O! Tyred, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn

Oddi ar Wicidestun
Agorwyd teml yr Arglwydd yn y Nef O! Tyred, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn

gan William Williams, Pantycelyn

Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes

392[1] Gweddi am Gymdeithas â Duw.
11. 11. 11. 11.

1 O! TYRED, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn,
Preswylia mewn temel a godaist dy Hun:
Dy lais sy mor beraidd, mor hyfryd dy wedd,
Dy olwg sy'n concro marwolaeth a'r bedd.

2 Boed imi'n hyfrydwch, o fore hyd nos,
Gael canu am gariad a chonewest ei groes-
Gogoniant ei Berson, rhinweddau pob gras,
Trwy boenau ofnadwy yn ennill y maes.

3 Gad imi gael heddwch, y perl sy'n fwy drud
Na meddiant holl India'r Gorllewin i gyd ;
Mae gradd o dangnefedd fy Iesu mor fawr,
Fe bwysa ei hunan y nefoedd a'r llawr.

—William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 392, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930