Neidio i'r cynnwys

Adgofion am John Elias/Pennod III

Oddi ar Wicidestun
Pennod II Adgofion am John Elias

gan Richard Parry (Gwalchmai)

Pennod IV

PENNOD III

JOHN ELIAS MEWN CYFARFOD O'R GYMDEITHAS FEIBLAU.

MEWN erthyglau blaenorol, gosodwyd ger bron ychydig o adgofion am Mr. Elias yn pregethu ar noson waith, yn anerch dorf ar y maes, ac yn cynnal addoliad teuluaidd yn y man lle y llettyai noswaith gyntaf y sassiwn yn Môn. Gelwir ein sylw y tro hwn ato yn areithio mewn cyfarfod cyhoeddus perthynol i'r Feibl Gymdeithas.

Tua deugain mlynedd yn ol—neu o leiaf yn mhen tua deg neu ddeuddeng mlynedd ar ol ei ffurfiad cyntaf—daeth y gymdeithas i ennill sylw a dylanwad neillduol drwy yr holl wledydd. Nid oedd Cymru yn ol, a Môn ac Arfon yn arbenig. Er hyny, tua'r amser hwn, yr oedd llawer yn edrych arni gyda llygad eiddigus, os nid gyda chilwg go ragfarnllyd.

Haerent mai dyfais ymneillduol oedd y Gymdeithas Frytanaidd a Thramor i wrthweithio amcan a llafur y Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol, yr hon oedd ar y maes yn barod, ac yn gweithio yn llwyddiannus er ys llawer dydd.

Er fod rheolau y gymdeithas newydd yn profi yn ddigon eglur i bob dyn diduedd nad oedd un math o sail i'r cyhuddiadau a ddygid i'w herbyn; eto, yr oedd yn lled anhawdd rhoddi y rhagfarn i lawr ar y cyntaf. Pa fodd bynag, gweithio ei ffordd yn mlaen, ennill tir, a chwanegu cryfder yr oedd y gymdeithas yn barhäus; a'i thrysorfa yn chwyddo yn rhyfeddol y naill flwyddyn ar ol y llall. Daeth o'r diwedd i rifo rhai o bigion y wladwriaeth yn mysg ei noddwyr a'i swyddogion. Yr oedd ei chynnydd yn dyfod i fewn mor rymus a llanw y môr, fel y buasai mor ofer i neb gynnyg troi nerth y llifeiriant ag a fuasai ceisio troi y dòn yn ei hol.

Tua'r adeg hon, yr oedd cyfarfodydd cyhoeddus y gymdeithas i gael eu cynnal yn nhrefydd Caernarfon a Beaumaris. Gwahoddwyd y Gwir Anrhydeddus Ardalydd Môn i lywyddu ynddynt. Derbyniodd y pendefig enwog y gwahoddiad yn serchus, a chydsyniodd â'r cais, gan addaw bod yn gydroddwr o ddeg neu ugain punt yn y flwyddyn at y drysorfa. Parodd hyn gryn gyffro drwy yr holl Dywysogaeth.

Disgynodd yr hanes fel tân gwyllt ar deimladau dosbarth neillduol yn y wlad. Rhoddodd gryn dramgwydd i luaws o fawrion y tir; a pharodd ddychryn rhyfeddol yn ngwersylloedd dynion o feddyliau rhagfarnllyd ac egwyddorion culion. Amcanwyd perswadio yr Ardalydd na wisgai yn dda iddo ef ymgymmysgu felly âg Ymneilldüwyr; a dywedent, er y gallai dybenion rhai o'r bobl fod yn dda, eto, gan fod cymdeithas arall ar y maes yn barod, y byddai ei wasanaeth yn hono yn fwy o wir werth:—ond nid felly yr oedd troi gwron Waterloo o'i ffordd. Wedi iddo ef wneyd ei feddwl i fyny, buasai yn haws cael tori aelod arall iddo, na chael ganddo dori ei air. Yr oedd wedi addaw dyfod; a phenderfynai sefyll at ei addewid. Dichon mai yr ardalydd oedd y cyntaf o'r uchelwyr yn Ngwynedd a ddaeth allan i bleidio y gymdeithas hon.

