Aildrefniad Cymdeithas/Pob un i bawb—pawb i bob un

Oddi ar Wicidestun
Traethawd Aildrefniad Cymdeithas Aildrefniad Cymdeithas

gan R J Derfel

R. J. DERFEL, Manceinion o'r Celt 24 Chwef 1888

POB UN I BAWB—PAWB I BOB UN.

Pob un i bawb a phawb i bob un
Wnai nefoedd o garchar y ddaear i ddyn;
Diddymai dylodi, alltudiai bob drwg
A llanwai y gwledydd â hedd yn lle gwg.

Pob un i bawb a phawb i bob un,
Wnai goryn yn gawraidd a baban yn ddyn—
Gwaddolai y gwanaf a nerth yr holl hil
A gwnai yr eiddilaf yn gryfach na mil.

Pob un i bawb a phawb i bob un,
Wnai bob un yn foethus a threfnus ei lun;
Gwnai fil yn foneddwyr, uchelwyr o fri,
Yn mhob cymydogaeth, yn lle dau neu dri.

Pob un i bawb a phawb i bob un
Wnai dai gwirioneddol, prydweddol eu llun,
I bob teulu dedwydd ar hyd yr holl wlad,
Yn lle y cabanau sydd heddyw'n sarhad.

Pob un i bawb a phawb i bob un
Wnai addysg yn waddol cyffredin i ddyn;
Ceid amser i ddysgu a phryd i'fwynhau,
A digon o bleser heb neb i'w nacau.

Pob un i bawb a phawb i bob un
Wnai wlad o drigolion yn deulu cytun,
Heb aelod mewn blinder, o febyd i fedd,
Na swyddog yn eisieu i'w cadw mewn hedd.

Pob un i bawb a phawb i bob un
Newidiai gymeriad dynoliaeth ei hun;
Cynyrchai ddigonedd a gweddill heblaw.
Yn olud cynyddol i'r oesau a ddaw.

Pob un i bawb a phawb i bob un
Wnai nefoedd o garchar y ddaear i ddyn;
Frythoniaid ymunwch, ymgodwch i'r gad,
Gorchfygweb y golygoddianwch y wlad!
R. J. DERFEL,