Neidio i'r cynnwys

Adgofion am John Elias/Pennod IV

Oddi ar Wicidestun
Pennod III Adgofion am John Elias

gan Richard Parry (Gwalchmai)

Pennod V

PENNOD IV.

JOHN ELIAS, A CHYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.

NID dyn i enwad, na chenedl, na gwlad, yn unig ydoedd Mr. Elias; ond dyn i'r byd, ac i eglwys Dduw yn gyffredinol. Ar yr un pryd, nid oedd heb ei syniadau neillduol na'i deimladau pleidiol. Ond yr oedd ei feddwl mor eang, a'i enaid mor fawr, fel nad allesid ei gadwyno i le na dosbarth. Ymdeimlai yn debyg i'r apostol, pan y dywedai, "Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid ac i'r barbariaid hefyd, i'r doethion ac i'r annoethion hefyd." Yr oedd arlun o'r byd wedi ei argraffu ar ei galon. Ymdeimlai yn ddwys dan y rhwymedigaethau y gwyddai yr oedd yr efengyl wedi ei osod danynt. Gwyddai fod Rhagluniaeth wedi ymddiried cryn raddau o ddylanwad i'w law, fel offeryn er lledaenu yr efengyl; ac er cwblhau yr ymddiried a roddwyd iddo, cyflwynai holl alluoedd cryfion ei feddwl, holl nerth ei gryfder corfforol, a holl deimladau tyner ei galon, i'r gwaith. Ni arbedai ddim a allai nac a feddai, heb eu haberthu ar allor defnyddioldeb cyffredinol. Yr oedd yn un o bleidwyr mwyaf cyhoeddus y Beibl Gymdeithas, fel y crybwyllwyd yn flaenorol. Yr oedd yn un o brif gyfeillion y genadaeth hefyd. Yn mlodau ei ddyddiau, Cymdeithas Genadol Llundain a bleidiai; ac nid oerodd ei deimladau yr un gradd tuag ati hyd ei fedd ac at ei wasanaeth i'r gymdeithas hon, mewn modd neillduol, y cyfeirir yn yr erthygl hon.

Arferai Mr. Elias ysgrifenu anerchiad ar ran y genadaeth yn flyneddol: yr hwn a ddarllenid gan y cyhoedd yn wastadol gydag awyddfryd byw. Traddodai araeth gyhoeddus hefyd, yn mhob man, lle y gallai gyrhaeddyd, er annog y cynnulleidfaoedd i gyfranu i'w thrysorfa, bob tymmor gauaf; a byddai dysgwyliad mawr bob tro am yr anrheg flyneddol, yr hon a ystyrid fel calenig werthfawr gan yr holl wledydd —ac yn neillduol, tuag ynys Môn. Un bore Sabbath arbenig, teithiai drwy yr eira mawr, ar ei draed, â hen ffon hir weinidogaethol Dafydd Morys yn ei law, bum milltir o ffordd, at ei gyhoeddiad. Ni allasai farchogaeth ar y pryd, gan lithrigrwydd y ffordd, o herwydd y rhew. Gwyddai fod casgliad i gael ei wneyd at y genadaeth, a dysgwyliad am araeth genadol yn y lle. Yr oedd ei anerchiad y tro hwn, fel areithiwr, yn un o droion dedwyddaf ei oes. Ymddangosai, yn mhob modd, yn ei wisg Sabbathol. Yr oedd hi megys yn ganolddydd ei oes weinidogaethol tua'r amser hwnw. Yr oedd ef yn ei fan goreu, yn mhob ystyriaeth. Yr oedd addfedrwydd ei farn, eangder ei wybodaeth, grym ei ddawn areithyddol, uchder gwres ei eiddigedd dros achos y Gwaredwr, a phob peth arall, yn eu hadeg fwyaf manteisiol er iddo allu gwneyd argraff ar ei wrandawyr. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl, er oered oedd yr hin. Yr oedd holl deimladau ei feddwl yntau wedi eu llanw hyd yr ymylon. Yr oedd ei ysbryd wedi ei danio i'r byw. Gwyddai amryw oedd yn bresennol am arwyddion allanol teimladau ei fynwes. Byddai gwylder cyssegredig neillduol yn gwisgo ei wedd a'i ymddygiad pan fyddai ei enaid yn orlwythog o feddyliau. Felly y rhagdybid yn arbenig y tro hwn, pan yr oedd ar ddechreu ei anerchiad. Dysgwylid y ceid ganddo rywbeth nad ydoedd i'w gael bob dydd. Yr oedd pregeth i ddilyn yr araeth.

