Aildrefniad Cymdeithas/R. J. DERFEL, Manceinion o'r Celt 24 Chwef 1888

Oddi ar Wicidestun
Pob un i bawb—pawb i bob un Aildrefniad Cymdeithas

gan R J Derfel

Cerddi

R. J. DERFEL, Manceinion.

GAN IWAN JENKYN, F.R.H.S., BETHESDA.

Allan o'r Celt am Chwefror 24. 1888.

Ugain mlynedd yn ol, nid oedd neb yn fwy adnabyddus yn y byd Cymreig na gwrthddrych ein hysgrif. Ei drigfod yn nghanol berw Manchester, yn nghyd ac amryfal alwadau ei fasnach, ac nid y rhithyn lleiaf o leihad yn ei wladgarwch, ydynt yr unig resymau dros ei ymneillduad o'n plith. Ond fel y cawn weled yn ol llaw hwyrach ddarfod i oerfelgarwch Cymry Manceinion tuag ato effeithio ar ei deimladau—ond nid amharodd, ac nis gallai anmharu dim ar ei wladgarwch trwyadl. Yn y newyddiaduron Cymreig, gwelir, nid yn anfynych, gynyrchion ei awen. Yr engraifft ddiweddaraf oedd ei englynion coffadwriaethol i'w hen gyfaill, y diweddar Idris Fychan. Mewn gwlad estronol, yn nghanol helyntion bywyd, aumbosibl ydyw i neb—hyd yn oed i wladgarwr siddgar o ddelw R. J. Derfel—dalu cymaint ag a ddymaunai o sylw i anghenion ac iawnderau ei genedl. Yn ol arfer y Cymry oddicartref, sef tynu at eu gilydd, daeth yr ysgri fenydd pan yn pabellu yn swydd Caerhirfryn i gyffyrddiad mynych ag awdwr anfarwol "Brad y Llyfrau Gleision," ond eto teimlaf fy annghymwysder o ran oed a medr i wneud cyfiawnder a'r Cymro talentog hwn. Ar gais y golygydd, modd bynag, gwnaf a allwyf.

Ganwyd R. J. Derfel yn y Foty, ger Llandderfel, ar y 24ain o Orphenaf, 1824. Ail fab ydoedd i Edward Jones, Tanyffordd, yr hwn ydoedd un o sylfaenwyr yr achos Anibynol yno, a diacon parchus yn yr eglwys hyd ddydd ei farwolaeth.

Yr unig ysgol a gafodd I R. J. Derfel oedd yr Ysgol Sul ac ysgol yr aelwyd! Yr oedd ei fam—fel mam y cenedlgarol Ieuan Gwynedd yn "Atheniad yn wir"—yn un oedd yn sychedu am wybodaeth ac yn hoff darllen yn fawr. Dysgodd ei phlant i gyd pan yn bur ieuaine i ddarllen iaith eu gwlad. Ac yn bump oed, medrai R. J. Derfel ddarllen yn rhwydd a llithrig. Ar ol iddo gyraedd ei ddeng mlwydd diangodd oddicartref. Ryw nos Sul, ar ol bod yn y capel, yn lle dychwelyd gartref, cyfeiriodd ei gamrau tua Llandrillo, heb ddyweud gair wrth neb. A boreu dydd Llun, cyn fod neb wedi codi, yr oedd yn Llangollen; a chyn haner dydd cyrhaeddodd dy ei ewythr, Jonah Roberts, yn Nghefnmawr. Arosodd yno ryw ddwy flynedd. Ystyrid ei ewythr, Jonah Roberts, yn dipyn o brydydd; ac i hyn, mae yn fwy na thebyg, y dylid tadogi dechreuad yr ysfa farddonol yn R. J. Derfel. O leiaf, pan yn byw gyda ei ewythr y dechreuodd farddoni. O'r Cefnmawr symudodd i Llangollen, lle y trigianodd amryw flynyddoedd. Pan oddeutu un ar hugain oed aeth i L'erpwl: ac oddi yno drachefn, yn mhen ychydig wythnosau, i Manceinion. Y pryd hyn nis gallasai siarad gair o Seisneg. Yn y dyddiau hyny, fel yn bresenol, isel iawn oedd masnach, a phrinach fyth oedd gwaith. Wedi aros yn Manceinion ryw ddwy flynedd, a myned allan o waith, aeth i Lundain, lle yr arosodd yn nghylch blwyddyn o amser a llawer o'r amser hwnw allan o waith. Symudodd o Lundain i L'erpwl; ac oddiyno yn ol i Manchester, lle mae wedi aros hyd y dydd hwn. Yma eto, bu ysbaid faith allan o waith, O'r diwedd cafodd le fel paciwr gan y Meistri J. F. a H. Roberts, marsiandwyr o Gymry. Mewn amser, fel cydnabyddiaeth o'i ymroddiad difefl i'w waith, dyrchafwyd ef i'r swydd o werthwr. A chyn bo hir iawn ar ol hyn, penodwyd ef yn Deithydd drostynt, yn yr hon swydd y gwasanaethodd y Meistri Roberts am ryw ddeuddeng mlynedd. Yn y flwyddyn 1866, rhoddodd ei le fel teithydd masnachol i fynu Yr oedd wedi llwyr flino ar deithio, ac yn teimlo awydd cryf am fwy o amser gyda'i deulu; a rhagor o hamdden i ddarllen, efrydu. a chyfansoddi.