Cyhoeddwyd hysbysiadau am y cyfarfodydd; ac yn mysg ereill, yr oedd Dr. Steward, o Liverpool, i areithio yn Seisoneg, a John Elias, o Lanfechell, i areithio yn Gymraeg. Erbyn hyn, gwelid nad oedd modd troi yr Ardalydd o'i lwybr.

Deallid y byddai ei bresennoldeb yn foddion i dynu lluaws o foneddigion i fod yn bresennol, er mai yn lled anfoddog y byddai rhai o honynt yn dyfod. Yr oedd yr Ardalydd newydd gael ei goroni â gogoniant bythgofiadwy Waterloo, a'i urddo â theitlau newyddion yn ddirif; ac yr oedd y gofgolofn o anrhydedd iddo newydd gael ei chodi ar glogwyn uchel Craig y Ddinas ar lan afon Menai yn Môn. Nid allai y boneddigion oedd newydd fod wrth y gorchwyl o godi monument iddo lai na'i gyfarfod yn y cynnulliad cyhoeddus hwn. Darfu iddynt oll feddwl mai gwell fyddai bod yno, a chaniatäu i'r Dr. Steward, fel dyn dyeithr, gael areithio; ond mai gwell a fyddai cymmeryd John Elias yn esgusodol ar y fath amgylchiad a hwn, ac y cai ef arfer ei ddawn mewn cyfarfodydd llai cyhoeddus ar hyd y wlad. Ni allent oddef y meddwl am ei wrandaw, er na addefid mo hyny ar air; ond yn hytrach, awgryment y gellid ei esgusodi am y tro! Cynnygiwyd y peth i sylw y swyddogion; ond ni fynai neb o honynt hwy, na'r cyhoedd chwaith, er dim i Mr. Elias fod yn ddystaw. Yr oeddynt yn benderfynol am iddo anerch y dorf.

Y cyfarfod mawr a ddaeth! Yr oedd llygaid yr holl wlad arno! Nid oedd nemawr gwr o Fôn nac Arfon, nad oedd rhywun oddi yno yn bresennol. Yr oedd y boneddigesau yn ddirifedi yno o bob man. Yr oedd pob peth erbyn hyn yn barod at ddechreu y cyfarfod, a'r lle yn orlawn o wrandawyr. Mawr oedd y pryder bellach yn mhob mynwes; a phawb yn tremio tua'r drws, ac yn ymwrandaw a oedd dim arwydd fod y cadeirydd ger llaw; ac yn dysgwyl bob mynyd glywed carnau y meirch yn trystio ar y palmant i hysbysu am ei ddyfodiad. Yr oedd y pryder yn codi fwyfwy bob mynyd fel yr oedd yr amser i ddechreu yn nesäu. Nid oedd na siw na miw, na dim tebyg am y cadeirydd o fewn pum mynyd i awr y cyhoeddiad. Ar hyn, dyma sibrwd drwy yr holl le, nad oedd y llywydd yn dyfod i'r cyfarfod! Yr oedd hyn fel tawch ar y cwbl; ac yr oedd megys niwl tywyllwch wedi ymdaenu dros bob wyneb yn y lle! Ond, ust! gyda bod yr awrlais yn dechreu taro un ar ddeg o'r gloch, dyma drwst olwynion y cerbyd yn sefyll ar y foment wrth y gorddrws, a dyma y gŵr mawr i mewn, ac i'w gadair rhag blaen, nes yr oedd yr holl le yn fyw drwyddo ar unwaith, a gwên newydd. yn cael ei gwisgo gan bawb. Erbyn hyn, dyma y ffanau, y ffuneni, a'r sidanau, gan y rhïanod, yn sïo llawenydd yn yr holl ystafell drwyddi draw. Wel! dyna bawb yn ei le, a dystawrwydd y bedd drwy bob man, a gorchwylion pwysig y cyfarfod yn dechreu.

Cododd y llywydd i fyny. Eglurodd ddybenion y cyfarfod mewn byr eiriau. Dywedodd ei fod yn hollol gymmeradwyo amcan y gymdeithas; ac yr ystyriai yn fraint iddo gael cydweithredu yn mhob modd tuag at ddwyn y fath gynllun bendigedig yn mlaen! Wedi darllen yr adroddiad, a myned drwy gylch y gorchwylion arferol, galwyd ar yr areithwyr i gymmeryd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod, gyda y cynnygion a'r cefnogiadau. Ai y cyfan yn mlaen yn y modd mwyaf dymunol a chymmeradwy.