Dechreuai drwy daflu golwg gyffredinol ar ansawdd y byd, mewn ystyr foesol, ac fel yr oedd yr holl genedloedd yn gorwedd mewn drygioni, ac yn eistedd yn mro a chysgod angeu. Rhwyddhäai y ffordd yn fyr ac yn naturiol at ei sylwadau dilynol. Cyfeiriai at y feddyginiaeth oedd yn cael ei chynnyg at adferiad y byd. Nodai ddwy gymdeithas yn neillduol, oedd fel dwy chwiorydd o efeilliaid, â'u gwyneb arno; sef Cymdeithas y Beiblau, a'r Gymdeithas Genadol. Cymharai y gyntaf i'r had, a'r ail i'r hauwr. Dangosai fod y naill mor angenrheidiol, o ran ei gwasanaeth, a'r llall. Pe byddai cyflenwad o had mewn granary, ac yn cael ei adael yno, gofynai, "Pa les a wnai, heb i'r hauwr ei daflu dan y gwys? Pe safai yr hauwr mwyaf medrus a ffyddlawn ar y maes, a fyddai wedi ei wrteithio yn dda, a'i aredig yn drefnus, ac eto heb had yn ei lestr, pa les a ddeuai o'i waith?—a oedd neb a ddysgwyliai am gnwd? Nac oedd, neb. Ond lle y byddai y ddau wedi cydgyfarfod, yr oedd yr amcan yn sicr o gael ei gwblhau. Felly am y ddwy gymdeithas hyn, y mae Rhagluniaeth y nef wedi anfon y ddwy allan gyda'u gilydd i wynebu ar faes y byd. Y gair yw yr had, y maes yw y byd, a'r hauwr ydyw y cenadwr anfonedig. Rhaid cael y tri i afael â'u gilydd. Er argraffu a rhwymo y Beiblau, ni allwn roddi adenydd iddynt, a'u cyflwyno i ofal y gwynt. Y mae yn rhaid i'r paganiaid glywed gair y gwirionedd; ond 'Pa fodd y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano a pha fodd y clywant heb bregethwr? a pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt?'

"Y mae amryw o gymdeithasau cenadol ar y maes, ond un ydynt mewn yspryd a dyben; ac y mae llawer yn un, bob amser, yn nerth. Fe allai mai y Swissiaid a gafodd yr anrhydedd o ddyfod allan i'r maes gyntaf, yn y flwyddyn 1556, pan yr anfonodd Eglwys Geneva bedwar ar bymtheg o genadon i gyhoeddi 'yr ymadrodd am y groes' i froydd eang South America. Ffurfiwyd y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl mewn Parthau Tramor yn gynnar iawn. Daeth y Brodyr Unedig, neu y Morafiaid, allan yn fore gwnaethant anturiaethau rhagorol, a buont yn ddefnyddiol iawn. Y mae Cymdeithas Genadol y Wesleyaid wedi anfon gweithwyr ffyddlawn i'r maes—i'r Iwerddon a Ffrainc, i Gibralter a Malta, i'r Ashantee a'r Liberia Colony, a manau ereill. Y mae gan y Bedyddwyr gymdeithas lwyddiannus iawn, sydd wedi anfon allan genadon gwir enwog i'r gwledydd cynhes a thymmerus, yn neillduol. Y mae Cymdeithas yr Eglwys Sefydledig yn gweithio yn rymus mewn gwahanol barthau o'r maes, tua Sierra Leone, Malta, Cairo, British Guiana, a lleoedd ereill. Gellid crybwyll am amryw gymdeithasau ereill sydd yn cydweithio yn y gorchwyl mawr; megys yr Edinburgh, neu y Scottish Missions, Cymdeithas y Netherlands, Cymdeithas Berlin, y German Missions, a'r Basle Institution, y French Protestant a'r Rhenish Missionary Society; ac amryw ereill o lai sylw a ellid eu nodi. Y mae y rhai hyn oll yn cydweithredu, fel gwahanol gatrodau mewn un fyddin arfog, yn ymosod ar dywyllwch y byd paganaidd, ac yn ymdrechu i ledaenu egwyddorion y grefydd Gristionogol dros holl derfynau y byd.