Yn gydmar bywyd, dewisodd un o "ferched ei wlad," boneddiges o Ruthyn. Bu iddynt deulu lluosog. Carem alw sylw arbenig ein darllenwyr at yr enwau a roddwyd i blant R. J. Derfel. Efallai fod mwy yn hyn, nag a feddylir. Dyma hwy: Caswallon, Arthur, Rhiwallon, Meirion, Ceridwen, Enid,. &c. Teimlai yn gryf fod ar y Cymry angen mwy o enwau nac oedd ganddynt. Ysgrifenodd lawer o lythyrau i'r Amserau, yn anog y beirdd ac eraill i fabwysiadu enwau newyddion er mwyn cael ychydig o amrywiaeth. Y fath iechydwriaeth enfawr fuassi cael gwared bythol ar yr enwau Iuddewig a thramorol o'n plith! Y fath gaffaeliad fuasai mabwysiadu enwau ein godidog ddewrion dadau a mamau—yn lle y David, Zechariah, Jemima Maria a Georgina Jane!

Hyn, yn benaf a barodd iddo fabwysiadu Derfel" yn enw teuluol, ao nid yn ffugenw yn unig, yn ol arfer beirdd ei wlad. Cofrestrwyd y plant yn "Derfel." Dyna yw eu cyfenw. Fel Mr. Derfel yr adnabyddir y bardd gan ei gwsmeriaid, a'i weithwyr. A digrifol ydyw gwrando ar rai tramoriaid yn ceisio ynganu y guir! Byddai yn eithaf peth i lawer eraill o Gymry efelychu B. J. Derfel yn hyn o beth. Cyhoeddwr, argraffydd, llyfrwerthydd, ydyw R. J. Derfel, ac ymwel ei deithwyr a phob parth o'r wlad. Gyda llaw ai diangenrhaid deongli R. J. Derfel: ei ystyr ydyw Robert Jones Derfel.

