Agorwyd teml yr Arglwydd yn y Nef

Oddi ar Wicidestun
Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion Agorwyd teml yr Arglwydd yn y Nef

gan James Hughes (Iago Trichrug)

O! Tyred, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn

391[1] Teml yr Arglwydd yn y Nef
10. 10. 10. 10.

1 Agorwyd teml yr Arglwydd yn y Nef
A gwelwyd arch ei lân gyfamod Ef;
Holl ryfeddodau Person Crist a'i waith
A welir yno i dragwyddoldeb maith.


2 Cyfiawnder Duw sydd yno'n ddisglair iawn,
A'r gyfraith bur bob iod ohoni'n llawn;
Ond i bechadur, melys yw y sain
Fod trugareddfa hefyd rhwng y rhain.

3 Mae'r Archoffeiriad yn taenellu'r gwaed,
Mewn gwisgoedd sanctaidd, llaesion, hyd ei draed,
O fewn y llen, sancteiddiaf lys y nef,
Ac enwau'r llwythau ar ei ddwyfron Ef.

4 Prïodoliaethau'r nefoedd yn gytûn
Sydd yno'n gwenu ar golledig ddyn;
Mae hedd yn awr o'r nef i'r llawr yn lli,
A noddfa gref o fewn y nef i ni.

5 Crist ydyw'r Arch a'r Drugareddfa rad;
Yn enw Hwn anturiwn at y Tad;
Fe wrendy gŵyn pechadur heb ei ladd,
Fe gymer blaid yr enaid isel radd.

—James Hughes (Iago Trichrug)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 391, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930