"Y mae rhywbeth ychydig yn wahanol yn egwyddorion ac amgylchiadau y gymdeithas yr ydym ni yn llafurio gyda hi i'r lleill i gyd, er eu bod yn un yn yr amcan a'r dyben mawr. Nid yw y gymdeithas hon yn gyfyngedig i unrhyw blaid. Ni fyn ymgyfenwi ar unrhyw blaid; ac o herwydd hyn, gelwir hi, Cymdeithas Genadol Llundain. Cynnwysa Gristionogion, fel y cyfryw, heb olygiad ar blaid, na syniadau neillduol ar drefn eglwysig. Ei chenadaeth hi ydyw anfon allan bregethwyr 'i efengylu yn mysg y Cenedloedd anchwiliadwy olud Crist,' a gadael i'r dychweledigion ymffurfio yn bleidiau fel yr ymddangoso oreu yn eu golwg hwy eu hunain. Wyneba y gymdeithas hon ar yr holl fyd hefyd, ac i bregethu yr efengyl i bob creadur; heb wahaniaethu dim rhwng y gwledydd cynhes ragor ardaloedd yr iâ, rhwng India na Siberia, rhwng broydd tywyniad haul na chyffiniau yr eira a'r rhew. Y mae ei chenadon wedi ymwasgaru i China a Madagascar, Canoldir Affrica, ac ymylon New Zealand, o ynysoedd Môr y De hyd yr Ultra Ganges, ac o Werddon—ogleddol hyd y Cape Horn! Y maent wedi wynebu ar bob math o anhawsderau naturiaethol, moesol, a gwladol; ac y mae gwenau y nef ac amddiffyn Rhagluniaeth wedi bod yn eglur arnynt. Y mae yr eneiniad oddi uchod yn disgyn fel gwlith bendith arnynt, a Duw yn peri iddynt oruchafiaeth yn Nghrist, ac yn eglurhau arogledd ei wybodaeth drwyddynt yn mhob lle.

"Yn awr, beth sydd a wnelom ni â'r genadaeth, ydyw ein pwnc yma heddyw. A ydyw y gwaith wedi ei gwblhau? Nac ydyw nid yw ond megys ar ei ddechreu. Y mae gan y byd paganaidd hawl bersonol ar bob un o honom ni; a dangos y rhwymedigaeth sydd arnom ni ydyw ein hamcan yma yn awr. Pwy a ddanfona yr efengyl iddynt, ond y rhai a'i cafodd? Pwy a ddenfyn weithred bywyd y byd tywyll iddo, ond y rhai yr ymddiriedwyd hi i'w dwylaw? At bwy y mae Ethiopia yn estyn ei dwylaw yn brysur, y mynyd hwn, ond atom ni sydd wedi ymgynnull yma? Yr wyf yn gwybod nad oes dim ond eisieu i'n gwlad ddeall ac ystyried sefyllfa y byd paganaidd, na theimla er gwneyd ei rhan yn deilwng yn yr achos. I'r dyben hyny, ni a amcanwn roddi i chwi ryw awgrym o ansawdd y byd, yn ei sefyllfa ddaiaryddol, ac yn mhoblogaeth pob gwlad, a'r cyflwr moesol y mae y gwahanol genedloedd ynddo, er ein cyffroi a'n codi i wneyd a allom tuag at anfon gair y bywyd i bob dyn yn mhob man!