Dechreuodd R J. Derfel farddoni o ddifrif tua'r flwyddyn 1852. Y llyfryn cyntaf a gyhoeddodd ydoedd "Rhosyn Meirion," yr hwn a gynwysai, yn mysg darnau eraill, bryddest fuddugol ar y gwladgarwr dihafal "Kossuth." Gwedi hyny gwnaeth "Y Bardd Cristionogol" ei ymddangosiad. Dilynwyd y rhai hyn gan "Brad y llyfrau gleision," "Caneuon Min y Ffordd," "Munudau Segur," "Caneuon gwladgarol Cymru." Traethodau ac areithiau," Geiriau Moliant," "Cantawd Llys Arthur," a "Songs for Welshmen." Dywedasom iddo ddechreu barddoni o ddifrif yn 1852—pan yn wyth ar hugain oed Yn y flwyddyn 1854 cyhoeddwyd Brad y Llyfrau Gleision." Cofus gan genedlgarwyr am yr adeg fythgofiadwy hono pryd yr anfonwyd y "Tri ysbiwyr o Saeson" i regu cenedl y Cymry! Suddodd anwireddau cableddus y "tri ysbiwyr—yn cael eu dyfal gynorthwyo gan barsoniaid yr egwlys Seisnig yn Nghymru—yn ddwfn i enaid y bardd ieuanc. O fel yr ymladdodd y gwladgar Ieuan Gwynedd hefyd oddiar ei glaf wely yn erbyn y gethern ysgymun hon! Eto i gyd, credwn i'r adroddiad celwyddog hwn roddi bodolaeth i'r prudd—chwareu mwyaf deifiol ac arddunol yn ein hiaith—"Brad y Llyfrau Gleision." Wyth ar hugain oed oedd R. J. Derfel pan gyflawnodd y gorchestwaith hwn. Ymddangosai darn bob wythnos yn yr Amserau, a gyhoeddid y pryd hwnw yn Le'rpwl, o dan olygiad yr Hybarch Wilym Hiraethog. Dienw oeddynt; a mawr ddyfalid pwy oedd yr awdwr. Ond ni wyddai neb—hyd yn oed ei gyfeillion mynwesol Creuddynfab a Cheiriog—mai efe oedd yr ysgrifenydd. Gwnaeth Derfel hyn yn benaf, er mwyn cael clywed barn ddiduedd ar y gwaith, ac nid mwynhad bychan gafodd yr awdwr pan dadogid y gwaith i oreugwyr y genedl y naill ar ol y naill!

Dyfod allan yr oedd y gwaith, a'r ystorm yn codi. Gwyr y Llan ac eraill yn bygwth cyfraith ar gyhoeddwyr yr Amsrau—rhai o'r diwedd a ddychrynwyd, ac ni argraffent linell yn ychwaneg. Parodd hyn i R. J. Derfel gyhoeddi "Brad y Llyfrau Gleision yn llyfr, a beiddio y dynionach a fuont mor barod i warthruddo Cymru. Ni bu neb yn ddigon ynfyd i roddi oyfraith ar R. J. Derfel am ei ddynoethiad diarbed o gastiau maleisddrwg yr ysbiwyr a'u cyfeillion. Mae arnaf flys dodi rhai dyfyniadau o "Frad y Llyfrau Gleision" gerbron y Celtiaid. Myner a darllener ef.

CYTHRAUL (yn anerch ei frodyr).

"Nid allwn byth gael cynllun tebyg iddo,
Gan hyny awn ar frys i'w cynorthwyo;
Cynhyrfwn yr ysbiwyr i gamchwilio,
A'n brodyr a parsoniaid i gamdystio;
A gwnawn fath ddarlun hagr o'r Dywysogaeth
Nes bydd yn angeu sicr i Anghydffurfiaeth,"


ATHR. EDWARDS (yn anerch ei frodyr).

"Nid ydych ddim heb achos o'ch amheuaeth,
A sail i ofni twyll yr offeiriadaeth;
Ac o bob twyll y sydd, twyll offeiriadol
By fwyaf erchyll waeog ac uffernol;
Gochelwch rhagddynt—gwyliwch ar eu camrau
Mae ysbryd Satan yn eu symudiadau.
*******
O Dduw! pa hyd y pery twyll i ffynu?
Pa bryd y peidir llunio drwg i Gymru ?"

ANIB. DAVIES:

"Fy ngwlad, fy ngwlad, pa bryd y daw yr amser,
Yr adeg hoff, pan wneir i ti gyfiawnder?
Er cyn dechreuad oesau cred, ni chefaist
Gan estronwyr, ond gwawd a thrais, na haeddaist!'

