Agorodd drws i'r caethion

Oddi ar Wicidestun
O! am gael ffydd i edrych Agorodd drws i'r caethion

gan Morgan Rhys

Daeth inni iechydwriaeth (an)

170[1] Addasrwydd y Gwaredwr.
76. 76. D.

1 AGORODD ddrws i'r caethion
I ddod o'r cystudd mawr;
Â'i werthfawr waed fe dalodd
Eu dyled oll i lawr:
Nid oes dim damnedigaeth
I neb o'r duwiol had;
Y gwaredigion canant
Am rinwedd mawr ei waed.

2 Wel dyma Un sy'n maddau
Pechodau rif y gwlith;
'D oes mesur ar ei gariad,
Na therfyn iddo byth;
Mae'n 'mofyn lle i dosturio,
Mae'n hoffi trugarhau;
Trugaredd i'r amddifaid
Sydd ynddo i barhau.

3 Teilwng yw'r Oen a laddwyd
O'r holl ogoniant mawr,
Trwy ganol nef y nefoedd,
Ac yma ar y llawr;
Pan elo'r holl greadigaeth
Yn ulw gan y tân,
Teilyngdod Iesu drosof
Fydd fy nhragwyddol gân.

Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 170, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930