"Y mae pawb sydd yma yn deall mai pelen gron ydyw y ddaiar, yn troi ar ei phegwn unwaith bob dydd yn y gwagle mawr; a'r lloer yn troi o'i hamgylch, fel morwyn i ddal y ganwyll iddi, unwaith bob mis; ac yn cylchdroi hefyd, drwy yr eangder dirfawr, unwaith bob blwyddyn o amgylch yr haul. Y mae poblogaeth ein daiar ni yn fil o filiynau o rifedi o ddynolryw; ac o'r nifer mawr hwnw, y mae dros yr hanner mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth —yn gorwedd yn mro a chysgod angeu; ac heb glywed cymmaint a sill o air y bywyd erioed! Y mae yn anhawdd ini ffurfio dychymyg parod am y nifer sydd yn gynnwysedig mewn miliwn. Y mae yn disgyn ar y glust o'r bron yr un sain a mil; ac ar y deall o'r bron yr un fath. Hanes y byd, a chymhariaeth yn unig, a all gynnorthwyo ein meddwl i ffurfio dychymyg priodol am y nifer. Ni a ymdrechwn, gan hyny, i gael gan bawb sydd yma ffurfio dirnadaeth, o leiaf, am ansawdd y byd, ac amlder ei boblogaeth, drwy geisio dyrchafu ein hunain yn ddigon uchel, i gymmeryd golygiad ar y ddaiar yn ei hysgogiad ar ei phegwn dyddiol, a chraffu ar ei gwyneb, a sylwi ar ei thrigolion. Felly, ni a gymmerwn ein sefyllfa, o ran ein dychymyg, yn y man lle y darluniai yr angel hwnw, yn Llyfr y Dadguddiad, ei fod, pan yr oedd yn sefyll yn nghanol yr haul:—'Ac mi a welais angel,' medd Ioan, 'yn sefyll yn nghanol yr haul.' 'Tybiwn ninnau, yn awr, ein bod yn sefyll ar le manteisiol ar yr haul, ac yn tremio i lawr tua'r ddaiar, ryw bellderau dirfawr, â llygad treiddgar, fel y wawr, a'n bod yn edrych ar ei symmudiadau, fel y byddo hi yn troi ar ei hechel, yn ei chylchrod eang, yn yr eangder mawr. Dychymygwn yn awr ei gweled, fel pelen bach ddysglaer, o draw, yn troi yn rheolaidd, tua'r dwyrain. Dacw hi yn cychwyn! Beth a welwn ni gyntaf? Dacw dref Llundain, yn awr, yn union, gyferbyn a ni. Y mae hi yn symmud o'r golwg, yn fuan. Prin y mae Lloegr wedi colli o'r golwg, nad yw yr Iwerddon, rhan o'n hymherodraeth ni ein hunain, yn dechreu ymddangos. Beth sydd acw i'w ganfod? O! saith miliwn o Babyddion, yn boddloni ar ymgrymu i ddelw, o lun y groes, yn lle credu 'yr ymadrodd am y groes;' ac, mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth, yn cael eu tywys wrth ewyllys yr offeiriaid Pabyddol, heb wybod dim eu hunain am ffordd y bywyd! Beth! ai nid oes acw neb yn ceisio gwared y rhai a lusgir i angeu? Oes, y mae gwaith mawr wedi ei ddechreu acw. Dacw bregethwyr yr Irish Evangelical Society yn un man, ysgolion yr Hibernian Society mewn man arall, a'r gwahanol weinidogion Protestanaidd mewn cyrau ereill—oll yn gwasgar goleuni y gwirionedd yn nghanol y dywyllnos ddu!

"Gyda bod yr Atlantic wedi llithro yn ddystaw o'r golwg, i adael ein chwaer—ynys, dacw yr Unol Daleithiau yn addurno canol yr eigion, ac yn dechreu tremio arnom! Beth sydd yn y fan acw? Llwythau dirifedi o ddynolryw, yn gweu drwy eu gilydd yn nyfnder tywyllwch a thrueni; ond eto, er hyn i gyd, y mae acw fyddin ardderchog o genadon yn tywys y trigolion at odreu y groes!

"Craffwch eto yn awr! Dacw y Môr Tawelog llydan yn dyfod i'r golwg, wedi ei fritho âg ynysoedd fil, a thrigolion pob un o honynt yn plygu mewn addoliad ger bron eu heilundduw! Ond, er hyny, dacw Tahiti ac Eimeo yn dysgleirio yn ddengar. fel dwy seren ddysglaer yn nghanol mynwes y môr mawr, a goleuni gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist yn llewyrchu oddi wrthynt dros donau hirfeithion yr eigion dwfn.

"Dyma ni yn awr yn cael difyru ein llygaid gyda rhyw gipolwg ar demlau Cristionogol, megys yn nofio ar wyneb Môr y Deheu. Craffwch yn awr: dacw China eang, â'i hymherodraeth helaeth, yn dyfod yn brysur i'r golwg. O! clywch, fel y mae hi megys yn griddfan dan drueni tri chan miliwn o eilunaddolwyr anwybodus a choelgrefyddol! Nid oes dim i'w glywed ond son am ryw Confucius a Foe, yn lle yr Oen a laddwyd! Ond eto, dacw amryw o honynt yn cyfarfod eu gilydd yn ddirgel i ddarllen y Testamentau Newydd a wasgarwyd gan Morrison a Milne, yn ddystaw, yma a thraw. Y mae blaenffrwyth y cynauaf mawr wedi cael ei gyhwfanu acw yn barod, ni a welwn!