Bellach, dyna enw Mr. John Elias yn cael ei alw o'r gadair. Rhyfedd oedd yr olwg ar nifer yn y lle y pryd hwnw Yr oedd llawer yn troi gwegil, ac nid wyneb, tuag ato: ereill, yn hytrach na throi cefn, yn gwneyd osgo lled ochrog tuag ato, gyda gwefl laes, a thrwyn sur, a llygad cilwgus! Wel! o'r goreu: nid oedd yr holl agweddau a wneid yn ddigonol i'w roddi ef i lawr. Deuai yn mlaen—talai foesgyfarchiad i'r llywydd, mewn ymddygiad tra boneddigaidd; a dychwelai y llywydd yr amnaid yn ol gyda gwên. Gwelai yn eglur fod rhywbeth ynddo ar yr olwg gyntaf! Dechreuai yr hen gyfaill ar ei orchwyl. Er mor gas oedd ei enw gan lawer, yr oedd hyd yn oed yr olwg arno wedi lladd hanner eu rhagfarn yn barod; ac yr oedd ei gyfarchiad gweddus o'r braidd wedi lladd yr hanner arall. Dechreuodd drwy gymmeryd golygiad ar ansawdd Cymru cyn cael y Beibl. Dangosodd, cyn pen pum mynyd, fod hanesiaeth ei wlad ar ben ei fys. Yr oedd y gynnulleidfa yn gymmysgedig o Seison a Chymry—rhai yn ei ddeall, a rhai heb ei ddeall. Pan ddaeth at hanes y cyfieithiadau Cymreig o'r Ysgrythyr, ac i'r dorf ei glywed yn son am William Salusbury, Dr. Morgan, Dr. Richard Davies, Thomas Heret, canghellwr Tyddewi, Dr. Whitgift, Dr. Hughes, Dr. Bellot, Dr. Gabriel Goodman, Dr. David Powell, ficar Rhiwabon, Archddiacon Prys, Mr. Richard Vaughan, a'r Dr. Parry, ac ereill, disgynodd seiniau ar eu clustiau na ddysgwyliasent oddi wrtho ef; a hen enwau anwyl oedd fel miwsig ar eu calonau. Ac fel yr oedd yn myned yn mlaen i son am y gwahanol argraffiadau o'r Beibl Cymraeg, ac yn rhedeg dros enwau Thomas Middleton, Rowland Heylin, Walter Cradoc, Vavasor Powell, Thomas Gouge, Stephen Hughes, Dafydd Jones, yr Esgob Llwyd, Moses Williams, a'r Morusiaid o Fôn, ac ereill, a chanfod fod yr holl hanes drwyddi, fel llythyrenau yr egwyddor, o flaen ei feddwl, nid oedd modd peidio gwrandaw arno; ac wedi dechreu ennill eu sylw, a thoddi y teimlad, a thwymno y serch, yr oedd y rhew i gyd wedi toddi yn ddiarwybod rywfodd! Ac fel yr oedd yn myned rhagddo yn ei araeth, â'i eiriau nerthol, a'i iaith dda, a'i ddawn dengar, nid oedd un gwegil nac ochr ar ei gyfer; ond pawb megys am eu bywyd yn gwrandaw ac yn tremio arno. Wedi arwain y dorf i gymmeryd golygiad ar ansawdd Cymru, a darlunio yr angen yn mha un yr oedd y genedl yn sefyll am ryw ddarpariaeth mwy effeithiol na dim a gafwyd eto—er cymmaint oedd y llafur a fu, yr oedd pob dyn wedi llwyr anghofio ei gulni a'i ragfarn, a phob teimladau wedi eu cydsyfrdanu yn lân! Yna, symmudodd i orsaf newydd yn ei anerchiad. Darluniodd sefyllfa foesol y wlad ar y pryd hwnw, megys mewn rhyfel rhwng goleuni a thywyllwch—rhwng sancteiddrwydd a phechod—Crist a Belial a bod y ddwy fyddin fawr yn nesäu i gyfarfod eu gilydd yn gyflym—a bod y tir canol rhyngddynt i'w weled yn culhau bob dydd—a bod yn rhaid i'r gwirionedd lwyddo a gorchfygu ar y diwedd yn lân. Dangosodd fod dedwyddwch y byd yn troi ar yr ymdrech fawr hon. Dywedodd fod cynllun o'r frwydr a'r fuddugoliaeth wedi ei gael yn ddiweddar ar faes Waterloo! Erbyn hyn, yr oedd teimladau y dorf yn gwbl at ei alwad. Yr oedd y rhïanod er ys meityn wedi colli llinynau a chyhyrau eu hwynebau. Gwelid ambell un yn colli ei napcyn yn ddifeddwl o'i llaw, a'r llall yn gollwng ei maneg i lawr, a'r drydedd wedi colli trefn cudynau ei gwallt—a phawb yn yr un teimlad! Aeth rhagddo i ddarlunio yr ymdrech diweddar yn Waterloo; a dangosai fel yr oedd tynged cenedloedd, heddwch y byd, anturiaeth masnach, gobaith celfyddyd, cynnydd gwybodaeth—ïe, a rhwydd rediad yr efengyl—yn troi ar yr awr bwysig hono. Ond yr oedd llaw Rhagluniaeth i'w gweled yn amlwg yno. Yr oedd eu cadfridogion wedi eu donio â'r doethineb a'r gallu oedd yn ofynol i'r orchest fawr. "Yr Arglwydd sydd ryfelwr—yr Arglwydd yw ei enw." Ar hyn, tröai i ddarlunio y llywydd yn myned yn mlaen i'r maes yn y foment yr oedd y glorian fawr i droi am byth! Defnyddiodd y darluniad sydd yn llyfr Iob am y rhyfelfarch a'i farchog i'w osod allan:—"Dychymygaf," meddai ef, "ei weled yn dyfod i'r maes ar ei farch gwyn: hwnw yn diystyru arswyd, ac yn herio pob dychryn ei draed yn cloddio y dyffryn, yn llawenychu yn ei gryfder wrth gyfarfod arfau; y cawell saethau yn trystio yn ei erbyn—y cledd, y bidog, y waewffon, a'r darian, yn serenu yn ei lygaid, ac yn dysgleirio o'i amgylch; ond y cwbl i ddim ond i'w wneyd yn barotach i lyncu y ddaiar gan greulondeb a chynddaredd."