LLEWELYN Y BARDD:

"Clyw Gymru, a llama,—mae Duw yn cyhoeddi
Fod pobpeth yn gweithio yn nghyd er daioni."

IEUAN GYWIR:

"Gwae fydd i chwi, os dangos wnewch bleidgarwch,
Fe ddaw eich twyll yn ol mewn dull na hoffwch."

Diameu y bydd y personau uchod yn adnabyddus i'r cyfarwydd yn hanes" Brad y Llyfrau Gleision." Rhoddwn yn awr engraifft neu ddwy o ganeuon Derfel.

"Gwisgwch y cenin gwyrdd i gyd,
Frythoniaid, ddydd Gwyl Dewi;
Nis gall y cenin fod yn fud,
Os gall rhyw Gymro dewi."

Eto:

"Arbed, arbed, Gymro tyner,
Olion hen yr oesau gynt;
Rhai arbedodd treuliol amser,
Mynych wlaw a 'stormus wynt;


Cymer ofal, rhag eu dryllio,
Cysegredig y'nt i gyd;
Ysbryd cryf rhyw ddewrfryd Gymro
Hoflan uwch eu pen o hyd."

Eto:

"Mae helynt mawr mewn ambell fan
Am godi capel Saesneg;
Mae mwy na digon yn y Llan
Ac felly rhaid cael 'chwaneg;
A dyma fel y dywedant hwy—
Mae Smith yn haner angel,
A rhag ei fyn'd i lan y plwy'
Cyfodwn iddo gapel."

Mae llawer o ganeuon R. J. Derfel, megys "Yr Alarch," wedi cael eu ymbriodi a cherddoriaeth. "Llys Arthur" sydd gantawd ragorol o waith y diweddar gerddor medrus J. D. Jones, Rhuthyn. Nid llawer a ysgrifenodd R. J. Derfel mewn cystadleuaeth, ond bu yn dra llwyddianus yn yr ychydig wnaeth. Ei gynyg cyntaf oedd pryddest ar "Kossuth"—a bu yn fuddugol. Ar ol hyn ysgrifenodd i Eisteddfod Bethesda ar "Y Cymdeithasau Llenyddol," ac enillodd y wobr. Ceir y traethawd yn mhlith y "Traethodau ac Areithiau" argraffedig. Yn Eisteddfod Ffestiniog, ymgystadleuodd ar "Ddiwylliad y Meddwl," a daeth yn fuddugol, er fod rhai o oreugwyr y genedl yn gydymgeiswyr ag ef. Cyhoeddwyd y traethawd yn llyfryn dan yr enw "Blaenffrwyth Ardudwy" Enillodd hefyd ar "Ieuan Glan Geirionydd" yn Eisteddfod Dinbych. Hon oedd y gystadleuaeth olaf y bu ynddi. Perthyn tipyn o hanes i'r gystadleuaeth hono, ond y mae yn rhy gwmpasog i'w ysgrifenu yma.

Yn 1865, yr oedd Manchester heb yr un siop lyfrau Cymraeg. Felly, ar ol ei ymddiswyddiad oddiwrth y Meistri Roberts, meddyliodd R. J. Derfel, ond agor un, fod digon o Gymry yn y ddinas i wneyd siop Gymraeg yn llwyddianus. Suddodd ei gyfalaf ffrwyth cynildeb blynyddoedd—mewn llyfrau a nwyddau ar gyfer Cymry y ddinas. Ond suddiad andwyol a dinystriol y trodd allan. Ni chafodd y gefnogaeth leiaf gan ei gydgenedl. Fuasi waeth iddo mor llawer daflu ei arian i'r mor. Mewn canlyniad, wedi pasio canol oed, gorfodwyd ef, mewn ystyr, i ail ddechreu byw; a bywyd o ymdrech ydyw wedi bod byth ar ol hyny.