"Y mae y ddaiar eto yn troi yn ddiorphwys. Gwelwch yn awr, dyna lewyrch yr haul yn disgyn ar wastadedd eang Hindwstan, sydd yn cael ei olchi yn barhäus gan ddyfroedd y Ganges, a'i llifeiriant diaros. A dacw Juggernaut a'i olwynion dinystriol: dacw y tanllwyth claddedigaeth yn ffaglu dacw y weddw yn cael ei llosgi yn fyw gyda'i gŵr trancedig! Eto, er yr oll o'r trueni, dacw mission houses Serampore a Calcutta yn dyfod yn dirion i'r golwg. Dacw Bradbury, a Morton, a Lessel, newydd gyrhaedd yno y mynyd yma, i ddilyn Carey a Townley, a fu yno o'u blaen; ac y mae rhyw wawr wedi tori ar y fro dywyll acw, sydd yn dal perthynas â haul hanner dydd, sydd i dywynu yn ddysglaer ar yr holl derfynau cyn hir. Brysiwch! brysiwch! edrychwch dros fynyddau y Northern India; gwelwch yr ardaloedd hirfeithion sydd yn ymestyn hyd y pegwn. Onid oes acw le galarus i edrych arno? dim ond dyfnder llygredigaeth a thrueni yn mhob man. Eto, er hyny i gyd, daew Swan, a Hallybrass, a Youell yn dechreu planu rhosyn Saron yn eira Siberia, a lili y dyffrynoedd yn Tartary bell.

"Dacw Persia ac Arabia eto yn awr yn dyfod yn mlaen. A! y fath filiynau sydd yna dan dwyll y gau brophwyd. Ond eto, wrth i chwi graffu yn fanwl, wrth symmud o Astrachan gyda glanau Môr Caspia, gellwch weled cenadon yr Edinburgh Society yn dechreu ar y gwaith, na therfynir mo hono nes cymmeryd meddiant o'r tiroedd eang o'r bron i wasanaethu Gwaredwr y byd!

Syllwch yn awr, yn benodol—dacw Palestina yn dechreu dyfod i'r golwg. A! yr hen wlad enwog. Dacw y dyffryn lle y bu Abraham, tad y ffyddloniaid, yn codi ei babell! Ar y bryn acw y bu Dafydd yn cyfansoddi llawer o'i salmau! Dacw y mynydd lle y bu Esaiah yn chwareu ei delyn, ac yn rhagfynegu genedigaeth Crist! Dacw Galfaria lle y gwaedodd y Messiah mawr! Dacw yr ardd!—a'r bedd! Braidd na ddychymygwn glywed rhyw deithiwr dyeithr ac unig yn dywedyd yn ddystaw a gwylaidd acw, 'Deuwch, gwelwch y fan lle gorweddodd yr Arglwydd!' Mae yn alarus gweled yr Iuddewon acw yn gwibio ar hyd y lle; ac onid yw yn dwyn gwaedd eu tadau gynt yn groch ar ein clustiau—' Bydded ei waed ef arnom ni ac ar ein plant!' Y mae ei waed arnynt yn awr, yn amlwg, mewn ffordd farnol; ond y mae y dydd. yn agos, pan y bydd arnynt mewn ffordd achubol yn nhrefn gras y nef. Rhaid yw impio yr hen genedl yn ei holewwydden ei hun. Pwy na waeddai, Brysied yr amser i ben! Pwy a all lai na theimlo drostynt; a phwy a all lai na llawen hau wrth feddwl fod pob addewid yn ïe ac amen yn Nghrist!

"Dacw Asia Leiaf ger bron yn awr; ond yn nghanol y coelgrefydd sydd yno, ni a ganfyddwn y Russian Bible Society yn myned â'r canwyllbren aur yn ol, mewn un llaw, a chanwyll y gwirionedd yn y llaw arall, i ail oleuo y lampau a fu unwaith yn cynneu dros Fôr y Canoldir yn ddysglaer mewn llewyrch prydferth yn hir.

"A! dacw Affrica eto yn brysio i'r golwg, â'i miliynau barbaraidd yn gwaedu dan law y gorthrymydd. Ond er y cyfan, gwelwn Bethelsdorp a Sierra Leone yn llewyrchu, fel rhag—gynllun o'r dydd pan y gwelir diwedd ar y caethiwed, ac y bydd Haul Cyfiawnder yn goleuo y fro.

