Am rif y saint y sydd o'u gwaeau'n rhydd

Oddi ar Wicidestun
Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw Am rif y saint y sydd o'u gwaeau'n rhydd

gan William Walsham How


wedi'i gyfieithu gan Thomas Gwynn Jones
Llais hyfryd rhad ras sy'n gweiddi, Dihangfa
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
William Walsham How
T Gwynn Jones

46[1] Haleliwia.
10. 10. 10. 4.

1.Am rif y saint y sydd o'u gwaeau'n rhydd,
I ti a roes gerbron y byd eu ffydd,
Dy enw, Iesu, bendigedig fydd:
Halelwia, Halelwia!

2.Ti oedd eu craig, eu cyfnerth hwy a'u mur,
Ti, Iôr, fu'n Llywydd yn eu cad a'u cur,
Ti yn y ddunos oedd eu golau pur:
Halelwia, Halelwia!

3. O! boed i'th filwyr ffyddlon pur a drud
Ddal fel y saint, fu gynt mor ddewr eu bryd,
Nes cael fel hwythau goron aur i gyd,
Haleliwia, Haleliwia!


4.Fendigaid gymun! undeb dwyfol ddrud!
Ni yn ein gwendid, hwythau'n wyn eu byd;
Ac eto ynot Ti mae pawb ynghyd,
Haleliwia, Haleliwia!

5.A phan fo'r gad yn drom a'r brwydro'n hir
Daw ar y clyw gân buddugoliaeth glir,
Bydd hyder eto'n fyw a nerth yn wir:
Halelwia, Halelwia!

6.Mae'r euraid hwyr yn gloywi'n deg ei lun;
Daw, daw i'r fyddlon filwr dawel hun,
Mwyn ydyw hedd Paradwys Dduw ei Hun,
Haleliwia, Haleliwia!

7. Ond wele tyr ymlaen ddisgleiriaf ddydd,
Saint gorfoleddus yn eu rhwysg yn rhydd,
Ac Iôr Gogoniant heibio'n mynd y bydd;
Haleliwia, Haleliwia!

8. O fôr a thir er pob rhyw hir wahân,
Drwy byrth o berl daw rhif y tywod mân,
A'u cân i'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân:
Halelwia, Halelwia!

William Walsham How,. cyf. Thomas Gwynn Jones

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 46, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930