Llais hyfryd rhad ras sy'n gweiddi, Dihangfa
← Am rif y saint y sydd o'u gwaeau'n rhydd | Llais hyfryd rhad ras sy'n gweiddi, Dihangfa gan Richard Burdsall wedi'i gyfieithu gan David Charles (1762-1834) |
Mae tywyll anial nos → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
47[1] Haleliwia i'r Oen.
11. 11. 12. 11. 12. 12.
1. Llais hyfryd rhad ras sy'n gweiddi, Dihangfa,
Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa
I olchi aflendid a phechod yn hollol,
Fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol:
Haleliwia i'r Oen bwrcasodd ein pardwn,
'N ôl croesi Iorddonen drachefn ni a'i molwn.
2. Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth,
Ysbeiliodd holl allu'r tywyllwch ar unwaith;
Holl filwyr y groes cânt ynddo dangnefedd;
Fe'u harwain hwy'n sicir i berffaith orfoledd:
Haleliwia i'r Oen bwrcasodd ein pardwn,
'N ôl croesi Iorddonen drachefn ni a'i molwn
3.'N ôl tirio yn iach i'r tawel anheddau,
Ni a seiniwn ei glod ar euraid delynau; T
rwy'r nefol ardaloedd ni a'i molwn byth bythol,
Wrth rodio ar lennydd yr afon dragwyddol:
Haleliwia i'r Oen bwrcasodd ein pardwn,
'N ôl croesi Iorddonen drachefn ni a'i molwn
Richard Burdsall cyf. David Charles (1762-1834),
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 47, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930