Agorodd ddrws i'r caethion
Gwedd
← O! am gael ffydd i edrych | Agorodd ddrws i'r caethion gan Morgan Rhys |
Daeth inni iechydwriaeth → |
170[1] Addasrwydd y Gwaredwr.
76. 76. D.
1 AGORODD ddrws i'r caethion
I ddod o'r cystudd mawr;
Â'i werthfawr waed fe dalodd
Eu dyled oll i lawr:
Nid oes dim damnedigaeth
I neb o'r duwiol had;
Y gwaredigion canant
Am rinwedd mawr ei waed.
2 Wel dyma Un sy'n maddau
Pechodau rif y gwlith;
'D oes mesur ar ei gariad,
Na therfyn iddo byth;
Mae'n 'mofyn lle i dosturio,
Mae'n hoffi trugarhau;
Trugaredd i'r amddifaid
Sydd ynddo i barhau.
3 Teilwng yw'r Oen a laddwyd
O'r holl ogoniant mawr,
Trwy ganol nef y nefoedd,
Ac yma ar y llawr;
Pan elo'r holl greadigaeth
Yn ulw gan y tân,
Teilyngdod Iesu drosof
Fydd fy nhragwyddol gân.
- Morgan Rhys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 170, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930