Darluniai ef yn rhedeg i ganol yr udgyrn, ac yn gwaeddi "Ha! ha!" mewn gwawd am eu penau; ac yn arogli rhyfel o bell—twrf tywysogion a bloeddio! "Ond y marchogwr enwog mewn perffaith hunanfeddiant, yn nghanol y mwg a'r tân, yn cyfarwyddo y fyddin, ac yn arwain ei gadrod, nes yr oedd wedi hollol gylchynu y gelyn, fel nad allai fyned yn mlaen nac yn ol; ond yntau yn rhy fawr ac yn rhy foneddigaidd i'w ladd ei hun pan yr oedd yn ei gyrhaedd!" Ar hyn, attaliwyd peth ar hyawdledd yr areithiwr gan deimladau y dorf; o blegid yr oedd sî dystaw yn rhedeg drwy yr holl ystafell; a chryn gamp i gadw griddfanau a chrechwenau i lawr. Ond yn mlaen yr aeth Mr. Elias yn ei araeth; ac fel yr oedd yn cryfhau yn ei nerth, ac yn tanio yn ei ysbryd, yr oedd yn myned yn fwyfwy effeithiol o hyd! Dywedai yn awr—" Dychymygaf glywed bloeddio concwest cyn ei hennill! Ië, ond concwest ar draul colli bywyd un o bigion ein cenedl a fydd! Nage; dim ond colli un aelod! Ar hyn, dyma angeu yn dyfod yn mlaen, ac yn taflu pelen nes ysgar aelod y llywydd; ond beth er hyny, dyma Ragluniaeth i'r maes yn yr un moment, ac yn gwaeddi ar angeu, fel y gwaeddodd yr angel ar Abraham gynt—Attal dy lawhyd yna yr äi, ac nid yn mhellach!' Gochel gyffwrdd â'i einioes—na feiddia fyn'd gam yn nes at ei fywyd na'r aelod. Y mae arnaf fi eisieu ei wasanaeth eto fel cadfridog mewn brwydr o natur uwch o lawer na hon—y mae arnaf fi eisieu ei wasanaeth i lywyddu yn nghadair y Feibl Gymdeithas —y mae arnaf eisieu iddo arwain byddin i daenu gair y bywyd i bob gwlad, ac iaith, a phobl, a chenedl, dros wyneb yr holl ddaiar." Bloeddiodd allan yn y fan hon â llais grymus, ond lled doddedig—"Y mae y gelyn wedi ei rwymo; ond gair Duw nis rhwymir!" Ar hyn, dyma yr holl gynnulleidfa fel pe buasai wedi ymddyrysu yn lân!—weithiau dystawrwydd—weithiau sibrwd—weithiau dystaw holi: a'r Seison oedd heb ddeall Cymraeg yn brysurach na neb, wrth ganfod y thrill drwy yr holl ystafell, yn gofyn—"What?— What was that? What did he say?—What was that excitement?" &c. Yr oedd yr holl sidanau erbyn hyn yn ddagrau—yr holl fwcram yn wlanen—a'r holl starch yn llyn! Wedi ychydig o ddystawrwydd, ac adfeddiant o deimladau, amneidiai y cadeirydd ar gyfaill oedd ger llaw i ofyn beth oedd yr achos o'r cyffro? Nesaodd hwnw at ei glust, a dywedodd—"It was an allusion to yourself, my Lord, and the accident at Waterloo, where the interposition of Providence spared you to preside over this meeting," &c. Ar hyn, gwelid y llywydd yn prysuro i chwilio am ei ffunan poced, â'r dagrau mawr, fel y pys, yn dylifo o'i lygaid! Dychymyged y darllenydd, bellach, os gall, beth oedd y teimladau oedd wedi eu creu yn yr holl dorf erbyn hyn! Ië, dyma y maeslywydd gwrol yn wylo fel plentyn!