Nid R. J. Derfel yw y Cymro cyntaf archollwyd gan anniolchgarwch ei gydgenedl. Gwaedodd llawer calon oherwydd y gwendid cenedlaethol hwn. Gallasem enwi aml un; ond ymataliwn. Fel mater o ffaith nid ydyw gwladgarwch pur a hunanaberthol wedi "talu" yn y byd hwn. Credwyf na wna ychwaith. Mewn ystyr fydol nis gall. Ond nid ffrwyth tal ydyw gwladgarwyr. Cariad, greddf, cydymdeimlad trwyadl a'r gormesedig, ac atgasedd llwyr tuag at y gorthrymwyr, yn unig a'u cynyrchant. Eu taledigaeth ydyw—teimlo eu bod wedi cyflawni eu dyledswydd tuag at eu gwiad.

Nid yw R. J. Derfel yn beio neb am y methiant a'i cyfarfyddodd—ond eidddyf iddo dderbyn briw nad yw wedi gwella hyd y dydd bwn. Mawra chwerw oedd ei siomedigaeth; yn lle ychwaneg o hamdden, cafodd lai! Diflanodd barddoniaeth! Ac erbyn hyn mae gofalon y byd a phryder masnachol wedi agos a llethu bob yni meddyliol. Feallai nad oes neb i'w feio ond efe ei hun; oblegid yr oedd wedi meddwi ar wladgarwoh a chenedlgarwch! Dallwyd ef i oleuni synwyr cyffredin! Ond os dallwyd ef — mae mewn cwmpeini gwir anrhydeddus! Perthyn goreuon y ddaear i'r dosbarth dall anfarwol hwn! Bid a fyno am hyny, tywyllodd y methiant a'i cyfarfyddodd fwy nag ugain mlynedd o'i oes. Aoc mewn canlyniad chwilfriwyd llawer o gynlluniau a gobeithion disglaer.

Yn y blynyddoedd tywyll hyn ychydig iawn a gyfansoddodd— a'r ychydig hyny gan mwyaf yn Saesneg. Flynyddoedd yn ol, cyhoeddodd gyfrol fechan yn dwyn yr enw "Hymns and Songs for the Church of Man" gan "Munullog." Ymddangosodd adolygiadau ffafriol arni mewn llawer o'r prif newyddiaduron Saesneg. Arwain y gyfrol hon ni yn naturiol at y cyfnewidiad mawr mewn golygiadau duwinyddol a gymerodd le yn meddwl y bardd. Yn barod i'r wasg, yr oedd ganddo gyfrol o bregethau Cymraeg. Bwriadai eu cyhoeddi yn llyfr gwerth 3s 6c. Derbynissai enwau tanysgrifwyr am dros 600 o gopiau. Ond cyn eu rhoddi yn nwylaw yr argraffydd, daeth cyfnewidiad mawr ar olygiadau yr awdwr ar lawer o'r pynciau y traethid arnynt yn y pregethau. Ac oherwydd hyny ni chyhoeddwyd y gyfrol byth. Ond gan nad amcan yr ysgrifau hyn ydyw croniclo pethau o'r fath, ni ymahelaethwn ar y pen hwn.

Hefyd, rhaid gadael allan hanes y pregethu, y darlithio, a'u cysylltiadau hyd ryw adeg fwy cyfleus. Ond, gellir dweud i R. J. Derfel weithredu fel pregethwr poblogaidd gyda y Bedyddwyr am flynyddoedd lawer. Traddododd ddarlithiau hyawdl ar hyd a lled y wlad.

Yn ei holl lafur—fel bardd, traethodwr, darlithydd, a masnachydd—un meddwl ac amcan oedd ganddo, sef yw hyny, deffro y Cymry i deimlo ei cenedlaetholdeb.

Yr oedd yn ddig wrth ei genedl am ei bod mor wasaidd a llwfr. Mynai i bob Cymro a Chymraes ddal eu penau i fyny—fel Cymry. Cenfydd y cyfarwydd yn ei weithiau—rhyw ddeuddeg o gyfrolau mewn nifer—fod agos yr oll o honynt yn dwyn cysylltiad arbenig a'r un drychfeddwl hwn. Drych cywir o deimladau a golygiadau R. J. Derfel ydyw ei weithiau. Cymro, Cymru, a Chymraeg— dyna ei Alpha a'i Omega.