"Dacw Ewrop eto wedi dychwelyd i'n golwg yn ei thro! Beth a welwn ni yn y parthau eang acw o honi? Coelgrefydd Eglwys Groeg yn y gogledd, a chyfeiliornadau Pabyddiaeth yn y de. Bellach, edrychwch, dyma ni wedi dychwelyd i'n hen gartref yn ol! Dacw binacl St. Paul yn dyfod i'r golwg. Dacw swyddfa y Gymdeithas Genadol ger llaw! "Wel, bellach, gyfeillion, beth a ddywedwch chwi uwch ben yr holl olygfeydd a gawsom? A oes yma un galon a all lai na theimlo? Ai nid yw yn dda genych gael y fraint o gyfranu, yn ol fel y llwyddodd Duw, tuag at anfon gair y bywyd i'r rhai sydd yn cael eu dyfetha o eisieu gwybodaeth? A oes yma rywun a all attal ei anadl mewn gweddi, ar fod i air yr Arglwydd redeg a chael gogonedd? A oes eisieu annog? A oes eisieu cymhell? Na, na: gwn yn dda fod eich ysbryd wedi ei gynhyrfu ynoch, fel Paul yn Athen, wedi gweled y ddinas oedd wedi ymroi i eilunod.

"Ond eto, y mae rhywun yn barod i ofyn, A oes gobaith y gwelir y dydd pan y byddo y gair wedi ei gyfieithu at dafodleferydd pob un o'r cenedloedd hyn, ac y bydd yr efengyl wedi ei phregethu yn mhob gwlad a welsom ar y daith? Y mae yr ateb yn barod 'Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, yr holl ddaiar a lenwir o ogoniant yr Arglwydd!' 'Nid dyn yw Duw i ddywedyd celwydd, na mab dyn i edifarhau A lefarodd efe, ac oni chywira?' Y mae y cynghor tragwyddol wedi ei fwriadu; y mae aberth Crist wedi ei haeddu; y mae llais prophwydoliaeth wedi ei gyhoeddi; a sel Arglwydd y lluoedd a'i cyflawna. Pe bai i ryw angel ddyfod i ymweled â'n daiar ni am y tro cyntaf, pan y byddai y rhew wedi cloi y dyfroedd, a'r eira wedi gorchuddio y maes, a thlodi a llymder gauaf wedi gwisgo wyneb y byd; a phe byddai i ninnau ei sicrhau y byddai i ryw allu anweledig ddyfod cyn pen ychydig fisoedd ac anadlu ar y ddaiar nes dattod yr holl gloion, a thoddi yr holl ia, ac yr adnewyddid wyneb y ddaiar, ac y dilledid y bryniau o newydd, ac y gorchuddid y dyffrynoedd âg ŷd, ac y gwisgid y gerddi â rhosynau, nes y byddai yr anialwch a'r anghyfanneddle yn llawenychu, nes lloni pob llygad, a sirioli pob calon—a allai yr ymwelydd dy ithr hwn wrandaw yr adroddiad heb gael ei daraw â syndod? a allai efe gredu y rhag dystiolaeth am y cyfnewidiad mawr? Felly ninnau yn yr achos hwn; y mae y dystiolaeth mor gadarn a phe byddem yn gweled y cyfan wedi ei gwblhau yn barod; er ein bod ni yn teimlo ein ffydd yn awr fel yn cael ei phrofi, wrth weled fod y gwaith sydd i gael ei gyflawnu mor fawr! A fydd dim yn anhawdd i'r Arglwydd ei wneuthur? 'Pan ollyngech dy ysbryd y crëir hwynt, ac yr adnewyddir wyneb y ddaiar.' Diau y bydd y cyfan fel creadigaeth newydd. pan y clywir lleisiau yn nghanol y nef yn dadgan, 'Fod teyrnasoedd y byd wedi myned yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef!' Mor ogoneddus fydd y cyfnewidiad! Y mae teyrnas Crist yn ei llywodraeth ar galon pob pechadur ar wahân yn ogoneddus: bydd y credadyn yn greadur newydd! Os ydyw felly mewn dylanwad ar galon un dyn, beth fydd yr olwg ar y byd pan y bydd bywyd ysbrydol a grasau Cristionogol wedi addurno yr holl ddynoliaeth i gyd! Bydd pabell Duw gyda dynion! Bydd holl dylwythau y ddaiar wedi dyfod yn un teulu, ac heb anadlu dim ond cariad, a thangnefedd, a daioni; ac yn addoli yr 'un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll!'"

