O! am gael ffydd i edrych

Oddi ar Wicidestun
Hosanna, Haleliwia (DW) O! am gael ffydd i edrych

gan Ann Griffiths

Agorodd drws i'r caethion

169[1] Rhyddid a Maddeuant trwy Grist
76. 76. D.

1 O! AM gael ffydd i edrych,
Gyda'r angylion fry,
I drefn yr iechydwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy:
Dwy natur mewn un Person
Yn anwahanol mwy,
Mewn purdeb heb gymysgu,
Yn eu perffeithrwydd hwy.

2 O! f'enaid, gwêl addasrwydd
Y Person rhyfedd hwn;
Dy fywyd mentra arno,
Ac arno rho dy bwn:
Mae'n ddyn i gydymdeimlo
A'th holl wendidau i gyd;
Mae'n Dduw i gario'r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.

Ann Griffiths


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 169, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930