Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes

Oddi ar Wicidestun
O! Tyred, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes

gan William Edwards, Bala

Cenenhadon hedd cânt ddwyn ar frys

393[1] Ymorffwys ar Aberth y Groes
11. 11. 11. 11.

1 FY enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
'Does arall a'th gyfyd o ddyfnder dy loes:
Offrymodd ei Hunan yn ddifai i Dduw,
Yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw.

2 Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes ;
Mae llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd,
Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd.

—William Edwards, Bala (1773—1853)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 393, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930