Ar derfyniad yr anerchiad hwn, yr oedd teimladau hynod wedi meddiannu y dorf. Ni raid yma grybwyll pa effaith a gafodd ar y casgliad ar y pryd. Nid oedd nemawr o rwygo na thanio ar yr amgylchiad hwn, ac nid oedd dysgwyliad am hyny. Nid oedd y testyn yn galw am appeliadau o'r un natur ag y crybwyllwyd am danynt mewn rhai nodiadau blaenorol, mwy na'r amgylchiadau y gelwir ein sylw atynt eto rhag llaw. Yr oedd rhyw hyfrydwch teimlad wedi llanw mynwesau pawb fel eu gilydd ar y pryd. Goleuo a difyru oedd nod mwyaf uniongyrchol yr araeth.

Yr oedd amryw fel pe buasent wedi eu taro â syndod, ac yn edrych ar eu gilydd, i weled a oedd yr un amnaid gan neb; ond nid oedd neb yn meddiannu cymmaint a hyny arno ei hun. Yr oedd pawb wedi eu cydsyfardanu mewn myfyrdod dwys. Bu y ddaiar yn troi ger bron llygaid rhai am wythnos o amser yn barhäus ar ol hyn. Gwyddir iddi ymwthio yn ei chylchdro o flaen dychymyg rhai mewn breuddwydion nos, mewn canlyniad i'r effaith a'r argraff yr oedd y traddodiad wedi ei adael ar y teimlad ar y pryd. Dyma fu testyn ymddyddanion y gymmydogaeth am dymmor maith; ac yn wir, nid yw wedi ei ddileu oddi ar feddwl llawer hyd heddyw. Y mae ei sylwadau, ïe, ei eiriau, ar gof a chadw gan lawer yn eu mynwesau hyd y dydd hwn!

Pe gofynid, yn mha beth yr oedd nerth yr areithiwr yn ymddangos yn fwyaf neillduol ar y tro hynod hwn, gellid cyfeirio at amryw bethau. Yr oedd ei adnabyddiaeth drwyadl o ddaiaryddiaeth yn cario dylanwad grymus trwy yr holl anerchiad. Yr oedd yn cyfeirio at fynyddoedd y gwledydd pell, fel pe buasai yn son am fynydd y Twrf, neu fryniau Bodafon a Llwydiarth. Siaradai am ororau y Ganges a'r Mississippi, fel pe buasai yn adrodd am bethau oedd newydd ddygwydd gyda glanau afonydd Alaw a Braint. Yr oedd ei hysbysiaeth gyflawn am yr holl orsafoedd cenadol, yn nghyd â natur a llafur cenadon pob cymdeithas yn mhob gwlad, yn ei wneyd yn feistr ar ei orchwyl. Yr oedd ei iaith dda a nerthol yn chwanegu at effeithioldeb y dylanwad. Nid oedd Mr. Elias yn ieithydd celfyddgar; ond yr oedd ganddo iaith naturiol, gywir, a dillyn. Clust oedd ei ramadeg penaf ef. Yr oedd ei olygiadau clir ar y pwnc oedd ganddo mewn llaw yn gymhorth iddo gario yr effaith a gafodd; ac i goroni y cwbl, yr oedd yr hyawdledd naturiol dihafal, â'r hwn yr oedd natur wedi ei addurno, yn aros fel cuddiad ei gryfder. Creodd gyfeillion i'r genadaeth ar y pryd, nad oeddynt erioed wedi gwneyd nemawr o sylw o honi o'r blaen cyn hyn. Cymdeithas y Beiblau oedd pob peth yn ngolwg y gymmydogaeth hon; ond yn awr, daeth i ddeall fod chwaer iddi, oedd yn teilyngu yr un amddiffyn ac ymgeledd gan bawb. Y mae yr oes bresennol yn rhy fer i beri i bawb o'r gwrandawyr anghofio gyda pha effeithioldeb y terfynodd ei araeth, gyda'r geiriau, "Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr yw mintai y rhai a'i pregethant." "Ac mor brydferth ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; yr hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Sion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu!"

Nodiadau

[golygu]