Yn awr, fel cynt, carai R. J. Derfel i'r Cymry honi eu cenedlaetholdeb. Dyry y deffroad cenedlaethol presenol brawfion diymwad fod y Cymry yn honi eu cenedlaetholdeb! Galwant yn uchel—a y llais yn gryfach ac yn fwy cyffredinol—am Ymreolaeth. Na laeser dwylaw hyd oni orchfyger y trahausder tramorol. Dadleua R. J. Derfel yn wresog am gyfundrefn addysgawl i Gymru, fel na byddo raid i Gymro byth ostwng pen na gwrido, oblegid anfanteision ei wlad yn y pethau hyn. Effro ydyw Cymru ar y mater hwn eto. Peth da, yn meddwl R. J. Derfel, fyddai cael un iaith a ddeallid gan bawb o bobl y byd. Hyd nes y ceir hono, Saesneg yn ddiau yw yr iaith fwyaf angenrheidiol i'w dysgu o'r boll ieithoedd tramorol. Ond na esgeuluser, na ddirmyger yr iaith Gymraeg. Dyledswydd pob Cymro a Chymraes ydyw gofalu fod eu plant yn medru yr hen iaith. Yn ddilys ddiameu, carnfradwr ydyw y neb a ddirmygo ac a esgeuluso iaith ei wlad.

Mae amryw, yn ddiweddar, wedi ysgrifenu ato i ddyweud eu bod hwy yn priodoli eu deffroad cenedlaethol i ddarllen gweithiau R. J. Derfel. Dyma ran o dal y gwir wladgarwr: cael ei gydnabed fel un o'r amryfal achosion ag sydd yn cychwyn ac yn cynorthwyo cenedl o gaethiwed i ryddid. Teimla R. J. Derfel y dyddordeb dyfnaf yn y deffroad cenedlaethol. Ystyria ef yn arwydd er mawr ddaioni. Ond i wneud y symudiad yn wir fendith i'r genedi yn gyffredinol, dylid eangu llawer ar ei amcanion. Yn ei dyb ef dylid ail—drefnu cymdeithas o'r gwaelod, cyn y gellir ei gosod ar sylfeini sefydlog a pharhaus. Dylid gwneud i ffwrdd a thlodi. Y ffordd i hyny ydyw gwneud un frawdoliaeth o'r genedl—neu gyfundeb o amryw frawdoliaethau. Dyledswydd y genedl ydyw gweithredu ar yr egwyddor gynwysedig yn y geiriau a ganlyn, sef, "Pob un i bawb, a phawb i bob un!" Carai R. J. Derfel weled pawb yn trigo yn nghyd fel brodyr— fel cymmrodorion. Dymunol dros ben fuasai hyny hefyd.

Ond rhaid terfynu. Diameu fod R. J. Derfel yn un o'r gwladgarwyr yn un o'r cenedlgarwyr puraf a welodd ein cenedl ni erioed. Wrth osod ein pin o'r neilldu, eiddunwn iddo "oes faith;" boed i ddyheadau ei ysbryd Cymreig gael eu sylweddoli. Ymryddhaed Cymra oddiwrth waseidd-dra. Syrthied ei gefynau ymaith.

Flynyddoedd yn ol, ysgrifenodd y bardd feddargraff iddo ef hun, a chan ei fod yn ddarluniad cywir o hono, dodwn ef yma:—

BEDDARGRAFF R. J. DERFEL.

"Carodd ei genedl, curiodd i'w gweini;
I gyraedd ei henaid gwariodd yni;
Teimlodd yn dost a dadleuodd drosti—
Teimlodd a chanodd mewn hedd a chyni;
Ei ebwch a'i waedd a baich ei weddi
Oedd am wr yn iachawdwr i'w chodi
O lid brad, i glod a bri—a mawredd;
Iawn a gwirionedd yn goron iddi."