! Dyma yr olygfa yn newid eto, ac yr ydym wedi cyrhaedd yr orsaf ddiweddaf yn awr. Y mae ei wedd yn sirioli, a gobaith yn dychwel ar wedd y dorf. Y mae yn cymmysgu ei gymhwysiad o'r athrawiaeth at y bobl â gweddïau taerion drostynt, gydag effeithioldeb digon i hollti calonau o adamant! Y mae fel pe byddai yn cael ei gipio i'r drydedd nef, ac yn son am yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw fel un a fyddai wedi bod yno ei hun yn eistedd ar y fainc, a chario teimladau gogoniant yn ol i'r ddaiar, a'u cyflwyno i fynwesau ei wrandawyr bob un. Dyma ddydd y Pentecost mewn gwirionedd yn Nghymru! Crëwyd teimladau yn yr oedfa hon a hir gofir yn Môn, ac ni bydd tragwyddoldeb ei hun yn ddigon o hyd i'w golchi ymaith.
Wedi adrodd hyn o adgofion, nid oes eisieu gwneyd nemawr o sylwadau. Ond y mae yn naturiol i ni ofyn, A oedd dim a allesid ei ddysgu a barai y gwahanol olygfeydd a welsom, a'r holl orsafoedd yr arweiniwyd ni drwyddynt? Y mae yn ddiau fod celfyddyd yma; ond yr oedd dan yr eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnw, Yr oedd dylanwad yr Ysbryd fel addurn ar alluoedd naturiaethol tra rhagorol —celfyddyd yn ei champ uchaf, ac eto heb neb â llygad digon craff i'w chanfod—celfyddyd dan effeithiolaeth mor gyssegredig nad all hyawdledd dynol ei dynwared. Y mae hyn yn rhyfedd iawn! Buom yn teimlo tipyn dros sefyllfa yr hen wron pan oedd y gwr ieuanc yn nofio yn nghanol ei hwyl, a'r gwynt a'r llanw yn gweithio o'i blaid, a'r dorf wedi ei gorloni dros ben pob mesur. Ond erbyn y diwedd, yr oedd y cwbl wedi myned yn ddim—ac yntau ddim yn amgen na'r merlyn bach yn yr arddangosfa, a osodir wrth ochr yr elephant, er mwyn dangos y cyferbyniad yn fwy. Nid oes un ammheuaeth ynom nad yn y dromarawd (tragedy) yr oedd cuddiad ei gryfder ef. Y mae hyny yn cael ei brofi, feddyliem, oddi wrth un amgylchiad neillduol y gellid cyfeirio ato. Bu llongddrylliadau mawrion ar derfynau Môn unwaith, a darfu i'r wlad warthruddo ei hun yn fawr trwy redeg dros y terfynau ar y pryd. Annogwyd Mr. Elias mewn cyfarfod misol i areithio yn erbyn y pechod cyn pregethu yn mhob man y gallai fyned—ac felly fu. Yr oedd ei anerchion y pryd hwnw mor daranllyd, fel yr oedd y gwrandawyr yn arswydo ac yn dychryn ar eu traed; a'r canlyniad a fu, i gannoedd o lwythi meni o eiddo gael eu danfon yn ol, a'u tywallt yn garneddi ar lan y môr, gyferbyn â'r lle y dygwyd hwy o hono. Ni thramgwydda neb wrthym am ddyweyd fod John Elias, fel areithiwr, yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb a welodd Cymru ar ei ol! Nid oes eisieu un teitl iddo ef—na B. A., nac A.M., na D.D. Y mae mwy o swyn yn enwau syml a diaddurn John Elias, a Christmas Evans, nag sydd yn holl deitlau y byd. Nis gall Ynys Môn anghofio yr enwau cyssegredig hyn tra byddo Mynydd y Twr yn cael golchi ei odre gan donau y môr!
'Elias fawr â'i lais fu
Drwy hon yn hir daranu;
Yntau, Christmas, addas oedd
Yn llaw Arglwydd y lluoedd—
Dau i agor diwygiad
Ar lw i gynhyrfu'r wlad,
A dau gerub di—guro,
Goleu fryd, siglai y fro :—
Ond dau haul mawr teulu Mô
A orwedd gyda'r meirwon."