Nid oedd digon o nerth yn holl drwst magnelau Waterloo i fenu ar ei deimlad, mwy na'r graig; ond dyma araeth Cymro yn troi y graig gallestr yn llyn dwfr! Nid oedd dim digon o rym yn y belen a ysgarodd ei aelod i gyffroi ei ysbryd; ond dyma effaith un anerchiad yn nghyfarfod y Feibl Gymdeithas yn lliniaru yr hwn a osodai ei wyneb fel callestr, nes ei ddwyn mor dyner, mor wylaidd, mor deimladol, a'r plentyn bach!

Ni wnaeth Mr. Elias wedi hyn ond terfynu gydag appeliad dwys, oddi wrth ymadrodd yr apostol, "Bellach, frodyr, gweddïwch drosom, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd."

Tro hynod oedd hwn, ac adeg arbenig iawn ar oes Mr. Elias. Newidiodd llawer eu barn am dano ar y pryd. Aeth llawer oedd mewn rhagfarn ofnadwy yn ei erbyn o'r blaen o'r braidd i feddwl gormod o hono ar ol hyn. Aeth llawer o wŷr a fuasent yn ddigon parod i'w ddeoli ynys Patmos, am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, o'r bron i'w orfawrygu. Pa fodd bynag am hyny, rhoddodd gychwyn newydd yn olwynion Cymdeithas y Beiblau. Bu yn ffyddlawn a llwyddiannus iawn gyda'r gymdeithas yn mhob modd. Arferai fod yn bresennol yn ei holl gyfarfodydd blyneddol; ac effeithiodd ei ddylanwad i raddau mawr er chwyddo ei thrysorfa. Y mae Môn wedi ei hynodi ei hun am ei chyfraniadau i'r gymdeithas hon er ys blyneddoedd yn ol; ac y mae yn parhau yn yr un ysbryd haelionus hyd heddyw. A ydyw yn ormod i ni awgrymu yma fod dylanwad areithiau Mr. Elias yn fyw yn nghasgliadau y wlad hyd yn awr? "Y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Môn! "Ereill a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll!"

"Ie, daethost i'r Feibl Gymdeithas—fel mam
Ddyfal mewn aur balas;
Dy roddion o dra addas—haelioni,
A'th olud erddi, fythola dy urddas!"
 


Nodiadau

[golygu]